Wedi'u gwneud | 15 Tachwedd 2006 | ||
Yn dod i rym | 10 Rhagfyr 2006 |
Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig
2.
—(1) At ddibenion adran 78C(8) rhagnodir tir halogedig a ddisgrifir fel a ganlyn yn dir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig —
(ch) tir y mae proses ragnodedig a ddynodwyd i'w rheoli'n ganolog wedi'i chyflawni arno neu wrthi'n cael ei chyflawni arno o dan awdurdodiad pan nad yw'r broses yn cynnwys dim ond pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;
(d) tir lle mae gweithgaredd wedi, neu yn cael, ei gynnal mewn gweithfan Rhan A(1) neu trwy gyfrwng gwaith symudol Rhan A(1) o dan drwydded, pan nad yw'r gweithgaredd yn cynnwys pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;
(dd) tir o fewn safle niwclear;
(e) tir a berchenogir neu a feddiennir gan neu ar ran —
sef tir a ddefnyddir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu;
(f) tir y gwnaed gwaith arno i weithgynhyrchu, cynhyrchu neu waredu —
ar unrhyw adeg;
(ff) tir sy'n fangre a ddynodir neu a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1(1) o Ddeddf y Sefydliad Arfau Niwclear 1991[7] (trefniadau ar gyfer datblygu etc dyfeisiau niwclear);
(g) tir y mae adran 30 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 1996[8] (tir a gedwir er budd Ysbyty Greenwich) yn gymwys ar ei gyfer;
(ng) tir sy'n dir wedi'i halogi'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn rhinwedd unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd yn y tir hwnnw, arno neu oddi tano, a
(h) tir —
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae "tarau asid gwastraff" yn darau —
(3) Ym mharagraff (1)(ch), mae i "awdurdodiad" a "proses ragnodedig" yr un ystyr ag "authorisation" a "prescribed process" yn Rhan I o Ddeddf 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol) ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli'n ganolog neu yn lleol).
(4) Ym mharagraff (1)(d), mae i “gweithfan Rhan A(1), "gwaith symudol Rhan A(1)" a "trwydded" yr un ystyr â "Part A(1) installation", "Part A(1) mobile plant" a "permit" yn Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000[9].
(5) Ym mharagraff (1)(dd) uchod, ystyr "safle niwclear" yw—
(6) Ym mharagraff (5) mae i "trwydded safle niwclear", "trwyddedai" a "cyfnod cyfrifoldeb" yr ystyr a roddir i "nuclear site licence", "licensee" a "period of responsibility" gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965[10].
(7) At ddibenion paragraff (1)(e), dim ond os yw'r tir yn rhan o ganolfan a feddiennir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu y mae tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl gan Sefydliadau'r Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu i'w drin fel tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu.
(8) Ym mharagraff (1)(e)—
(9) Ym mharagraff (1)(f), mae i "arf cemegol" yr ystyr sydd i "chemical weapon" yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 1996[13], gan ddiystyru is-adran (2) o'r adran honno.
Llygru dyfroedd a reolir
3.
Yr amgylchiadau y mae rheoliad 2(1)(a) yn cyfeirio atynt yw—
Cynnwys hysbysiadau adfer
4.
—(1) Rhaid i hysbysiad adfer ddatgan (yn ychwanegol at y materion sy'n ofynnol o dan adran 78E(1) a (3))—
(d) manylion y niwed sylweddol, y niwed neu'r llygredd i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd;
(dd) y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;
(e) rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniadau ynglŷn â'r pethau y mae'n ofynnol i'r person priodol eu gwneud o ran gwaith adfer, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78E(5) wedi'u cymhwyso;
(f) pan fydd dau neu ragor o bersonau yn bersonau priodol mewn perthynas â'r tir halogedig dan sylw —
(ff) pan fyddai dau neu ragor o bersonau, ar wahân i adran 78F(6), yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth penodol sydd i'w wneud o ran gwaith adfer, rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniad ynghylch a ddylid trin unrhyw un neu fwy ohonynt, ac os felly, pa rai, fel person nad yw'n berson priodol mewn perthynas â'r peth hwnnw, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(6) wedi'u cymhwyso;
(g) pan fydd adran 78E(3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad adfer ddatgan pa gyfran o gost peth sydd i'w wneud o ran gwaith adfer y mae pob un o'r personau priodol yn atebol i'w thalu mewn perthynas â'r peth hwnnw, rhesymau'r awdurdod gorfodi am y gyfran y mae wedi penderfynu arni, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(7) wedi'u cymhwyso;
(ng) pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad —
(h) pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad o dan adran 78G(2) cyn y gellir gwneud unrhyw beth sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad adfer;
(i) pan fwriedir cyflwyno'r hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4), ei bod yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr, oherwydd sylweddau sydd yn y tir, arno neu odano, nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;
(j) y gall person y cyflwynwyd hysbysiad adfer iddo fod yn euog o dramgwydd am iddo fethu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag unrhyw un neu rai o ofynion yr hysbysiad;
(l) y cosbau y gellir eu cymhwyso ar gollfarnu am dramgwydd o'r fath;
(ll) enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi sy'n cyflwyno'r hysbysiad; ac
(m) dyddiad yr hysbysiad.
(2) Rhaid i hysbysiad adfer esbonio—
Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer
5.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r awdurdod gorfodi, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad adfer, anfon copi ohono at bob un o'r personau canlynol, nad yw'n berson y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo—
(2) Pan fydd yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau sydd ynddo, arno neu oddi tano nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir, rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon unrhyw gopïau o'r hysbysiad yn unol â pharagraff (1) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
Iawndal am hawliau mynediad etc
6.
Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn pennu—
ac mae'n gwneud darpariaeth bellach ynglŷn ag iawndal o'r fath.
Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer
7.
—(1) Mae unrhyw un neu fwy o'r canlynol yn seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer o dan adran 78L(1) —
(b) bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu ar un o ofynion yr hysbysiad —
(c) bod yr awdurdod gorfodi wedi penderfynu, a hynny'n afresymol, mai'r apelydd yw'r person priodol sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;
(ch) yn ddarostyngedig i baragraff (2), bod yr awdurdod gorfodi, a hynny'n afresymol, wedi methu â phenderfynu bod rhyw berson yn ychwanegol at yr apelydd yn berson priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;
(d) bod yr awdurdod gorfodi, mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, wedi methu â gweithredu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(6);
(dd) pan fydd dau neu ragor o bersonau yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, bod yr awdurdod gorfodi —
(e) bod cyflwyno'r hysbysiad wedi mynd yn groes i un o ddarpariaethau adran 78H(1) neu (3) (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer) heblaw o dan amgylchiadau pan fydd adran 78H(4) yn gymwys;
(f) pan gyflwynwyd yr hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4) mewn amgylchiadau pan na chydymffurfiwyd ag adran 78H(1) neu (3), na fyddai wedi bod yn rhesymol i'r awdurdod gorfodi farnu bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau yn y tir, arno, neu oddi tano, nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;
(ff) bod yr awdurdod gorfodi, a hynny'n afresymol, wedi methu â chael ei fodloni, yn unol ag adran 78H(5)(b), fod pethau priodol yn cael eu gwneud, neu y byddant yn cael eu gwneud, o ran gwaith adfer a hynny heb i hysbysiad gael ei gyflwyno;
(g) bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer yn ofynnol yn groes i ddarpariaeth yn adran 78J (cyfyngiadau ar atebolrwydd ynglŷn â llygru dyfroedd a reolir);
(ng) bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer yn ofynnol yn groes i ddarpariaeth yn adran 78K (atebolrwydd mewn perthynas â sylweddau halogi sy'n dianc i dir arall);
(h) bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵer, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(b), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;
(i) bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵer, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(e), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;
(j) bod yr awdurdod gorfodi, wrth bwyso a mesur at ddibenion adran 78N(3)(e), a fyddai'n ceisio adennill y cyfan neu gyfran o'r gost a dynnwyd ganddo wrth wneud rhyw beth penodol o ran gwaith adfer—
(l) bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu un o ofynion yr hysbysiad, wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78V(1);
(ll) nad yw cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad yn gyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r apelydd wneud rhywbeth yn rhesymol ddigonol at y diben;
(m) bod yr hysbysiad yn darparu i berson sy'n gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth berthnasol fod yn atebol yn bersonol i dalu'r cyfan neu ran o gost gwneud unrhyw beth o ran gwaith adfer, yn groes i ddarpariaethau adran 78X(3)(a);
(n) bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau adran 78YB[16] (sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhyngweithio Rhan 2A o Ddeddf 1990 â deddfiadau eraill) ac mewn achos lle y dibynnir ar—
(o) y cafwyd rhyw fath o anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, nad oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas ag ef o dan y seiliau a nodir yn is-baragraffau (a) i (n) uchod.
(2) Caiff person apelio ar y sail a bennir ym mharagraff (1)(ch) uchod dim ond mewn achos —
(3) Os yw apêl yn erbyn hysbysiad adfer wedi'i seilio ar ryw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, ac i'r graddau bod apêl wedi'i seilio ar y sail honno, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr anffurfioldeb, y diffyg neu'r camgymeriad yn un o sylwedd.
Apelau i'r Cynulliad Cenedlaethol
8.
—(1) Rhaid i apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn hysbysiad adfer gael ei wneud i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad ("hysbysiad apêl"), sef hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddatgan —
(2) Rhaid i'r apelydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno —
(b) i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (a)(ii), (iii) neu (iv); ac
(c) copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol nad yw wedi'i enwi felly yn yr hysbysiad adfer.
(3) Os yw'r apelydd yn dymuno rhoi'r gorau i apêl, rhaid iddo wneud hynny drwy hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig; ac ymdrinnir â'r apêl wedyn fel un y rhoddwyd y gorau iddi o'r dyddiad y bydd yr hysbysiad hwnnw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod caniatáu i apelydd roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer pan ddaw'r hysbysiad gan yr apelydd yn unol â pharagraff (3) i law'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 11(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.
(5) Pan roir y gorau i apêl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad y rhoddwyd y gorau iddi i unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.
Gwrandawiadau ac ymchwiliadau lleol
9.
—(1) Cyn penderfynu apêl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os gwêl yn dda—
(2) Cyn penderfynu ar apêl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu fel a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (b) os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu'r awdurdod gorfodi am gael gwrandawiad mewn perthynas â'r apêl.
(3) Dyma'r personau y mae ganddynt hawl i gael gwrandawiad mewn gwrandawiad —
(4) Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad; a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath a hynny'n afresymol.
(5) Ar ôl i wrandawiad ddod i ben, rhaid i'r person a benodir i gynnal y gwrandawiad, oni bai ei fod wedi'i benodi o dan adran 114(1)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[19] (pwer y Cynulliad Cenedlaethol i ddirprwyo ei swyddogaethau penderfynu apelau neu i atgyfeirio materion sy'n gysylltiedig ag apelau) i benderfynu'r apêl, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol y mae'n rhaid iddo gynnwys casgliadau'r person penodedig a'i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).
Hysbysu ynghylch penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl
10.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ar apêl a darparu copi o unrhyw adroddiad a grybwyllir yn rheoliad 9(5).
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yr un pryd ag y mae'n hysbysu'r apelydd, anfon copi o'r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r awdurdod gorfodi ac at unrhyw berson arall yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.
Addasu hysbysiad adfer
11.
—(1) Cyn addasu hysbysiad adfer o dan adran 78L(2)(b) (apelau yn erbyn hysbysiadau adfer) mewn unrhyw fodd a fyddai'n llai ffafriol i'r apelydd neu i unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(2) Pan wrandewir ar yr apelydd neu ar unrhyw berson arall, yn unol â pharagraff (1), bydd gan yr awdurdod gorfodi hawl i gael gwrandawiad hefyd.
Atal hysbysiad adfer
12.
—(1) Pan gyflwynir apêl yn briodol yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad tra disgwylir am y penderfyniad terfynol ar yr apêl neu nes y rhoddir y gorau iddi.
(2) Mae apêl yn erbyn hysbysiad adfer yn cael ei gwneud yn briodol at ddibenion y rheoliad hwn os yw'n cael ei gwneud o fewn y cyfnod a bennir yn adran 78L(1) ac os cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 8(1) a (2).
Cofrestrau
13.
—(1) At ddiben adran 78R(1) (cofrestrau), pennir y manylion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cofrestr a gedwir o dan yr is-adran honno yn Atodlen 3.
(2) Rhagnodir y disgrifiadau canlynol o wybodaeth at ddibenion adran 78R(2) yn wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiadau at ddibenion adran 78R(1)(h) a (j)—
(3) Rhagnodir y lleoedd canlynol at ddibenion adran 78R(8) yn lleoedd y bydd unrhyw gofrestrau neu gyfleusterau ar gyfer cael copïau ohonynt ar gael neu wedi'u darparu i'r cyhoedd yn unol â pharagraff (a) neu (b) o'r is-adran honno—
Dirymu
14.
Caiff Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001[20] eu dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[21].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2006
2.
Y ffurfiadau creigiau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(ii) yw'r canlynol—
Y cyfnod ar gyfer gwneud cais
2.
Rhaid gwneud cais am iawndal o fewn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad rhoi'r hawliau yr hawlir iawndal mewn perthynas â hwy ac sy'n dod i ben ar ba un bynnag yw'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—
Dull gwneud cais
3.
—(1) Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a'i gyflwyno, neu ei anfon drwy bost ragdaledig, i gyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person priodol y rhoddwyd yr hawliau iddo.
(2) Rhaid i'r cais gynnwys, neu rhaid anfon gyda'r cais,—
Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer
4.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 5(3) a (5)(b), mae iawndal yn daladwy o dan adran 78G(5) am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—
(ch) difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawl iddo ac nad yw'n fuddiant perthnasol ac sy'n deillio o roi'r hawliau neu eu harfer, neu effaith niweidiol ar y buddiant hwnnw; a
(d) colled mewn perthynas â gwaith a gyflawnwyd gan neu ar ran y grantwr ac sy'n cael ei wneud yn ofer drwy roi'r hawliau neu drwy eu harfer.
Y sail ar gyfer asesu'r iawndal
5.
—(1) Bydd y darpariaethau canlynol yn cael effaith at ddibenion asesu'r swm sydd i'w dalu o ran iawndal o dan adran 78G(5).
(2) Bydd y rheolau a nodir yn adran 5[23] o Ddeddf 1961 (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwysadwy ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.
(3) Rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i unrhyw welliant yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir, oherwydd unrhyw adeilad a godir, unrhyw waith a wneir neu unrhyw welliant neu newid a wneir ar unrhyw dir y mae'r grantwr, neu yr oedd adeg y gwaith codi neu adeg y gwneud, yn ymwneud ag ef yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, os yw'r Tribiwnlys Tiroedd wedi'i fodloni nad oedd codi'r adeilad, gwneud y gwaith, gwneud y gwelliant neu'r newid yn rhesymol angenrheidiol a'i fod wedi'i wneud gyda golwg ar gael iawndal neu fwy o iawndal.
(4) Wrth gyfrifo swm unrhyw golled o dan baragraff 4(d), cymerir gwariant a dynnwyd wrth baratoi planiau neu a dynnwyd oherwydd materion paratoi tebyg eraill i ystyriaeth.
(5) Pan fydd y buddiant y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais —
(6) Rhaid i iawndal o dan adran 78G(5) gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.
Talu iawndal a phenderfynu dadleuon
6.
—(1) Rhaid i iawndal sy'n daladwy o dan adran 78G(5) mewn perthynas â buddiant sy'n ddarostyngedig i forgais gael ei dalu i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac yn y naill achos neu'r llall, rhaid ei gymhwyso fel petai'n enillion ar werthiant.
(2) Bydd symiau iawndal a benderfynir o dan yr Atodlen hon yn daladwy —
(3) Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cymhwyso paragraff 5(3) neu iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.
(4) Mewn perthynas â phenderfynu ar unrhyw gwestiwn o'r fath, bydd adrannau 2[24] a 4 o Ddeddf 1961 (sy'n darparu ar gyfer y weithdrefn ynglŷn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys —
Apelau yn erbyn hysbysiadau adfer
2.
Unrhyw apêl yn erbyn hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi.
3.
Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.
Datganiadau adfer
4.
Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(6).
5.
Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath —
Mynegiad adfer
6.
Unrhyw fynegiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(7) neu gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(9).
7.
Mewn perthynas ag unrhyw fynegiad adfer o'r fath —
Apelau yn erbyn hysbysiadau codi tâl
8.
Unrhyw apêl o dan adran 78P(8) yn erbyn hysbysiad codi tâl a gyflwynwyd gan yr awdurdod gorfodi.
9.
Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.
Dynodi safleoedd arbennig
10.
—(1) Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn perthynas ag unrhyw dir y mae'n awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ef, ac yn achos awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir yn ei ardal—
Hysbysu adferiad honedig
11.
Unrhyw hysbysiad a roddir i'r awdurdod gorfodi at ddibenion adran 78R(1)(h) neu (j).
Collfarnau am dramgwyddau o dan adran 78M
12.
Unrhyw gollfarniad a gafodd person am unrhyw dramgwyddau o dan adran 78M mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynwyd gan yr awdurdod gorfodi, gan gynnwys enw'r tramgwyddwr, dyddiad y gollfarn, y gosb a osodwyd ac enw'r Llys.
Canllawiau a roddir o dan adran 78V(1)
13.
Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, dyddiad unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd ganddi o dan adran 78V(1) ac, yn achos awdurdod lleol, dyddiad unrhyw ganllawiau a roddwyd iddo gan yr Asiantaeth o dan yr is-adran honno.
Rheolaethau amgylcheddol eraill
14.
Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(1) neu 78YB(2B)[25] rhag cyflwyno hysbysiad adfer —
15.
—(1) Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw —
16.
Pan fydd yr awdurdod gorfodi, o ganlyniad i gydsyniad a roddwyd o dan Bennod 2 o Ran 3 o Ddeddf Adnoddau Dwr 1991 (troseddau llygru), yn rhinwedd adran 78YB(4) yn cael ei wahardd rhag pennu mewn hysbysiad adfer unrhyw beth penodol o ran gwaith adfer y byddai wedi'i bennu fel arall mewn hysbysiad o'r fath,—
[2] Diwygiwyd is-adran (4) o adran 78L gan Ddeddf Cymdogaethau ac Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adrannau 104 a 107, a Rhan 10 o Atodlen 5.back
[3] 1990 p.43. Mewnosodwyd adrannau 78A i 78YC gan adran 57 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25). Gweler y diffiniad o "prescribed" ac o "regulations" yn adran 78A(9).back
[4] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo.back
[5] O.S. 2006/2988 (Cy.277).back
[16] Diwygiwyd adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan I, paragraffau 2 a 6.back
[17] Diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 60.back
[18] Diwygiwyd adran 59, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 43(2).back
[20] O.S. 2001/2197 (Cy.157).back
[23] Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.43), adrannau 70 ac 84, Atodlen 15, paragraff 1 ac Atodlen 19, Rhan 3.back
[24] Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65), adran 193 ac Atodlen 33, paragraff 5.back
[25] Mewosodwyd is-adran (2B) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.back
[26] Diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 60.back
[27] Mewnosodwyd is-adran (2C) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.back
[28] Diwygiwyd adran 59, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 43(2).back
[29] Diwygiwyd is-adran (3) o adran 30 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), adrannau 22(3) a 66(8) ac Atodlen 9, paragraff 17(3) ac Atodlen 18.back