British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006 Rhif 2840 (Cy.256)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062840w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2840 (Cy.256)
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
25 Hydref 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Tachwedd 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 57(1), (3), (6) a (7) a 64(6) o Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[
1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Reoliadau 2004
2.
Diwygir Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004[
2] fel a ganlyn—
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Hydref 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004").
Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad 3 o Reoliadau 2004 er mwyn darparu bod pob person y mae awdurdodau lleol Cymru wedi penderfynu darparu gwasanaethau gofal yn y gymuned iddo yn berson rhagnodedig at ddibenion Rheoliadau 2004.
Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliad 5 o Reoliadau 2004 gyda'r effaith bod rhaid i'r awdurdodau lleol wneud taliadau uniongyrchol, yn hytrach na darparu gwasanaethau'n uniongyrchol, i bob person rhagnodedig o dan reoliad 3 os yw'r person hwnnw wedi cytuno i dderbyn taliadau o'r fath ac nad yw wedi ei eithrio fel arall rhag eu derbyn o dan Reoliadau 2004.
Notes:
[1]
2001 p.15. Mae adran 66 o Ddeddf 2001 yn diffinio "rheoliadau" fel "rheoliadau wedi'u gwneud gan yr awdurdod perthnasol" a'r "awdurdod perthnasol" fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru (a'r Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr). Gweler adran 57(8) o Ddeddf 2001 i gael y diffiniad o "prescribed".back
[2]
O.S. 2004/1748back
[3]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11 091421 X
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
1 November 2006
|