British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Dirymu) (Cymru) 2006 Rhif 2830 (Cy.251)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062830w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2830 (Cy.251)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Dirymu) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
24 Hydref 2006 | |
|
Yn dod i rym |
27 Hydref 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
1].
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[
2] at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.
Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[
3].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
O ran y Rheoliadau hyn—
(a) eu henw yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Dirymu) (Cymru) 2006;
(b) deuant i rym ar 27 Hydref 2006; ac
(c) maent yn gymwys o ran Cymru.
Dirymiadau
2.
Dirymir yr offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Hydref 2006
YR ATODLENRheoliad 2
Y Rheoliadau a Ddirymwyd
Enw
|
O.S. Rhif
|
The Food (Peanuts from China) (Emergency Control) (Wales) (No.2) Regulations 2002 |
2002/2295 (Cy.224) |
Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2003 |
2003/2299 (Cy.229) |
The Food (Figs, Hazelnuts and Pistachios from Turkey) (Emergency Control) (Amendment) (Wales) Regulations 2002 |
2002/1726 (Cy.161) |
The Food (Figs, Hazelnuts and Pistachios from Turkey) (Emergency Control) (Wales) (No.2) Regulations 2002. |
2002/2296 (Cy.225) |
Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2003 |
2003/2292 (Cy.228) |
Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 |
2003/2254 (Cy.224) |
Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 |
2003/2288 (Cy.227) |
Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005 |
2005/257 (Cy.23) |
Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 |
2003/2910 (Cy.276) |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer dirymu offerynnau penodedig a weithredai Benderfyniadau'r Comisiwn sy'n gosod amodau ar fewnforio cynhyrchion penodol a allai fod wedi'u halogi gan lefelau rhy uchel o afflatocsinau.
Cafodd arfarniad rheoliadol llawn ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â chopi o'r nodyn trosi sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11 Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
1972 p.68.back
[2]
O.S. 2005/1971.back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091419 8
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
1 November 2006
|