British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006 Rhif 2804 (Cy.243)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062804w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2804 (Cy.243)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
17 Hydref 2006 | |
|
Yn dod i rym |
23 Hydref 2006 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 75(1)(e) a 152(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[
1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Hydref 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "Deddf 2000" ("2000 Act") yw Deddf Dysgu a Medrau 2000; ac
dehonglir "sector addysg uwch" ("higher education sector") yng ngoleuni Pennod I o Ran II o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[2].
Addysg neu hyfforddiant a ragnodir
2.
—(1) Rhagnodir yr addysg a'r hyfforddiant a ddisgrifir ym mharagraff (2) isod at ddibenion adran 75 o Ddeddf 2000 (cylch gwaith estynedig Prif Arolygydd Cymru).
(2) Yr addysg a'r hyfforddiant yw'r rhai a ddarperir gan neu ar ran sefydliad yn y sector addysg uwch yng Nghymru—
(a) at ddibenion galluogi personau i ddod yn weithwyr ieuenctid a chymunedol; neu
(b) fel hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymunedol;
i'r graddau nad yw addysg a hyfforddiant o'r fath yn dod o fewn is-baragraffau (a) i (d) o adran 75(1) o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi math o addysg a hyfforddiant at ddibenion adran 75 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ("Deddf 2000"). Mae adran 75 yn darparu cylch gwaith estynedig Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 yn rhagnodi addysg a hyfforddiant a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliad yn y sector addysg uwch yng Nghymru at ddibenion galluogi personau i ddod yn weithwyr ieuenctid a chymunedol neu fel hyfforddiant pellach ar gyfer personau sy'n weithwyr ieuenctid a chymunedol. Effaith y rhagnodi yw bod y math hwn o addysg a hyfforddiant yn cael ei ddwyn i gylch gwaith y Prif Arolygydd o dan adran 75 o Ddeddf 2000.
Notes:
[1]
2000 p. 21.back
[2]
1988 p. 40.back
[3]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11 091409 0
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
26 October 2006
|