British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 2802 (Cy.241)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062802w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2802 (Cy.241)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
17 Hydref 2006 | |
|
Yn dod i rym |
25 Hydref 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), ar ôl iddo ymghynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd, y cyrff neu'r personau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach yn eu trefn y mae o'r farn eu bod yn briodol a'r cyrff a'r personau eraill hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ("y Ddeddf")[
1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2 o'r Ddeddf ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Hydref 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000
2.
—(1) Diwygier Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000[
3] fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 32 (tramgwyddau)[
4]—
(a) yn lle "£20,000" rhodder "£50,000"; a
(b) yn lle "six months" rhodder "12 months".
(3) Diwygier Rhan 1 o Atodlen 1 (Gweithgareddau, Gosodiadau a Chyfarpar Symudol) fel a ganlyn—
(a) Yn Rhan B o Adran 1.2 (Gweithgareddau Nwyeiddio, Hylifo a Phuro)—
(i) yn lle'r atalnod llawn ar ddiwedd paragraff (d) rhodder hanner colon ac ychwaneger y paragraffau canlynol—
"
(e) motor vehicle refuelling activities at existing service stations, if the petrol refuelling throughput at the service station in any period of twelve months commencing on or after 1st January 2007 is, or it is likely to be, 3500mΔ or more;
(f) motor vehicle refuelling activities at new service stations, if the petrol refuelling throughput at the service station in any period of twelve months is likely to be 500mΔ or more.",
(ii) o dan y pennawd "Interpretation of Part B", ym mharagraff 1 ar ôl y geiriau "In this Part", mewnosoder—
(iii) o dan y pennawd "Interpretation of Part B", ym mharagraff 1 o flaen y diffiniad o "petrol", mewnosoder—
"
"new service station" means a service station which is put into operation on or after 31st December 2009 other than an existing service station;";
(b) ym mharagraff (f) o Ran A(1) o Adran 5.1 (Hylosgi a Chydhylosgi Gwastraff), ar ôl "burning" mewnosoder "landfill gas or";
(c) ym mharagraff 4 o Ran B o Adran 7 (Gweithgareddau SED)—
(i) yn lle'r geiriau "coming into force of these Regulations", pan ymddangosant am y tro cyntaf, rhodder y geiriau "20th January 2004",
(ii) yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle'r geiriau "date of coming into force of these Regulations", rhodder y geiriau "20th January 2004".
(4) Diwygier Atodlen 3 (Dyddiad Rhagnodedig a Threfniadau Trosiannol) fel a ganlyn—
(a) yn Rhan 3 (Gosodiadau SED)—
(i) ym mharagraff 13(1), ar ôl "paragraphs" mewnosoder "13A,",
(ii) ar ôl paragraff 13, mewnosoder—
"
13A.
—(1) An operator of an existing SED installation—
(a) involving only dry cleaning as defined in paragraph (2) of Part B of Section 7 of Part 1 of Schedule 1 (SED Activities), by means of coin-operated dry cleaners; and
(b) in respect of which no application for a permit to operate the existing SED installation is duly made by 31st October 2006,
shall be deemed to have made a notification to the regulator of the operator's undertaking to cease to operate that existing SED installation by 31st October 2007.
(2) Where sub-paragraph (1) applies, the operator of an existing SED installation shall be relieved of the requirement to apply for a permit under regulation 10 (Permits: general provisions), and the operation of that existing SED installation until 31st October 2007 without a permit shall not constitute an offence under regulation 32(1)(a) (Offences).
(3) For the purposes of sub-paragraph (1), "coin-operated dry cleaners" include dry cleaning machines functioning by means of coins, tokens, cards or other similar triggering mechanisms.";
(b) ar ôl Rhan 4, mewnosoder Rhan 5 newydd fel y'i nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2006
YR ATODLENRheoliad 2(4)(b)
RHAN 5 NEWYDD YN ATODLEN 3 I REOLIADAU ATAL A RHEOLI LLYGREDD (CYMRU A LLOEGR) 2000
" PART
5:
REFUELLING INSTALLATIONS
20.
—(1) Parts 1 and 2 of this Schedule apply to existing refuelling installations and new refuelling installations subject to the provisions of this Part.
(2) The prescribed date for a new refuelling installation is the relevant date.
(3) The prescribed date for an existing refuelling installation is—
(a) where an application for a permit to operate the existing refuelling installation is made by the relevant date, the determination date for that existing refuelling installation; or
(b) where no such application is made, the relevant date.
(4) Where an installation which is subject to a permit under these Regulations contains an existing or new refuelling installation, the operator shall not operate the existing or new refuelling installation after the prescribed dates specified in subparagraph (3) except under and to the extent authorised by a variation of the conditions of that permit granted by the regulator under regulation 17.
(5) Paragraph 9 of Part 2 of this Schedule (deemed applications) shall not apply to an existing Part B installation or mobile plant which consists only of an existing refuelling installation.
(6) In this Part—
"existing refuelling installation" means an installation where an activity falling within paragraph (e) of Part B of Section 1.2 of Schedule 1 is carried out;
"determination date" has the same meaning as in paragraph 6 of Part 1 of Schedule 3;
"new refuelling installation" means an installation where an activity falling within paragraph (f) of Part B of Section 1.2 of Schedule 1 is carried out; and
"the relevant date" is 1st January 2010.".
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973) ("y Rheoliadau PPC") o ran Cymru.
Mae rheoliad 2(2) yn cynyddu mwyafswm y gosb y caiff llys Ynadon ei gosod o dan reoliad 32(2)(a) o'r Rheoliadau PPC o ran tramgwyddau a gyflawnir ar ôl dwyn i rym adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (sy'n rhoi terfynau ar bŵer llys Ynadon i garcharu).
Mae Rheoliad 2(3)(a) yn diwygio rhan B o adran 1.2 (Gweithgareddau Nwyeiddio, Hylifo a Phuro) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC drwy ychwanegu gweithgareddau ail-lenwi tanwydd i gerbydau at y rhestr o weithgareddau sy'n ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd o dan y Rheoliadau PPC. Mae hyn yn bodloni rhwymedigaeth y DU sy'n codi o Brotocol Genefa Pwyllgor Economaidd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ewrop i Gonfensiwn 1979 ar Lygredd Aer Trawsffiniol Pellgyrhaeddol Ynghylch Rheoli Allyriadau Cyfansoddion Organig Anweddol neu eu Dylifiadau Trawsffiniol. Daeth y Protocol hwn i rym ar 29 Medi 1997 ar ôl iddo gael ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 1991. Gellir gweld y Protocol ar wefan UNECE yn
www.unece.org.
Mae rheoliad 2(3)(b) yn diwygio Adran 5.1 (Hylosgi a Chydhylosgi Gwastraff) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC drwy egluro nad yw hyslosgi o ganlyniad i losgi nwy tirlenwol yn ddarostyngedig i ganiatâd o dan y Rheoliadau PPC.
Mae rheoliad 2(3)(c) yn cywiro gwall drafftio yn Rhan B o adran 7 (Gweithgareddau SED) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC.
Mae rheoliad 2(4) yn diwygio Atodlen 3 (Dyddiad Rhagnodedig a Threfniadau Trosiannol) i'r Rheoliadau PPC i esemptio gweithredwyr penodol o beiriannau sychlanhau sy'n derbyn arian sy'n dewis peidio â gwneud cais am ganiatâd cyn 31 Hydref 2006 o ofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Toddyddion 1999/13/EC i gael caniatâd ar y sail bod y gweithredwyr yn cytuno i roi'r gorau i gyflawni gweithrediadau sy'n dod o fewn cwmpas y Gyfarwyddeb honno yn y gosodiad cyn 31 Hydref 2007.
Notes:
[1]
1999 p.24. Diwygiwyd paragraff 25 o Ran II o Atodlen 1 gan adran 105 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16). Nid yw deddfwriaeth ddiwygio arall yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2005 (O.S. 2005/1958), erthygl 3.back
[3]
O.S. 2000/1973; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2004/107 ac O.S. 2004/3276. Nid yw deddfwriaeth ddiwygio arall yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[4]
Ni fydd y cosbau uwch hyn yn gymwys ond o ran tramgwyddau a gyflawnir ar ôl dwyn i rym adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44). Gweler adran 105(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd.back
[5]
1990 p.8, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091408 2
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
26 October 2006
|