Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 2800 (Cy.239)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062800w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2800 (Cy.239)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
17 Hydref 2006 | |
|
Yn dod i rym 20 Hydref |
2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4) ac 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 20 Hydref 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant a wneir i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ar 20 Hydref 2006 neu ar ôl hynny[
3].
Diwygiadau
2.
Diwygir Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996[
4] yn unol â'r rheoliadau a ganlyn.
Rheoliad 2
3.
Yn rheoliad 2 (ffurflenni cais am grant)[
5], ym mharagraff (1) ar ôl "Schedule" rhodder "or a form to the like effect".
Yr Atodlen
4.
Mae'r ffurflen a welir yn yr Atodlen yn cael ei diwygio yn y modd a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2006
YR ATODLENRheoliad 4
1.
Yn y testun sy'n rhagflaenu Rhan 1, yn lle'r geiriau "qualifying park home" ym mhob man lle digwyddant, rhodder "caravan".
2.
Yng nghwestiwn 1.7, yn lle'r geiriau "a qualifying park home" rhodder "a caravan".
3.
Yn y tabl sy'n dilyn cwestiwn 2.1, yn lle'r geiriau "
Disabled adaptations to a qualifying houseboat or qualifying park home " rhodder "
Disabled adaptations to a qualifying houseboat or caravan".
4.
Yn y tabl cyntaf sy'n dilyn cwestiwn 2.2, yn lle'r geiriau "
Adaptations to a house, flat, qualifying houseboat or qualifying park home" rhodder "
Adaptations to a house, flat, qualifying houseboat or caravan".
5.
Yn lle Nodyn 5B, rhodder—
"
5B.
A "caravan" is defined in section 58. This expression—
(a) means a caravan within the meaning of Part 1 of the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 (disregarding the amendment made by section 13(2) of the Caravan Sites Act 1968); and
(b) includes any yard, garden, outhouses and appurtenances belonging to it or usually enjoyed with it.".
6.
Yn nodyn 10, yn lle brawddeg olaf yr ail baragraff, rhodder—
"
The definition includes spouses and civil partners; persons who live together as husband and wife or as if they were civil partners; parents; grandparents; children; grandchildren; brothers; sisters; uncles; aunts; nephews; and nieces.".
7.
Yn nodiadau 19, 36A a 36B, yn lle'r geiriau "qualifying park home" ym mhob man lle digwyddant, rhodder "caravan".
8.
Yn nodyn 49, yn lle'r frawddeg gyntaf, rhodder—
"
A partner is a person who lives with you as husband, wife, or civil partner, whether or not you are married to or a civil partner of that person.".
9.
Yn nodyn 90E, hepgorer y geiriau "married or unmarried" ym mhob man lle digwyddant, ac ym mharagraff (b) yn lle "them" rhodder "the couple".
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 (O.S. 1996/2891) ("y prif Reoliadau"), sy'n gosod y ffurflen ragnodedig ar gyfer ceisiadau am grant o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("y Ddeddf"). Mae'r cwestiynau a'r nodiadau sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflen ragnodedig yn adlewyrchu'r rheolau prawf moddion ar gyfer ceisiadau am grant sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890), fel y'i diwygiwyd.
Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn gymwys drwy
reoliad 1 i geisiadau am grant sy'n cael eu gwneud i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ar y dyddiad pan ddeuant i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae'r diwygiad a wneir gan
reoliad 3 yn caniatáu i awdurdodau o'r fath ddefnyddio ffurflenni a ddyluniwyd ganddynt eu hunain sy'n cael yr un effaith (ac felly, oherwydd rheoliad 3 o'r prif reoliadau, sy'n cynnwys yr un manylion) â'r ffurflen ragnodedig a geir yn yr Atodlen i'r prif Reoliadau.
Drwy
reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, diwygir yr Atodlen honno (a) er mwyn adlewyrchu newidiadau a wnaed i'r Ddeddf gan adran 224 o Ddeddf Tai 2004, gan osod yn lle cyfeiriadau at "qualifying park home" yn y prif Reoliadau, gyfeiriadau at "caravan"; a (b) er mwyn gwneud newidiadau o ganlyniad i greu'r berthynas gyfreithiol newydd o bartneriaeth sifil drwy'r Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004.
Notes:
[1]
1996 p.53.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer y Ddeddf hon yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.back
[3]
I gael ystyr "grant" gweler adran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, fel y'i diwygiwyd gan baragraff 2 o Atodlen 3 i Orchymyn Diwygio Rheolaethol (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/1860).back
[4]
O.S. 1996/2891, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119, O.S. 1997/978, O.S. 1998/809, O.S. 1999/1607, O.S. 1999/3470 (Cy. 56), O.S. 2000/1735 (Cy. 119), O.S. 2001/2071 (Cy. 143), O.S. 2001/4006 (Cy. 332), O.S. 2002/2799 (Cy. 267) ac O.S. 2004/254 (Cy. 29).back
[5]
Amnewidiwyd Rheoliad 2, o ran Cymru, gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/254).back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11091411 2
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
26 October 2006
|