Wedi'i wneud | 18 Hydref 2006 | ||
Yn dod i rym | 20 Hydref 2006 |
ac y mae ei borthladd gweinyddu yng Nghymru ar y dyddiad cymhwyso;
(2) Mae unrhyw rwymedigaeth sydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yn rhwymedigaeth i sicrhau bod y deunydd ar gael mewn dull a fydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ei gwneud yn rhesymol debygol y bydd y deunydd yn cael ei weld gan y rhai y gallai'r Cynllun hwn fod yn gymwys iddynt, ac mae cyhoeddi'r deunydd ymlaen llaw a chyn i'r Cynllun ddod i rym i'w drin at ddibenion y Cynllun hwn fel pe bai wedi'i gyflawni o dan y Cynllun.
Cymhwyster
3.
—(1) Caiff unrhyw berson sy'n berson perthnasol mewn perthynas â chwch pysgota Cymreig y mae'r Rheoliad yn gymwys iddo wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am grant o ran y cwch hwnnw—
(2) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi hysbysiad yn pennu darparwr y Cynulliad.
Ceisiadau
4.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o bryd i'w gilydd, gyhoeddi gwahoddiad am geisiadau a phan fydd yn gwneud hynny bydd darpariaethau canlynol y paragraff hwn yn gymwys.
(2) Rhaid i gais gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol fel a bennir yn y gwahoddiad ar neu cyn y dyddiad cau er mwyn i'r cais gael ei ystyried ar gyfer ei gymeradwyo ac eithrio pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon—
(3) Yn y Cynllun hwn ystyr "y dyddiad cau" ("the closing date") yw'r cyfryw ddyddiad a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol pryd neu cyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wrthod unrhyw gais sy'n ymwneud â chwch pysgota os yw o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi'i newid ac mai prif ddiben ei newid oedd gwneud y cwch yn gymwys i gais gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef.
(5) Yn sgil rhoi cymeradwyaeth, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi grant sy'n gyfwerth â chyfanswm y canlynol, fel y cytunwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r ceisydd llwyddiannus—
a fydd yn daladwy yn unol â darpariaethau canlynol y Cynllun hwn.
(6) Rhaid i'r costau a bennir yn is-baragraff (5)(b) beidio â chynnwys unrhyw gost a dynnir yn gyfan gwbl neu'n rhannol mewn cysylltiad â chuddio'r ddyfais olrhain drwy loeren, y ceblau a'r gwifrau sy'n gysylltiedig â hi, neu unrhyw ddeunyddiau neu gyfarpar cysylltiedig arall, a hynny at ddibenion cosmetig.
Cymeradwyo ceisiadau
5.
—(1) Hysbysir pob ceisydd llwyddiannus yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r gymeradwyaeth mewn cysylltiad â chwch pysgota'r ceisydd ac o unrhyw amodau y mae'n rhaid i'r ceisydd gydymffurfio â hwy.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), bydd cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol i'r cwch pysgota o dan sylw yn dod i ben os bydd y ceisydd llwyddiannus yn methu cydymffurfio ag unrhyw amodau a osodir o dan baragraff 3(1) neu baragraff 5(1).
(3) Os bydd y ceisydd llwyddiannus yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn amser rhesymol o resymau am y methiant hwnnw (neu, yn ôl y digwydd, resymau am rag-weld y methiant hwnnw) caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiwygio'r amodau a osodir o dan baragraff 3(1) neu baragraff 5(1).
Taliadau o dan y Cynllun
6.
—(1) Cyn gynted ag y bydd y cais wedi'i gymeradwyo ac y bydd y ceisydd llwyddiannus wedi cydymffurfio â'r holl amodau a osodir o dan baragraffau 3(1) a 5(1), bydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn talu swm y pris y cytunwyd arno o dan baragraff 4(5) i'r ceisydd llwyddiannus.
(2) Ni wneir unrhyw daliad onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon bod y ddyfais olrhain drwy loeren wedi'i darparu ac yr ymgymerwyd â'i gosod yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gyda darparwr y Cynulliad.
Cymorth i swyddogion awdurdodedig
7.
Rhaid i unrhyw geisydd neu unrhyw gyflogai neu asiant unrhyw geisydd roi i swyddog awdurdodedig y cyfryw gymorth ag y byddo'n rhesymol i'r swyddog ofyn amdano er mwyn iddo arfer y pŵer a roddir i'r swyddog gan baragraff 8.
Pwerau swyddogion awdurdodedig
8.
—(1) Caiff swyddog awdurdodedig, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog, arfer y pwerau a bennir yn y paragraff hwn at ddiben sicrhau —
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre berthnasol.
(3) Dim ond pan fydd rhybudd rhesymol o'r bwriad i arfer y pŵer wedi'i roi i holl breswylwyr yr anhedd-dy hwnnw y caniateir arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (2) mewn perthynas â mangre a ddefnyddir fel anhedd-dy.
(4) Caiff unrhyw swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn unol ag is-baragraff (2) arolygu'r fangre honno ac unrhyw ddogfennau yn y fangre honno sy'n ddogfennau perthnasol, neu y mae'n rhesymol i swyddog fod o'r farn eu bod yn ddogfennau perthnasol.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y paragraff hwn fynd â'r cyfryw berson arall y mae'r swyddog o'r farn ei fod yn angenrheidiol gydag ef ac mae is-baragraffau (2), (4), (6) a (7) yn gymwys mewn perthynas â'r cyfryw berson arall pan fydd hwnnw'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y swyddog fel pe bai ef yn swyddog awdurdodedig.
(6) Caiff swyddog awdurdodedig—
(7) Ni fydd swyddog awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth i'r swyddog, yn honedig, arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y Cynllun hwn os yw'r llys sy'n gwrando'r cyfryw achos yn fodlon—
(8) Yn y paragraff hwn—
Dirymu cymeradwyaeth
9.
—(1) Ar unrhyw adeg ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo cais o ran unrhyw gwch pysgota, os ymddengys iddo—
(c) bod y person perthnasol neu ei gyflogai neu ei asiant wedi methu cydymffurfio â pharagraff 7;
caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu'r gymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw ran o'r taliad mewn perthynas â'r cais.
(2) Os dirymir cymeradwyaeth o dan is-baragraff (1) ar ôl i unrhyw daliad gael ei wneud o dan y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill ar gais oddi wrth y ceisydd swm sy'n gyfwerth â'r cyfan neu ag unrhyw ran o'r cyfryw daliad.
Llog
10.
—(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff 9(2), yn penderfynu adennill swm ar gais, caiff hefyd adennill llog ar y swm hwnnw ar sail ddyddiol ac ar gyfradd o 1% yn uwch na'r LIBOR am y cyfnod yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd y swm ac yn diwedd ar y diwrnod y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei adennill.
(2) Yn y paragraff hwn ystyr "LIBOR", mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau, ac sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw, wedi'i thalgrynnu os bydd angen i ddau le degol.
(3) Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r LIBOR o dan sylw os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r LIBOR o dan sylw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Hydref 2006
[2] Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 15 o Ddeddf 1981 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[6] OJ Rhif L333, 20.12.2003, t.17.back