Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006 Rhif 2797 (Cy.236) (C.93)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062797w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2797 (Cy.236) (C.93)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
17 Hydref 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(1)(b), (2) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005[
1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "Deddf 1978" ("the 1978 Act") yw Deddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978[2];
ystyr "Deddf 1984" ("the 1984 Act") yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984[3];
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996[4];
ystyr "Deddf 2005" ("the 2005 Act") yw Deddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân 2005.
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar 27 Hydref 2006
2.
Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym ar 27 Hydref 2006—
(a) adran 11 (hysbysiad symud);
(b) adran 12 (gwaredu);
(c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 13 (canllawiau);
(ch) adran 15 (hysbysiad symud);
(d) adran 16 (gwaredu);
(dd) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 17 (canllawiau);
(e) adran 34 (tynnu placardiau a phosteri);
(f) at ddibenion amnewid adran 5 (ond gan eithrio adran 5(2)(d)) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989[5], adran 37 (pwerau gorfodi);
(ff) adran 50 (pŵer i'w gwneud yn ofynnol i berchennog tir symud gwastraff oddi yno);
(g) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 56 (gorchmynion rheoli cŵn: darpariaethau atodol);
(ng) adran 66 ("person priodol");
(h) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 67 (rheoliadau a gorchmynion);
(i) adran 80 (gorchmynion a rheoliadau);
(j) adran 81 (dehongli);
(ll) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 83 (tramgwyddau sŵn: defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(m) adran 84 at ddibenion dwyn i rym paragraffau 2, 7(2)(a) a (3), 8(2) a 12(2), (5) a (6) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 (estyn Deddf Sŵn 1996[6] i gwmpasu mangreoedd trwyddedig etc.);
(n) adran 86 (gohirio dyletswydd i gyflwyno hysbysiad gostegu);
(o) adran 99 (trolïau siopa gadawedig a throlïau bagiau gadawedig);
(p) adran 100 (adran 99: darpariaeth drosiannol);
(ph) yn Rhan 1 (cerbydau) o Atodlen 5 (diddymiadau), y diddymiadau i Ddeddf 1978 a Deddf 1984.
Darpariaeth yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006 i rym
3.
I'r graddau nad yw eisoes mewn grym, mae adran 2 (gorchmynion gatio) yn dod i rym ar y dyddiad y mae Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006 yn dod i rym.
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 i rym
4.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosb Benodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 6 (pŵer i roi hysbysiadau cosb benodedig);
(b) adran 7 (pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);
(c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 8 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(ch) adran 9 (hysbysiadau cosb benodedig: materion atodol);
(d) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 10 (tramgwydd gadael cerbyd: hysbysiadau cosb benodedig);
(dd) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 19 (tramgwydd ysbwriel: hysbysiadau cosb benodedig);
(e) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 20 (hysbysiadau clirio ysbwriel);
(f) adran 21 (hysbysiadau rheoli ysbwriel ar y stryd);
(ff) adran 22 (methu â chydymffurfio â hysbysiad: hysbysiadau cosb benodedig);
(g) adran 23 (rheolaethau ar ddosbarthu deunydd printiedig yn ddi-dâl);
(ng) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 24 (hysbysiadau cosb benodedig: darpariaeth gyffredin);
(h) adran 25 (eithrio atebolrwydd);
(i) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 28 (hysbysiadau cosb benodedig: swm y gosb benodedig);
(j) adran 29 (hysbysiadau cosb benodedig: pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);
(l) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 30 (hysbysiadau cosb benodedig: swyddogion awdurdodedig);
(ll) adran 31 (estyn hysbysiadau gwaredu graffiti i gwmpasu gosod posteri yn anghyfreithlon);
(m) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 38 (methu â dangos awdurdod: hysbysiadau cosb benodedig);
(n) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 45 (methu â darparu dogfennau: hysbysiadau cosb benodedig);
(o) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 48 (tramgwyddau sy'n ymwneud â chynwysyddion gwastraff: hysbysiadau cosb benodedig);
(p) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 52 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(ph) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 59 (hysbysiadau cosb benodedig);
(r) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 60 (swm y cosbau penodedig);
(rh) adran 61 (pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad);
(s) adran 62 (swyddogion cymorth cymuned etc.);
(t) adran 69 (dynodi ardaloedd hysbysu o larwm);
(th) adran 70 (tynnu dynodiad yn ôl);
(u) adran 71 (hysbysu deiliaid allweddi a enwyd);
(w) adran 72 (enwi deiliaid allweddi);
(y) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 73 (tramgwyddau o dan adran 71: hysbysiadau cosb benodedig);
(a2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 74 (swm y gosb benodedig);
(b2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 75 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(c2) adran 76 (hysbysiadau cosb benodedig: pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);
(ch2) adran 77 (pŵer mynediad);
(d2) adran 78 (gwarant i fynd i mewn i fangre drwy rym);
(dd2) adran 79 (pwerau mynediad: darpariaethau atodol);
(e2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 82 (tramgwyddau sŵn: hysbysiadau cosb benodedig);
(f2) adran 84 (estyn Deddf Sŵn 1996 i fangreoedd trwyddedig etc) at ddibenion dwyn i rym y darpariaethau yn Atodlen 1 nad ydynt yn cael eu cychwyn gan erthygl 2(m);
(g2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 96 (defnyddio derbynebau cosb benodedig: awdurdodau haen uwch);
(ng2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 97 (defnyddio derbynebau cost benodedig: awdurdodau haen is);
(h2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 98 (adrannau 96 a 97: darpariaethau atodol);
(i2) Rhan 2 o Atodlen 5 (dirymiadau);
(l2) Rhan 9 o Atodlen 5 mewn perthynas â diddymu adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[7].
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym
5.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 55 (pŵer i wneud gorchmynion rheoli cwn);
(b) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 57 (tir y mae Pennod 1 yn gymwys iddo);
(c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 58 (prif awdurdodau ac awdurdodau eilaidd);
(ch) adran 63 (pwerau sy'n gorgyffwrdd);
(d) adran 64 (is-ddeddfau);
(dd) adran 65 (Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996[8]);
(e) Rhan 5 o Atodlen 5.
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym
6.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 101 (niwsans statudol: trychfilod);
(b) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 103(2)(a) a (4)(a) (adrannau 101 a 102: darpariaethau atodol).
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006 i rym
7.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006 i rym—
(a) adran 102 (niwsans statudol: goleuadau);
(b) adran 103 (adrannau 101 a 102: darpariaethau atodol) ac eithrio adran 103(2)(a) a (4)(a).
Darpariaethau trosiannol: Deddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978
8.
—(1) Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1978 gan—
(a) adran 11 (sy'n diwygio adran 3 o Ddeddf 1978);
(b) adran 12 (sy'n diwygio adran 4 o Ddeddf 1978);
(c) adran 13 (sy'n mewnosod adran 4A (canllawiau) yn Neddf 1978),
o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 3 a 4 o Ddeddf 1978 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gerbyd y mae awdurdod lleol, a hynny cyn 27 Hydref 2006—
(a) wedi rhoi hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 3(2) o Ddeddf 1978; neu
(b) wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 3(5) o'r Ddeddf honno.
Darpariaethau trosiannol: Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
9.
—(1) Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1984 gan—
(a) adran 15 (sy'n diwygio adran 99 o Ddeddf 1984);
(b) adran 16 (sy'n diwygio adran 101 o Ddeddf 1984);
(c) adran 12 (sy'n diwygio adran 103 o Ddeddf 1984),
o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 99, 101 a 103 o Ddeddf 1984 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gerbyd—
(a) sydd ar ffordd ac y mae awdurdod wedi rhoi hysbysiad mewn perthynas ag ef cyn 27 Hydref 2006 o dan adran 99(3) o Ddeddf 1984;
(b) y mae awdurdod wedi dodi hysbysiad arno cyn 27 October 2006 o dan adran 99(4) o'r Ddeddf honno.
Arbedion: Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996
10.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac er gwaethaf ei diddymu gan adran 65 o Ddeddf 2005 a Rhan 5 o Atodlen 5 iddi, mae Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw dir sy'n dir dynodedig yn union cyn y dyddiad y diddymir Deddf 1996 yn unol â rheoliad 5(e) o'r Gorchymyn hwn.
(2) Bydd unrhyw dir sy'n dir dynodedig yn union cyn diddymu Deddf 1996 gan erthygl 5(e) o'r Gorchymyn hwn yn peidio â bod yn dir dynodedig ar y dyddiad y daw'r diddymiad yn weithredol—
(a) i'r graddau y mae gorchymyn rheoli cŵn (p'un a yw'n ymwneud â baeddu tir gan gŵn) a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 2005 yn gymwys mewn perthynas â'r tir hwnnw;
(b) os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddirymu; neu
(c) os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddiwygio yn y fath fodd ag i leihau maint y tir dynodedig, i'r graddau y mae hwnnw wedi'i leihau.
(3) O ran effaith barhaol Deddf 1996—
(a) mae adran 88(2) i (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[9], fel y'i cymhwysir gan adran 4(2) a (3) o Ddeddf 1996, yn parhau i fod yn gymwys fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 19 o Ddeddf 2005 i adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 heb eu gwneud;
(b) er gwaethaf eu diddymu gan Ran 5 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, mae paragraff 1(2)(c) o Atodlen 4 a pharagraff 1(2)(b) o Atodlen 5 i Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002[10] yn parhau i fod yn effeithiol;
(c) er gwaethaf ei diddymu gan Ran 9 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, bydd adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn parhau i fod yn effeithiol fel petai is-adrannau (2)(a), (3)(a) ac (c) a (4) o'r adran honno wedi'u dileu.
(4) Yn yr erthygl hon—
mae i "tir dynodedig" yr ystyr a roddir i "designated land" yn adran 2(1) o Ddeddf 1996; ac
ystyr "gorchymyn dynodi" ("designation order") yw gorchymyn a wneir o dan adran 2(1) o Ddeddf 1996.
Diwygio Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006
11.
Yn erthygl 5(1) o Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006[11] —
(a) ar ôl "adran 32" mewnosoder "(7) ac (8)"; a
(b) hepgorer "a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach yn Neddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 ("Deddf 2005") o ran Cymru.
Ar 27 Hydref 2006 mae erthygl 2 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill) ddarpariaethau yn Neddf 2005 ynglŷn â'r canlynol:
(a) cerbydau gadawedig (adrannau 11 i 13);
(b) cerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon (adrannau 15 i 17);
(c) hysbysebion (adran 34);
(ch) cludo gwastraff (adran 37 (yn rhannol));
(d) casglu a gwaredu gwastraff gan awdurdod lleol (adran 50);
(dd) rheolaeth ar gŵn (adrannau 56, 66 a 67);
(e) larymau tresmaswyr clywadwy (adrannau 80 a 81);
(f) sŵn o fangreoedd (adrannau 83 a 84);
(ff) niwsansau sŵn statudol (adran 86); a
(g) trolïau siopa gadawedig a throlïau bagiau gadawedig (adrannau 99 a 100).
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym adran 2 (gorchmynion gatio) o Ddeddf 2005 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006, i rym.
Mae erthygl 4 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosb Benodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006, i rym, ddarpariaethau Deddf 2005 ynglŷn â'r canlynol:
(a) tramgwyddau o ran parcio sy'n niwsans (adrannau 6 i 9):
(b) cerbydau gadawedig (adran 10);
(c) ysbwriel a sorod (adrannau 19 i 25);
(ch) graffiti a gosod posteri yn anghyfreithlon (adrannau 28 i 31);
(d) gwastraff (adrannau 38, 45, 48 a 52);
(dd) rheolaeth ar gŵn (adrannau 59 i 62);
(e) larymau tresmaswyr clywadwy (adrannau 69 i 79);
(f) swn o fangreoedd (adrannau 82 a 84);
(ff) defnyddio derbynebau cosb benodedig (adrannau 96 i 98).
Mae erthygl 5 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007, i rym, ddarpariaethau Deddf 2005 ynglŷn â rheolaethau ar gŵn.
Mae erthygl 6 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym, ddarpariaethau yn Neddf 2005 ynglŷn â chategori newydd o niwsans statudol, sef trychfilod sy'n dod o fangreoedd diwydiannol, mangreoedd masnachol neu fangreoedd busnes ac sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans.
Mae erthygl 7 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at ddibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006, i rym, ddarpariaethau Deddf 2005 ynglŷn â chategori newydd o niwsans statudol, sef golau artiffisial sy'n cael ei belydru o fangre yn y fath fodd ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans.
Mae erthygl 8 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gerbyd, y mae awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad amdano o dan adran 3(2) o Ddeddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978, neu y mae awdurdod lleol wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 3(5) o'r Ddeddf honno, cyn 27 Hydref 2006 yn y naill achos neu'r llall, barhau i gael ei drin yn unol ag adrannau 3 a 4 o'r Ddeddf honno yn y modd yr oedd yr adrannau hynny yn gymwys cyn i ddarpariaethau o dan y Gorchymyn hwn ddod i rym.
Mae erthygl 9 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gerbyd sydd ar ffordd ac y mae awdurdod wedi rhoi hysbysiad amdano o dan adran 99(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 neu gerbyd y mae awdurdod wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 99(4) o'r Ddeddf honno, cyn 27 Hydref yn y naill achos neu'r llall, barhau i gael ei drin yn unol ag adrannau 99, 101 a 103 o'r Ddeddf honno yn y modd yr oedd yr adrannau hynny'n gymwys cyn i ddarpariaethau o dan y Gorchymyn hwn ddod i rym.
Mae erthygl 10 yn gwneud arbedion y mae Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 (p.20) yn parhau i fod yn gymwys odanynt mewn perthynas â thir sy'n dir dynodedig ("designated land") o dan y Ddeddf honno yn union cyn diddymu'r Ddeddf honno gan erthygl 5(e) o'r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 11 yn diwygio erthygl 5 o Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006 (O.S. 2006 Rhif 768) (Cy. 75) (C. 18) ("Gorchymyn 2006"). Diddymodd Gorchymyn 2006 adran 32 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ("Deddf 1990") a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi. Cynhwysodd erthygl 5 o Orchymyn 2006 arbedion a oedd yn parhau effaith yr adrannau a ddiddymwyd mewn perthynas â chwmnïau gwaredu gwastraff o dan reolaeth awdurdodau gwaredu gwastraff ar y dyddiad y daeth y diddymiad yn weithredol. Mae erthygl 11 o'r Gorchymyn hwn yn cyfyngu ar yr arbedion hynny gyda'r canlyniad mai dim ond adran 32(7) ac (8) o Ddeddf 1990 a fydd yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â'r cwmnïau hynny o 27 Hydref 2006 ymlaen.
NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth
|
Y dyddiad cychwyn
|
O.S. Rhif
|
Adran 2 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 6 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 8 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 10 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 13 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 17 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 19 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 20 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 24 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 28 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 30 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adrannau 37 a 38 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adrannau 45 i 48 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 52 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 53 |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adrannau 55 i 60 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 67 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adrannau 73 i 75 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adran 82 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adrannau 96 i 98 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Adrannau 101 i 104 — at ddibenion penodol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Atodlen 4, paragraff 4 |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Atodlen 5, Rhan 2 (sbwriel a sorod) |
16 Mawrth 2006 |
2006/768 (Cy.75) C.18) |
Atodlen 5, Rhan 4 (gwastraff) yn rhannol |
16 Mawrth 2006 |
2006 / 768 (Cy.75) (C.18) |
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru a Lloegr drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth
|
Y dyddiad cychwyn
|
O.S. Rhif
|
Adran 32 |
1 Gorffennaf 2005 |
2005 / 1675 (C.69) |
Adrannau 42 i 44 |
18 Hydref 2006 |
2005 / 2896 (C.122) |
Adran 49(1) a (3) |
7 Mawrth 2006 |
2006 / 656 (C.16) |
Adran 49 (2) a (6) — at ddibenion penodol |
7 Mawrth 2006 |
2006 / 656 (C.16) |
Adran 49 (2) a (6) — at ddibenion sy'n weddill |
6 Ebrill 2006 |
2006 / 656 (C.16) |
Adran 49(4) a (9) |
6 Ebrill 2006 |
2006 /656 (C.16) |
Adran 49 (8) — at ddibenion penodol |
6 Ebrill 2006 |
2006 / 656 (C.16) |
Adrannau 87 i 95 |
1 Ionawr 2006 |
2005 / 3439 (C.144) |
Atodlen 2 |
1 Ionawr 2006 |
2005 / 3439 (C.144) |
Atodlen 3 |
1 Ionawr 2006 |
2005 / 3439 (C.144) |
Atodlen 4, paragraff 3 yn rhannol |
6 Ebrill 2006 |
2006 / 656 (C.16) |
Atodlen 5, Rhan 8 |
1 Ionawr 2006 |
2005 / 3439 (C.144) |
Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi'u gwneud o dan Ddeddf 2005 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru a Lloegr—
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1) 2005 (O.S. 2005 Rhif 1675) (C.69);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2005 (O.S. 2005 Rhif 2896) (C. 122);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) 2005 (O.S. 2005 Rhif 3439) (C. 144);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 4) 2006 (O.S. 2006 Rhif 656) (C. 16);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006 Rhif 1002) (C. 31);
Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi'u gwneud o dan y Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr—
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006 Rhif 795) (C. 19);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006 Rhif 1361) (C. 46);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006 Rhif 2006) (C. 69).
Notes:
[1]
2005 p. 16.back
[2]
1978 p. 3.back
[3]
1984 p. 27.back
[4]
1996 p. 20.back
[5]
1989 p. 14; amnewidiwyd adran 5 gan adran 37 o Ddeddf 2005.back
[6]
1996 p. 37.back
[7]
2003 p.26back
[8]
1996 p.20.back
[9]
1990 p. 43; mae adran 119(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn darparu bod effaith adran 88(6)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn peidio o ran bod yn gymwys i'r ail o'r Deddfau hyn ac, yn rhinwedd adran 4(2) o Ddeddf Cwn (Baeddu Tir) 1996, i gosbau penodedig am dramgwyddau cwn yn baeddu.back
[10]
2002 p. 30.back
[11]
O.S. 2006/768 (Cy. 75) (C. 18).back
[12]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11 091406 6
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
25 October 2006
|