British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 2645 (Cy.226)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062645w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 2645 (Cy.226)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
3 Hydref 2006 | |
|
Yn dod i rym |
9 Hydref 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160A(3) a 172(4) o Ddeddf Tai 1996[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 9 Hydref 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Tai 1996; ac
ystyr "y Rheolau Mewnfudo" ("the Immigration Rules") yw'r rheolau a osodwyd fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971[3] (Darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheoli).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r dosbarthau o berson a ragnodir o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003[4] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys)—
(a) ar ddiwedd paragraff (d)(ii), ar ôl "1961", hepgorer "." a rhodder yn ei le ";"; a
(b) ar ôl paragraff (d), mewnosoder—
"
(e) Dosbarth D1 —“person sydd o dan ofal dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo."
Darpariaethau trosiannol
3.
Nid oes gan y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn effaith mewn perthynas â cheisydd a wnaeth gais cyn 9 Hydref 2006 am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Hydref 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dyrannu llety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996").
Mae rheoliad 2 yn diwygio darpariaethau Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 sy'n rhagnodi'r dosbarthau o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai. Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod dosbarth newydd o bersonau sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai ac sy'n bersonau o dan ofal dyngarol. Math ar ganiatâd a roddir i bersonau nad ydynt yn gymwys i fod â statws ffoadur ond a fyddai'n wynebu gwir risg o ddioddef niwed difrifol pe baent yn cael eu dychwelyd i'r wladwriaeth y maent yn hanu ohoni (gweler paragraffau 339C-344C o'r Rheolau Mewnfudo (HC 395)) yw gofal dyngarol.
Nid yw'r diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn yn effeithio ar geisiadau am ddyraniad o lety tai a wnaed cyn 9 Hydref 2006.
Notes:
[1]
1996 p. 52.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, ac Atodlen 1 iddo.back
[3]
1971 p.77.back
[4]
O.S. 2003/239 (Cy. 36).back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091404 X
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
23 October 2006
|