Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 1863 (Cy.196)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061863w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1863 (Cy.196)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
12 Gorffennaf 2006 | |
|
Yn dod i rym |
14 Gorffennaf 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysg Uwch 1998[
1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 14 Gorffennaf 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "y Prif Reoliadau" yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006[2].
Diwygio'r Prif Reoliadau
3.
Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn.
4.
Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer yr is-baragraffau sy'n diffinio'r termau canlynol—
"Cytundeb yr AEE" ("EEA Agreement");
"gweithiwr mudol yr AEE"("EEA migrant worker");
"Ardal Economaidd Ewropeaidd" ("European Economic Area"); a
"Cytundeb y Swistir" ("Switzerland Agreement"); a
(b) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
"ystyr "benthyciad ffioedd coleg" ("College fee loan") yw benthyciad yn unol â rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 22 o'r Ddeddf o ran y ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr i goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt;" ac
"
mae i "ffioedd" yr ystyr a roddir i "fees" yn adran 41(1) o Ddeddf 2004 ac eithrio yn achos ffioedd coleg;"
5.
Yn rheoliad 2, hepgorer paragraffau (2) i (5).
6.
Mewnosoder ar ôl paragraff (4) o reoliad 3, y paragraff canlynol—
"
(4A) At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o'r Ddeddf; neu
(b) y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o'r Ddeddf.".
7.
Yn rheoliad 4(2)(a), o flaen y geiriau "Atodlen 1" mewnosoder y geiriau "Rhan 2 o".
8.
Yn rheoliad 6(4), ar ôl y geiriau "Er gwaethaf paragraff (1)" mewnosoder y geiriau "ac yn ddarostyngedig i baragraff 6(4B).".
9.
Ar ôl rheoliad 6(4) mewnosoder—
10.
Ar ôl rheoliad 6(4A) (a fewnosodir gan reoliad 9 uchod), mewnosoder—
"
(4B) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd neu grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (D + X)−Pr C y mae myfyriwr cymwys y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys.".
11.
Yn rheoliad 6(9) mewnosoder—
12.
Yn rheoliad 7(1), yn lle "baragraff (3)" rhodder "baragraffau (3) a (3A)" a hepgorer y geiriau "neu grant at gostau byw".
13.
Yn rheoliad 7(2), yn lle'r geiriau "baragraffau (3) a (4)" rhodder y geiriau "paragraffau (3A) a (4)".
14.
Ar ôl rheoliad 7(3) mewnosoder—
"
(3A) Os ystyrir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(4) a 5(5) a'i fod yn arwain at radd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn cael ei rhoi i fyfyriwr cymwys o flaen y radd derfynol neu gymhwyster cyfatebol, ni chaiff y myfyriwr cymwys ei rwystro rhag dod yn gymwys i gael cymorth o dan baragraff (1) neu (2) o ran unrhyw ran o'r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith iddo gael y radd anrhydedd honno.".
15.
Yn lle rheoliad 7(4) rhodder—
"
Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a) os yw'r cwrs dynodedig yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol;
(b) os yw'r myfyriwr cymwys i dderbyn unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd y swm amdano drwy gyfeirio at ei incwm neu lwfans gofal iechyd Albanaidd y cyfrifwyd y swm amdani drwy gyfeirio at ei incwm o ran unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs; neu
(c) os yw'r myfyriwr ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.".
16.
Ar ôl rheoliad 7(7) mewnosoder—
"
(8) Mae paragraffau (6A) a (6B) o reoliad 18 yn estyn darpariaethau'r rheoliad hwn ynghylch cymhwyster ar gyfer benthyciadau ffioedd a grantiau ffioedd at gostau byw y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol.".
17.
Yn lle rheoliad 10(2)(a), rhodder y canlynol—
"
(a) os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 11C yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol;".
18.
Hepgorer rheoliad 10(2)(b) ac (c).
19.
Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder y Rhan newydd sy'n dilyn—
20.
Yn y penawdau ar gyfer Rhan 6 a rheoliad 18 ar ôl y geiriau "gostau byw" mewnosoder y geiriau "a chostau eraill".
21.
Yn rheoliadau 18(1), 18(2), 18(3), 18(5) ac 18(7) hepgorer y geiriau "at gostau byw" bob tro y maent yn digwydd.
22.
Yn rheoliad 18(2) rhodder yn lle'r geiriau "os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano", y geiriau "os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo".
23.
Ar ôl rheoliad 18(6) mewnosoder—
"
(6A) Yn ddarostyngedig i baragraff (6B), nid oes gan fyfyriwr cymwys yr hawl i gael grant o dan rheoliad 28, 29 neu 30 o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran y flwyddyn academaidd honno.
(6B) Nid yw paragraff (6A) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gymorth perthnasol yw oherwydd—
(a) mae'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu'r Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol a elwir ERASMUS ac mae ei gwrs yn un y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); ac mae holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(b) mae'r cwrs gradd yn gwrs hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.
(6C) Ym mharagraff (6A) ystyr "cymorth perthnasol", mewn achos grant o dan reoliad 28, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 29 neu 30, yw benthyciad at ffioedd.".
24.
Yn rheoliad 18(8)(b) rhodder yn lle'r geiriau "y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1", y geiriau "fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1", a hepgorer y "neu" sy'n dod o flaen yr is-baragraff hwnnw.
25.
Ar ôl rheoliad 18(8)(b) mewnosoder—
"
(c) pan fydd gwladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ohoni yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd sy'n union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs academaidd;
(ch) pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);
(d) pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(dd) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.".”;
26.
Yn rheoliad 30(2) ar ôl "1992" mewnosoder y geiriau ", neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau o ran annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno".
27.
Yn rheoliad 30(5)(c), ar ôl "£26,500," mewnosoder "neu os yw'r myfyriwr pan fydd yn gwneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd,".
28.
Yn rheoliad 30(6)(ch) yn lle'r gair "cynhaliaeth" rhodder y geiriau "cymorth arbennig".
29.
Yn rheoliad 31(3) rhodder yn lle'r geiriau "os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano", y geiriau "os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo".
30.
Yn rheoliad 39(2)(b) rhodder yn lle'r geiriau "fel y crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1", "fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1".
31.
Ar ôl rheoliad 39(2)(b) mewnosoder—
"
(c) pan fydd gwladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ohoni yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd sy'n union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs academaidd;
(ch) pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);
(d) pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(dd) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.".
32.
Ar ôl rheoliad 44, mewnosoder—
"
RHAN 8A
BENTHYCIADAU FFIOEDD COLEG
44A.
Mae benthyciad ffioedd coleg ar gael i fyfyriwr cymwys yn unol ag Atodlen 3A.".
33.
Ar ôl rheoliad 50(1), mewnosoder—
"
(1A) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymhwystra i gael cymorth o dan y Rhan hon i berson—
(a) nad yw'n fyfyriwr cymwys rhan-amser; neu
(b) sy'n fyfyriwr cymwys rhan-amser ond nad oes hawl ganddo i gael cymorth o dan y Rhan hon.".
34.
Yn rheoliad 50(2)(a), o flaen y geiriau "Atodlen 1" mewnosoder y geiriau "Rhan 2 o".
35.
Yn rheoliad 50(7) rhodder yn lle'r geiriau "os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano", y geiriau "os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo".
36.
Yn lle paragraff (13) a (14) o reoliad 50, rhodder—
"
(13) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(a) gall myfyriwr ddod yn gymwys i gael grant at ffioedd o ran y flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b) nid yw grant o ran ffioedd ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.
“(13A) Pan fydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e) neu (f) o baragraff (14) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(a) gall myfyriwr fod yn gymwys i gael grant ar gyfer llyfrau, teithio a threuliau eraill o ran y flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a
(b) nid yw grant ar gyfer llyfrau, teithio a threuliau eraill ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.
(14) Dyma'r digwyddiadau—
(a) pan fydd cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;
(b) pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);
(c) pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
(ch) pan fydd y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;
(d) pan fydd y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ynddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(dd) pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);
(e) pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(f) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.".
37.
Yn rheoliad 53(5)(e) yn lle'r ffigur "£9.50" rhodder y ffigur "£2.00".
38.
Yn rheoliad 53(6)(a), yn lle'r ffigurau "£9.50", "£7.63" a "£5.93", rhodder y ffigurau "£15.92", "£12.79" a "£9.94", yn eu trefn.
39.
Hepgorer rheoliad 55(3)(a) ac yn lle rheoliad 55 (3)(b) rhodder y canlynol—
"
(b) os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14) o reoliad 50 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth ynglŷn â hi, ac yn yr achos hwn rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad pan fo'r digwyddiad yn digwydd.".
40.
Yn rheoliad 62(3)(a), o flaen y geiriau "Atodlen 1" mewnosoder y geiriau "Rhan 2 o".
41.
Yn rheoliad 62(7), rhodder yn lle'r geiriau "os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano", y geiriau "os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo".
42.
Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a osodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
43.
Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder Atodlen 3A a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
44.
Yn lle paragraff 3(4) o Atodlen 4 rhodder—
"
(2) Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy o ran myfyriwr sy'n rhiant, rhaid peidio â chronni incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae ei blentyn neu blentyn ei bartner yn dal dyfarndaliad y cyfrifir incwm yr aelwyd yn ei gylch gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau".
45.
Yn lle paragraff 4(2) o Atodlen 4 rhodder—
"
(2) Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn dod i mewn iddo a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei ddiystyru i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.".
46.
Ym mharagraff 10(4)(b) a (c) o Atodlen 4 mewnosoder ar ôl y geiriau "yn fwy na £22,560" y geiriau "os yw'r myfyriwr yn fyfyriwr dan yr hen drefn neu'n fwy na £37,900 os yw'r myfyriwr yn fyfyriwr dan y drefn newydd.".
47.
Ar ôl paragraff 10 o Atodlen 4 mewnosoder y paragraff newydd canlynol—
"
Rhannu cyfraniadau— myfyrwyr cymwys annibynnol
11.
—(1) Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 8 neu 9 o ran myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—
(a) am unrhyw flwyddyn pryd y mae dyfarniad statudol heblaw am ddyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, y cyfraniad sy'n daladwy o ran y myfyriwr cymwys annibynnol yw'r gyfran honno o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sy'n ymwneud â'r mater o'r farn ei fod yn gyfiawn;
(b) yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn pryd y mae dyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003[3] neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968[4] (a dim unrhyw ddyfarniad statudol arall) gan bartner i'r myfyriwr cymwys annibynnol, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yn swm sy'n hafal i hanner y cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9;
(c) pe na bai'r cyfraniad a gyfrifir, o ganlyniad i'r dyraniad o dan baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys annibynnol, mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach i ddyfarniad statudol perthnasol ei bartner os ydynt ill dau yn fyfyrwyr dan yr hen drefn neu os ydynt ill dau yn fyfyrwyr dan y drefn newydd.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill—
(a) os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw yn fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu
(b) os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dyrannu'r cyfraniad i'w blant o dan yr Atodlen hon.
(3) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner sydd hefyd yn fyfyriwr cymwys y cymerir ei incwm i ystyriaeth wrth asesu'r cyfraniad o ran y plant yn is-baragraff (2), ychwanegir hanner y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2) at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Gorffennaf 2006
ATODLEN 1Rheoliad 42
Yr Atodlen a roddir yn lle Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau
"
ATODLEN 1Rheoliadau 3(3), 4(2), 10(2)(b), 10(2)(c), 18(2), 18(8)(b), 26(2)(dd), 31(3), 38, 39(2)(b), 50(2)(a), 50(7), 50(14)(b), 55(3)(b), 62(3)(a), 62(7) ac Atodlen 4(4)(a)
Myfyrwyr Cymwys
RHAN
1
Dehongli
1.
—(1) At ddibenion yr Atodlen hon—
ystyr "aelod o deulu" ("family member") (oni nodir fel arall) yw—
(a) o ran gweithiwr y ffin o'r AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunan-gyflogedig y ffin o'r AEE neu berson hunan-gyflogedig o'r AEE—
(i) ei briod neu ei bartner sifil;
(ii) ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(b) o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd y ffin a pherson hunan-gyflogedig Swisaidd y ffin neu berson hunan-gyflogedig Swisaidd—
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;
(c) o ran gwladolyn y GE nad yw'n hunangynhaliol—
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) disgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(aa) sydd o dan 21 oed; neu
(bb) sy'n ddibynyddion ei briod neu ei bartner sifil;
(ch) o ran gwladolyn y GE sy'n hunangynhaliol—
(d) o ran gwladolyn y Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) disgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(aa) sydd o dan 21 oed; neu
(bb) sy'n ddibynyddion ei briod neu ei bartner sifil;
ystyr "Ardal Economaidd Ewropeaidd" ("European Economic Area") yw'r Gymuned Ewropeaidd, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;
ystyr "Cyfarwyddeb 2004/38" ("Directive 2004/38") yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 29 Ebrill 2004[6] ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teulu i symud a phreswylio yn rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;
ystyr "Cytundeb yr AEE" ("EEA Agreement") yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992[7] fel y'i addaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993[8];
ystyr "Cytundeb y Swistir" ("Swiss Agreement") yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a Chydffederaswin y Swistir, o'r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Luxembourg ar 21 Mehefin 1999[9] ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr "gwladolyn y GE" ("EC national") yw gwladolyn Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd;
ystyr "gweithiwr" yw "worker" o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
ystyr "gweithiwr mudol o'r AEE" ("EEA migrant worker") yw gwladolyn yr AEE, heblaw gweithiwr y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "gweithiwr y ffin o'r AEE" ("EEA frontier worker") yw gwladolyn o'r AEE—
(a) sy'n weithiwr yng Nghymru; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr "gwladolyn y Deyrnas Unedig" ("United Kingdom national") yw person yr ymdrinnir ag ef fel gwladolyn y Deyrnas Unedig at ddibenion Cytuniadau'r Gymuned;
ystyr "gwladolyn yr AEE" ("EEA national") yw gwladolyn Gwladwriaeth yn yr AEE heblaw y Deyrnas Unedig;
ystyr "Gwladwriaeth AEE" ("EEA State") yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
ystyr "hawl i breswylio'n barhaol" ("right of permanent residence") yw hawl sy'n codi o Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
ystyr "hunangynhaliol" ("self-sufficient") yw hunangynhaliol o fewn ystyr Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38;
ystyr "person cyflogedig" ("employed person") yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr "person cyflogedig Swisaidd" ("Swiss employed person") yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig heblaw person cyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "person cyflogedig Swisaidd y ffin" ("Swiss frontier employed person") yw gwladolyn Swisaidd—
(a) sy'n berson cyflogedig yng Nghymru; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr "person hunan-gyflogedig" ("self-employed person") yw—
(a) o ran gwladolyn yr AEE, person sy'n hunan-gyflogedig o fewn ystyr erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu
(b) o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunan-gyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr "person hunan-gyflogedig o'r AEE" ("EEA self-employed person") yw gwladolyn yr AEE sy'n berson hunan-gyflogedig heblaw person hunan-gyflogedig y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "person hunan-gyflogedig y ffin o'r AEE" ("EEA frontier self-employed person") yw gwadolyn yr AEE—
(a) sy'n berson hunan-gyflogedig yng Nghymru; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr "person sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros" ("person with leave to enter or remain") yw person—
(a) a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er nad ystyrir ei fod yn dod yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur, ystyrir ei bod yn iawn i ganiatáu iddo ddod i'r Deyrnas Unedig neu aros ynddi;
(b) y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros yn unol â hynny; a
(c) sydd wedi preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros;
ystyr "person hunan-gyflogedig Swisaidd" ("Swiss self-employed person") yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunan-gyflogedig heblaw person hunan-gyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "person hunan-gyflogedig Swisaidd y ffin" ("Swiss frontier self-employed person") yw gwladolyn Swisaidd—
(a) sy'n berson hunan-gyflogedig yng Nghymru; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
mae i "wedi setlo" yr ystyr a roddir i "settled" gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971[10];
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae "rhiant" yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae "plentyn" i'w ddehongli yn unol â hynny.
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu'r Ynysoedd, am iddo symud o un arall o'r ardaloedd hynny er mwyn—
(a) ymgymryd â'r cwrs presennol; neu
(b) ymgymryd â chwrs, gan ddiystyru unrhyw wyliau a ddigwyddodd yn y cyfamser, yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn union cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,
i gael ei ystyried fel rhywun sy'n preswylio'n arferol yn y lle y symudodd ohono.
(4) At ddibenion yr Atodlen hon, dylid ymdrin â pherson fel rhywun sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu mewn tiriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir pe bai'n breswylydd felly oni bai am y ffaith bod—
(a) y person hwnnw;
(b) ei briod neu ei bartner sifil;
(c) ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth lle mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.
(5) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth lle mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn cynnwys—
(a) yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr o dan y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd; a
(b) yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr o dan Wladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd.
(6) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—
(a) nad oedd yn flaenorol yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
(b) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o un ardal neu'r llall neu'r ddwy ardal hon,
i'w ystyried fel bai wastad wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
RHAN
2
Categorïau
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig
2.
—(1) Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(a) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig am reswm heblaw ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru;
(c) sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).
3.
Person—
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig am ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(ch) mewn achos yr oedd y preswylio y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
Ffoaduriaid a phersonau sydd â chaniatâd ganddynt i ddod i mewn neu aros
4.
Person—
5.
Person—
(a) sydd naill ai—
(i) yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros; neu
(ii) yn briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn person sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros;
(b) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o'u teulu
6.
—(1) Person—
(a) sydd—
(i) yn weithiwr mudol o'r AEE neu yn berson hunan-gyflogedig o'r AEE;
(ii) yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunan-gyflogedig Swisaidd;
(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);
(iv) yn weithiwr y ffin o'r AEE neu yn berson hunan-gyflogedig y ffin o'r AEE;
(v) yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu'n berson hunan-gyflogedig Swisaidd y ffin; neu
(vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);
(b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
7.
Person sydd—
(a) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud[11], fel y'i hestynnir gan Gytundeb yr AEE.
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl preswylio yn rhywle arall
8.
—(1) Person sydd—
(a) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b) wedi gadael y Deyrnas Unedig ac arfer hawl preswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(c) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;
(ch) wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(d) mewn achos yr oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl preswylio os yw'n wladolyn y Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu Gwladolyn y Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu berson sydd â hawl preswylio parhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a bod ganddo hawl preswylio parhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni neu y mae'n berson y mae'n aelod o deulu gwladolyn ohoni.
Gwladolion y GE
9.
—(1) Person—
(a) sydd naill ai—
(i) yn wladolyn y GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu
(ii) yn aelod o deulu person o'r fath;
(b) ac mae'n—
(i) mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru; neu
(ii) yn ymgymryd â chwrs dynodedig rhan-amser neu gwrs dynodedig ôl-radd yng Nghymru;
(c) wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ystod unrhyw rhan o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
(3) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn y wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn y wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn y GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad a fodlonir.
10.
—(1) Person sydd—
(a) yn wladolyn y GE heblaw gwladolyn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(ch) mewn achos yr oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn y wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn y GE ac nid yn wladolyn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad a fodlonir.
Plant gwladolion Swisaidd
11.
Person sydd—
(a) yn blentyn gwladolyn Swisaidd y mae ganddo hawl i gymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos yr oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).".
ATODLEN 2Rheoliad 43
"
ATODLEN 3ARheoliad 44A
BENTHYCIADAU FFIOEDD COLEG
Dehongli
1.
Yn yr Atodlen hon—
(a) ystyr "cwrs cymhwyso" ("qualifying course") yw cwrs dynodedig amser-llawn a ddarperir gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt a—
(i) caiff ei restru yn rheoliad 5(5);
(ii) mae'n arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol; neu
(iii) o ran unrhyw flwyddyn academaidd y mae gan fyfyriwr yr hawl i dderbyn taliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at ei incwm neu fwrsari gofal iechyd Albanaidd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at ei incwm;
(b) ystyr "myfyriwr cymhwysol" ("qualifying student") yw person sy'n bodloni amodau paragraff 3;
(c) ystyr "blwyddyn academaidd safonol" ("standard academic year") yw blwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwyso a fyddai'n cael ei gymryd gan berson nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ac sy'n cychwyn y cwrs ar yr un pryd â myfyriwr cymhwysol.
Benthyciadau ffioedd coleg sydd ar gael
2.
Mae person yn cymhwyso i gael benthyciad ffioedd coleg mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs cymhwyso yn unol â'r Atodlen hon.
3.
Mae person yn cymhwyso i gael benthyciad ffioedd coleg os yw'n bodloni'r amodau canlynol—
(a) mae'n fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag cymhwyso gan baragraff 4;
(b) mae ganddo radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;
(c) mae'n cymryd cwrs cymhwyso sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;
(ch) mae'n aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg Prifysgol Caergrawnt; a
(d) mae o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwyso.
4.
Nid yw myfyriwr cymwys sy'n dod o fewn paragraff 9 o Atodlen 1 yn gymwys i gael benthyciad ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw'n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
5.
I gael benthyciad ffioedd coleg, rhaid i'r myfyriwr cymhwysol ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol.
6.
Ymdrinnir â myfyriwr anabl sy'n ymgymryd â chwrs cymhwyso yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am nad yw'n gallu mynychu'r cwrs am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd fel pe bai'n bresennol ar y cwrs cymhwyso er mwyn bod yn gymwys i gael benthyciad ffioedd coleg.
7.
Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 8 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(a) gall myfyriwr ddod yn gymwys i gael benthyciad ffioedd coleg yn unol â'r Atodlen hon o ran y flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b) nad oes benthyciad ffioedd coleg ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.
8.
Dyma'r digwyddiadau—
(a) pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1;
(b) pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn y wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
(c) os yw'r myfyriwr yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;
(ch) os yw'r myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1;
(d) os yw'r myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;
(dd) os bydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
9.
Mae benthyciad ffioedd coleg ar gael o ran bob blwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwyso ac o ran un flwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwyso nad yw'n flwyddyn academaidd safonol.
10.
Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwyso dros un flwyddyn academaidd neu ddwy, at ddibenion penderfynu a yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael benthyciad ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â'r gyntaf o'r cyfryw flynyddoedd o astudiaeth fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â'r blynyddoedd canlynol o'r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.
Swm y benthyciad ffioedd coleg
11.
—(1) Swm y benthyciad ffioedd coleg o ran blwyddyn academaidd o gwrs cymhwyso yw swm sy'n hafal i'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan y myfyriwr i'w goleg neu neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(2) Os bydd myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am ffioedd coleg sy'n llai na'r mwyafswm sydd ar gael o ran y flwyddyn academaidd, caniateir iddo wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r mwyafswm sydd ar gael.
Trosglwyddo
12.
Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwyso i un arall—
(a) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i'r cwrs arall ar gais y myfyriwr oni bai bod cyfnod y cymhwystra wedi dod i ben;
(b) os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i'r coleg perthnasol neu neuadd breifat barhaol o ran y cwrs cymhwyso y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo os bodlonir yr amodau ym mharagraff 14 ac nad yw'n gallu cymhwyso ar gyfer benthyciad arall o ran ffioedd coleg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd honno.
(c) os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo ar ôl i'r benthyciad ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni all wneud cais am fenthyciad arall o ran ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwyso y mae'n trosglwyddo iddo.
Cyfrannu
13.
Os yr unig gymorth y mae myfyriwr cymhwysol yn gwneud cais amdano yw benthyciad ffioedd coleg, ni chyfrifir unrhyw gyfraniad.
Talu
14.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad ffioedd coleg y mae myfyriwr cymhwysol yn dod yn gymwys ar ei gyfer i'r coleg neu neuadd breifat barhaol y mae'r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad ffioedd coleg mewn un cyfandaliad.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad ffioedd coleg cyn—
(a) ei fod wedi derbyn cais dilys am daliad oddi wrth y coleg neu neuadd breifat barhaol; a
(b) bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
(4) Mae'n ofynnol i'r coleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol ar y ffurf honno y caiff y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad ffioedd coleg o ran y flwyddyn academaidd nes iddo dderbyn y cadarnhad hwnnw oni fydd yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol i dalu heb dderbyn cadarnhad o bresenoldeb.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu benthyciad ffioedd coleg o ran cwrs cymhwyso os bydd—
(a) cyn i'r cyfnod o dri mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben bod y myfyriwr cymhwysol yn peidio â mynychu'r cwrs; a
(b) y coleg neu neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn cychwyn mynychu eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.
Gordalu
15.
Gall y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordalu benthyciad ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu neuadd breifat barhaol.".
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 ("y Prif Reoliadau"). Ceir crynodeb o effaith y prif newidiadau isod.
Newidiadau a wneir i weithredu gofynion yr UE
(Rheoliadau 4(a), 5, 7, 17 — 22, 24, 25, 29 — 31, 34 — 36, 39 — 42 ac Atodlen 1).
Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf cymhwystra penodol er mwyn iddi fod yn bosibl iddynt fod yn gymwys i gael cymorth tuag at naill ai eu ffioedd hyfforddi yn unig neu eu ffioedd hyfforddi a chymorth cynhaliaeth. Diwygiwyd y meini prawf hyn ac maent yn cynnwys newidiadau a wnaed wrth weithredu Cyfarwyddeb yr UE 2004/38 ar hawliau gwladolion y GE a'u teuluoedd i symud a phreswylio mewn Aelod-wladwriaethau eraill. Gosodir y meini prawf newydd yn Atodlen 1 ddiwygiedig i'r Prif Reoliadau a amnewidir gan y Rheoliadau hyn.
Mae'r newidiadau'n cyflwyno categorïau newydd o fyfyrwyr y mae'n bosibl iddynt fod yn gymwys i gael cymorth. Maent yn cynnwys:
• Gwladolion y GE ac aelodau o'u teulu sy'n caffael yr hawl i breswylio'n barhaol yn y DU (ar ôl cyfnod parhaus o bum mlynedd yn preswylio yn y DU) (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);
• Aelodau o deulu gwladolion y GE sy'n anweithgar yn economaidd sy'n dal heb gaffael yr hawl i breswylio'n barhaol (cymorth ffioedd hyfforddi yn unig);
• Personau o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu bersonau hunangyflogedig Swisaidd ac aelodau o'u teulu (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);
• Perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol gweithwyr mudol o'r AEE neu Swisaidd (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);
• Gweithwyr "y ffin" a phersonau hunan-gyflogedig "y ffin" (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);
• Plant gwladolion/gwŷr neu wragedd neu bartneriaid sifil gwladolion Swisaidd (cymorth ffioedd hyfforddi a chymorth cynhaliaeth).
Mae'r newid hefyd yn galluogi gwneud taliadau cymorth pan fo myfyrwyr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol neu'n dod yn un o'r personau canlynol o'r AEE neu Swisaidd: gweithiwr; person hunan-gyflogedig; gweithiwr y ffin neu berson hunan-gyflogedig y ffin neu aelod o deulu person o'r fath neu blentyn gwladolyn Swisaidd yn ystod blwyddyn academaidd.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud nifer o newidiadau eraill o ganlyniad i'r newidiadau yn yr Atodlen 1 newydd.
Benthyciadau ffioedd coleg
(Rheoliadau 4(b), 32, 43 ac Atodlen 2)
Mae diwygiadau i'r Prif Reoliadau yn cyflwyno ffurf newydd ar gymorth sef benthyciad o ran ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu i goleg Prifysgol Caergrawnt mewn cysylltiad â bod yn bresennol i ddilyn cwrs cymhwysol.
Newidiadau eraill
Diwygir darpariaethau canlynol y Prif Reoliadau, ac ychwanegir darpariaethau newydd fel a ganlyn—
• Rheoliad 3 (Darpariaethau canlyniadol): diwygir er mwyn ei gwneud yn glir bod cyfeiriadau yn y Rheoliadau at yr Ysgrifennydd Gwladol i'w darllen fel cyfeiriadau (neu'n cynnwys cyfeiriadau) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru (rheoliad 6);
• Rheoliad 6 (Cyfnod cymhwystra): diwygir o ran categorïau penodol o fyfyrwyr cymwys (rheoliadau 8 — 11);
• Rheoliad 7: rhai newididau i'r rheolau astudio blaenorol (rheoliadau 12 — 16 a 23);
• Rheoliad 11A newydd: mae'n darparu na chaniateir i grant neu fenthciad am ffioedd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr, ac er mwyn cael benthyciad rhaid i'r myfyriwr ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 19);
• Rheoliad 30: newidiadau a wneir i reolau ynghylch cymhwystra am grant cymorth arbennig (rheoliadau 26 — 28);
• Rheoliad 50: newidiadau a wneir i reolau ynghylch cymhwystra myfyrwyr rhan-amser fel bod gan y Cynulliad Cenedlaethol bŵer wrth gefn i roi cymhwystra mewn achos nad ymwneir ag ef yn ddatganedig (gan ddwyn y rheolau yn y cyswllt hwn yn unol â'r rhai ar gyfer myfyrwyr llawn-amser) (rheolaiad 33);
• Rheoliad 53: newidiadau i symiau penodol sydd i'w didynnu wrth gyfrifo'r cymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser (rheoliadau 37 — 38);
• Atodlen 4: newidiadau i'r rheolau sy'n rheoli asesu ariannol cyfraniadau myfyrwyr at cymorth ariannol (rheoliadau 44 — 47).
Notes:
[1]
1998 p. 30; mewnosodwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)).back
[2]
O.S. 2006/126 (Cy.19).back
[3]
O.S. 2003/1994.back
[4]
1968 c. 46.back
[5]
1998 p.38.back
[6]
OJ L158, 30.04.2004, t.77— 123.back
[7]
Cm. 2073.back
[8]
Cm. 2183.back
[9]
Cm. 4904.back
[10]
1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).back
[11]
OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/D— Dn 1968 (II) t.475).back
English version
ISBN
0 11 091388 4
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
19 July 2006
|