Wedi'i wneud | 11 Gorffennaf 2006 | ||
Yn dod i rym | 13 Gorffennaf 2006 |
Pŵer i godi tâl am wasanaethau
2.
Awdurdodir awdurdod tân ac achub i godi tâl ar berson a bennir yng ngholofn 2 o'r tabl yn yr Atodlen ar gyfer y weithred a wneir gan yr awdurdod a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r tabl, ond nid—
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Gorffennaf 2006
Y weithred a gyflawnir gan yr awdurdod tân ac achub | Y person y caniateir codi tâl arno |
1.
Hurio neu ddarparu cyfarpar, cerbydau, mangreoedd neu gyflogeion awdurdod tân ac achub, ac eithrio pan wneir hyn yn unol ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(b) adran 8; neu (c) adrannau 13 i 17. |
Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
2.
Arolygu, profi, cynnal ac atygyweirio cyfarpar a cherbydau, gan gynnwys ailwefru silindrau aer cywasgedig a chyfarpar anadlu. |
Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
3.
Dal a chlirio ysbwriel, gorlifoedd, arllwysiadau neu ollyngiadau o gerbyd, tanc storio neu bibell. |
Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre neu gerbyd a oedd, cyn y digwyddiad a arweiniodd at y tâl, yn dal neu'n cludo'r deunydd sydd i'w ddal neu i'w glirio, neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
4.
Darparu dŵ r neu gael gwared â dŵ r. |
Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
5.
Galluogi pobl i fynd i mewn i fangre neu i ddod o fangre |
Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y fangre neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
6.
Achub pobl o gabanau lifftiau |
Perchennog neu weithredydd y lifft. |
7.
Achub anifeiliaid. |
Perchennog neu geidwad yr anifail. |
8.
Darparu dogfennau, ffotograffau, tâpiau, fideos neu recordiadau tebyg eraill, pan na fo codi taliadau eisoes wedi'i awdurdodi neu ei wahardd gan ddeddfiad arall. |
Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
9.
Darparu hyfforddiant, heblaw hyfforddiant a ddarperir i gyflogeion awdurdodau tân ac achub eraill o dan gynllun atgyfnerthu. |
Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
10.
Symud strwythurau peryglus. |
Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y strwythur neu'r fangre lle mae'r strwythur neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
11.
Rhoi cyngor i bersonau mewn perthynas â mangre lle dygir masnach, busnes neu ymgymeriad arall ymlaen, heblaw rhoi cyngor y mae'n ofynnol gwneud trefniadau ar ei gyfer o dan adran 6(2)(b) o'r Ddeddf. |
Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
12.
Codi personau analluog. |
Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth. |
13.
Diffodd tân ar y môr neu o dan y môr, neu amddiffyn bywyd ac eiddo os digwydd tân o'r fath. |
Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |