British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006 Rhif 1851 (Cy.194)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061851w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1851 (Cy.194)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
11 Gorffennaf 2006 | |
|
Yn dod i rym |
14 Gorffennaf 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 18(1)(c), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[
1] ac a freinir ynddo bellach[
2], ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[
3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
O ran y Rheoliadau hyn—
(a) eu henw yw Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006;
(b) deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2006;
(c) byddant yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr a roddir i ("food authority") yn adran 5(1A) a 3(a) a (b) o'r Ddeddf;
ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") yw o ran unrhyw ardal iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984[4], awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
ystyr "Cafa-cafa" ("Kava-kava") yw planhigyn, neu unrhyw ran o blanhigyn neu ddarn o blanhigyn, sy'n perthyn i'r rhywogaeth Piper methysticum;
mae i "cylchrediad rhydd mewn Aelod-wladwriaethau" yr un ystyr â ("free circulation in member States") yn Erthygl 23.2, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 24, o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "Gwladwriaeth AEE" ("AEE State") yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;
Gwaharddiad ar werthu etc. bwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff unrhyw berson—
(a) gwerthu, neu
(b) meddu ar gyfer gwerthu, neu gynnig, arddangos neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, neu
(c) mewnforio i Gymru o wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig unrhyw fwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys.
(2) Ni fydd y gwaharddiad a osodir gan baragraff (1) yn gymwys os yw'r bwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys yn cael ei fewnforio o Wladwriaeth AEE, os yw'r bwyd—
(a) yn tarddu o Wladwriaeth AEE, neu
(b) yn tarddu y tu allan i Ardal Ewropeaidd Economaidd ond y mae mewn cylchrediad rhydd mewn Aelod-wladwriaethau,
ac allforir ef, neu mae i'w allforio i Wladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig.
Cosb a Gorfodi
4.
—(1) Bydd unrhyw berson sy'n tramgwyddo neu sy'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(3) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990
5.
—(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 2 (ystyr estynedig "sale" etc);
(b) adran 3 (rhagdybiaeth y bwriedir bwyd i'w fwyta gan bobl);
(c) adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d) adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 33(1) (rhwystro etc swyddogion);
(f) adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above" yn cael ei ystyried yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e);
(ff) adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e);
(g) adran 35(2) a (3), i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (f);
(ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll);
(2) Bydd adran 9 o'r Ddeddf[5] (archwilio ac atafaelu bwyd dan amheuaeth) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai bwyd y byddai'n dramgwydd ei werthu oddi tanynt yn fwyd nad oedd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
Rhagdybiaeth o ran bwyd mewn sypiau, lotiau neu lwythi
6.
Pan dorrir unrhyw un o ofynion y Rheoliadau hyn o ran unrhyw fwyd a phan fo'r bwyd hwnnw yn rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, rhagdybir, oni bai bod prawf i'r gwrthwyneb, bod y cyfan o'r bwyd yn y swp, lot neu lwyth hwnnw yn methu â chydymffurfio â'r gofynion hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Gorffennaf 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn (yn ddarostyngedig i eithriadau mewn amgylchiadau penodol sy'n ymwneud â mewnforion o Wladwriaethau'r AEE) yn gwahardd gwerthu, meddu gyda'r bwriad o werthu, cynnig, arddangos neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, a mewnforio i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, unrhyw fwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa, neu sy'n cynnwys Cafa-cafa (sef planhigyn neu ran o blanhigyn, neu ddarn o blanhigyn o'r fath, sy'n perthyn i'r rhywogaeth Piper methysticum) (rheoliad 3). Gellir trin unrhyw fwyd o'r fath fel bwyd sy'n anaddas i'w fwyta gan bobl a gall fod yn agored i'w atafaelu a'i ddinistrio (rheoliad 5(3)).
Mae'r Rheoliadau yn creu tramgwydd o ran eu torri ac maent yn darparu ar gyfer eu gorfodi gan awdurdodau bwyd (rheoliad 4). Maent hefyd yn creu rhagdybiaeth, oni bai bod prawf i'r gwrthwyneb, pan fo rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd yn torri'r Rheoliadau, bernir bod y swp, lot neu lwyth cyfan yn torri'r Rheoliadau (rheoliad 6).
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o ddrafft o'r Rheoliadau yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/34/EC sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol a rheolau gwasanaethau y Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/48/EC (OJ Rhif L217, 5.8.1998, t.18). Drwy amryfusedd, ni hysbyswyd ef o'r Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002 ac fe'u dirymwyd wedi hynny gan Reoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) (Dirymu) 2003. Mae'r Rheoliadau hyn yn cymryd lle Rheoliadau 2002.
Paratowyd Arfarniad Effaith Rheoliadol a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16. Diwygiodd O.S. 2004/2990 y diffiniad o "food" yn adran 1 o'r Ddeddf ac fe ddiwygiodd y gofynion ymgynghori yn adran 48 o'r Ddeddf er mwyn bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 178/2002.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999.back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1; sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd.back
[4]
1984 p.22back
[5]
Diwgiwyd adran 9 gan O.S. 2004/3279.back
[6]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 091390 6
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
21 July 2006
|