Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 1849 (Cy.192)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061849w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1849 (Cy.192)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
11 Gorffennaf 2006 | |
|
Yn dod i rym |
14 Gorffennaf 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 53(11), 54A(5)(a) a 56(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2006 a daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Gorffennaf 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "Rheoliadau 2001" ("the 2001 Regulations") yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001[2].
Diwygiadau i Reoliadau 2001
2.
Diwygir Rheoliadau 2001 fel a ganlyn.
3.
Yn rheoliad 2—
(a) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
"
ystyr "is-bwyllgor cymunedol" ("community sub-committee") yw is-bwyllgor a benodwyd gan bwyllgor safonau awdurdod lleol o dan adran 56 o Ddeddf 2000;";
(b) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
"
ystyr "is-bwyllgor adran 54A" ("section 54A sub-committee") yw is-bwyllgor a benodir gan bwyllgor safonau awdurdod perthnasol o dan adran 54A(1) o Ddeddf 2000;";
(c) yn y diffiniad o "pwyllgor safonau", yn lle "mae'n cynnwys is-bwyllgor i bwyllgor safonau;" rhodder "mae'n cynnwys is-bwyllgor adran 54A ac is-bwyllgor cymunedol."; ac
(ch) hepgorer y diffiniad o "is-bwyllgor i bwyllgor safonau".
4.
Yn lle rheoliad 3, rhodder—
"
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i bwyllgor safonau fod yn bwyllgor a chanddo nid llai na phum aelod na mwy na naw.
(2) Rhaid i is-bwyllgor adran 54A fod yn bwyllgor a chanddo nid llai na thri aelod.".
5.
Yn lle rheoliad 10, rhodder—
"
10.
—(1) Rhaid i aelodaeth pwyllgor safonau awdurdod lleol sydd i gyflawni swyddogaethau mewn perthynas ag—
(a) cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw; a
(b) aelodau'r cynghorau cymuned hynny,
gynnwys o leiaf un aelod pwyllgor cymunedol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i benodiad aelod pwyllgor cymunedol yn aelod o bwyllgor safonau awdurdod lleol sydd i gyflawni'r swyddogaethau a ddisgrifir yn is-baragraffau (1)(a) a (b) gael ei wneud gan yr awdurdod lleol hwnnw.
(3) Cyn gwneud penodiad o dan baragraff (2) rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori—
(a) â'r cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli o fewn ei ardal; a
(b) â chymdeithasau cynghorau cymuned a sefydlwyd (os o gwbl) ar gyfer yr ardal honno, ac sy'n gweithredu oddi mewn iddi.".
6.
Ar ôl rheoliad 18, mewnosoder—
"
18A.
—(1) Ni fydd tymor swydd aelod o bwyllgor safonau awdurdod lleol sy'n aelod pwyllgor cymunedol yn hwy nag—
(a) pedair blynedd; neu
(b) y cyfnod hyd at yr etholiadau cyffredin ar gyfer y cyngor cymuned y mae'r aelod pwyllgor cymunedol yn aelod ohono, sef yr etholiadau nesaf ar ôl i'r person hwnnw gael ei benodi'n aelod pwyllgor cymunedol o'r pwyllgor hwnnw,
pa gyfnod bynnag fo'r byrraf.
(2) Rhaid i aelod pwyllgor cymunedol roi'r gorau i fod yn aelod o bwyllgor safonau awdurdod lleol os yw'r aelod hwnnw'n peidio â bod yn aelod o gyngor cymuned o fewn ardal yr awdurdod lleol o dan sylw.".
7.
Yn lle paragraff (2) o reoliad 21, rhodder—
"
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) caniateir i aelod annibynnol o bwyllgor safonau awdurdod perthnasol gael ei ailbenodi gan yr awdurdod perthnasol hwnnw am un tymor olynol arall.
(3) Wrth iddo ailbenodi aelod annibynnol o dan baragraff (2), nid oes raid i'r awdurdod perthnasol gydymffurfio â'r gofynion a osodir gan reoliadau 13 i 17.
(4) Os ailbenodir aelod annibynnol o dan baragraff (2), rhaid i'r tymor olynol arall hwnnw beidio â bod yn fwy na phedair blynedd.".
8.
Ar ôl rheoliad 21, mewnosoder—
"
21A.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 18A, caniateir i aelod pwyllgor cymunedol o bwyllgor safonau awdurdod lleol gael ei ailbenodi gan yr awdurdod lleol hwnnw am un tymor olynol arall.
(2) Cyn ailbenodi aelod pwyllgor cymunedol o dan baragraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori—
(a) â'r cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli o fewn ei ardal; a
(b) â chymdeithasau cynghorau cymuned a sefydlwyd (os o gwbl) ar gyfer yr ardal honno, ac sy'n gweithredu oddi mewn iddi.".
9.
Ar ôl paragraff (9) o reoliad 22, mewnosoder—
"
(10) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn rhwystro aelodau pwyllgor safonau rhag ethol cadeirydd neu is-gadeirydd sy'n aelod annibynnol o'r pwyllgor hwnnw ac sydd—
(a) wedi'i ailbenodi'n aelod o'r fath o dan reoliad 21(2); a
(b) wedi'i ethol yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd y pwyllgor hwnnw yn ystod tymor swydd cyntaf yr aelod.".
10.
Yn lle rheoliad 24, rhodder—
"
24.
—(1) Ni chaiff unrhyw fusnes ei drin mewn cyfarfod o bwyllgor safonau, ac eithrio is-bwyllgor adran 54A—
(a) onid oes tri aelod o leiaf yn bresennol, gan gynnwys y cadeirydd; a
(b) onid yw o leiaf hanner yr aelodau sy'n bresennol (gan gynnwys y cadeirydd) yn aelodau annibynnol.
(2) Ni chaiff unrhyw fusnes ei drin mewn cyfarfod o is-bwyllgor adran 54A—
(a) onid oes dau aelod o leiaf yn bresennol, gan gynnwys y cadeirydd; a
(b) onid yw o leiaf hanner yr aelodau sy'n bresennol (gan gynnwys y cadeirydd) yn aelodau annibynnol.
(3) At ddibenion paragraff (1) a (2) mae'r term "cadeirydd" yn cynnwys—
(a) is-gadeirydd sy'n llywyddu'n unol â pharagraff (4) o reoliad 22; a
(b) aelod annibynnol sy'n llywyddu'n unol â pharagraff (5) o reoliad 22.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
11 Gorffennaf 2006
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Gorffennaf 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") yn gwneud darpariaeth o ran ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol.
Mae adran 53(1) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod perthnasol, sy'n cynnwys yng Nghymru gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau heddlu ond nad ydynt yn cynnwys cynghorau cymuned, yn sefydlu pwyllgor safonau a chanddo'r swyddogaethau a roddir iddo gan Ran III o'r Ddeddf neu oddi tani.
O dan adran 53(11) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth o ran (ymhlith pethau eraill) maint, cyfansoddiad a thrafodion pwyllgorau safonau awdurdodau perthnasol yng Nghymru, ac eithrio awdurdodau heddlu, ac unrhyw is-bwyllgorau a sefydlir o dan adran 54A neu adran 56 o'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001").
Mae rheoliad 3 yn rhoi diffiniad newydd ("is-bwyllgor adran 54A") yn rheoliad 2 o Reoliadau 2001. Mewnosodwyd adran 54A o'r Ddeddf gan adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 54A o'r Ddeddf yn rhoi'r hawl i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol i benodi un neu fwy o is-bwyllgorau at ddibenion cyflawni unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r pwyllgor (ac eithrio swyddogaethau o dan adran 55 neu adran 56 o'r Ddeddf).
Mae rheoliad 4 yn rhoi rheoliad 3 newydd yn Rheoliadau 2001 sy'n gwneud darpariaeth newydd o ran maint is-bwyllgor a benodir o dan adran 54A o'r Ddeddf (is-bwyllgor adran 54A).
Mae rheoliad 5 yn rhoi rheoliad 10 newydd yn Rheoliadau 2001. Mae'r rheoliad 10 newydd hwnnw'n darparu, o ran penodi "aelod pwyllgor cymunedol" yn aelod o bwyllgor safonau awdurdod lleol, mai'r awdurdod lleol hwnnw sydd i'w benodi. Cyn gwneud penodiad o'r fath, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r cyrff a bennir yn rheoliad 10(3)(a) a (b).
Mae rheoliad 6 yn mewnosod rheoliad 18A newydd yn Rheoliadau 2001. Mae'r rheoliad 18A newydd hwnnw'n gwneud darpariaeth o ran hyd tymor swydd "aelod pwyllgor cymunedol" o bwyllgor safonau awdurdod lleol.
Mae rheoliad 7 yn rhoi paragraffau (2), (3) a (4) newydd yn rheoliad 21 o Reoliadau 2001. Mae'r paragraffau newydd hynny'n gwneud darpariaeth o ran ailbenodi aelod annibynnol o bwyllgor safonau.
Mae rheoliad 8 yn mewnosod rheoliad 21A newydd yn Rheoliadau 2001. Mae'r rheoliad 21A newydd hwnnw'n gwneud darpariaeth o ran ailbenodi "aelod pwyllgor cymunedol" o bwyllgor safonau awdurdod lleol. Mae rheoliad 21A(2) yn darparu bod yn rhaid i awdurdod lleol, cyn iddo wneud ailbenodiad o'r fath, ymgynghori â'r cyrff a bennir yn rheoliad 21A(2)(a) a (b).
Mae rheoliad 9 yn mewnosod paragraff (10) newydd yn rheoliad 22 o Reoliadau 2001. Mae'r paragraff newydd hwnnw'n cadarnhau y caniateir ethol aelod annibynnol o bwyllgor safonau sydd wedi'i ailbenodi i bwyllgor safonau am dymor olynol arall yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd y pwyllgor hwnnw.
Mae Rheoliad 10 yn gosod rheoliad 24 newydd yn Rheoliadau 2001. Mae'r rheoliad 24 newydd hwnnw'n darparu mai dau aelod (gan gynnwys cadeirydd yr is-bwyllgor hwnnw) yw'r cworwm ar gyfer cyfarfod o is-bwyllgor adran 54A. Mae'r rheoliad newydd hwnnw hefyd yn gwneud yn glir ystyr y term "cadeirydd" yn rheoliad 24(1) a (2).
Notes:
[1]
2000 p.22; diwygiwyd adran 53(11) gan adran 35, Atodlen 4, paragraffau 1 a 4 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10); a mewnosodwyd adran 54A gan adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).back
[2]
O.S. 2001/2283 (Cy.172), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2929 (Cy.214).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091387 6
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
19 July 2006
|