Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Pysgota Môr (Stoc o Gegdduon Gogleddol) (Cymru) 2006 Rhif 1796 (Cy.191)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061796w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1796 (Cy.191)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Pysgota Môr (Stoc o Gegdduon Gogleddol) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
5 Gorffennaf 2006 | |
|
Yn dod i rym |
7 Gorffennaf 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[
1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Stoc o Gegdduon Gogleddol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 7 Gorfennaf 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (2) yn rhagfarnu effaith adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 o ran unrhyw ddarpariaeth sy'n creu tramgwydd neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â hi.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "cegdduon gogleddol" ("northern hake") yw cegdduon a gymerir o'r parth adfer cegdduon;
mae i "Cymru" ("Wales") yr ystyr a roddir i "Wales" gan adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2];
ystyr "darpariaeth gyfatebol" ("equivalent provision") yw unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw Orchymyn arall a wneir at ddibenion gweithredu Rheoliad 811/04 ynghylch unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y mae ganddi effaith gyfatebol i ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, y gellir rhoi rheithdrefnau ar waith yng Nghymru ynglyn â hi yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981;
mae i "llyfr lòg" ("logbook") yr ystyr a roddir i "logbook" yn Rheoliad 2847/93 fel yr helaethir arno yn Rheoliad 2807/83, ac mae unrhyw gyfeiriad at ddogfen neu lyfr lòg yn cynnwys—
(a) unrhyw fap, cynllun, graff, lluniad neu ddyddiadur;
(b) unrhyw ffotograff;
(c) unrhyw ddata, ym mha ffordd bynnag y'i hatgynhyrchir, a gyfathrebir trwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren ac a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93;
(ch) unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio synau neu ddata arall (ond nid delweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu ymhellach (gyda neu heb gymorth unrhyw gyfarpar arall); a
(d) unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negydd, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd atgynhyrchu'r delweddau ymhellach;
ystyr "y parth adfer cegdduon" ("the hake recovery zone") yw'r ardal a ddiffinnir yn Erthygl 1 o Reoliad 811/04;
ystyr "person â gofal" ("person in charge"), o ran cwch pysgota, yw'r perchennog, y meistr neu'r siartrwr, os oes un, y cwch pysgota neu asiant unrhyw un ohonynt;
ystyr "Rheoliad 2807/83" ("Regulation 2807/83") yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2807/83 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cofnodi gwybodaeth ar ddalfeydd pysgod Aelod-wladwriaethau, fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn[3];
ystyr "Rheoliad 2847/93" ("Regulation 2847/93") yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system reoli sy'n gymwys i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn[4]; ac
ystyr "Rheoliad 811/04" ("Regulation 811/04") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 811/2004 sy'n sefydlu mesurau ar gyfer adfer stoc o gegdduon gogleddol, fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn[5].
(2) Ceir trin unrhyw wybodaeth a roddir i unrhyw awdurdod at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn fel pe bai hefyd wedi'i rhoi at ddibenion darpariaeth gyfatebol.
(3) Mae i ymadroddion yn y Gorchymyn hwn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad 811/04, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.
Cofnodi a rhoi cyfrif o amser a dreulir yn yr ardaloedd
3.
Mae'r person sydd â gofal cwch pysgota sy'n methu â chofnodi yn ei lyfr lòg yr amser a dreuliwyd yn y parth adfer cegdduon a rhoi cyfrif amdano yn unol ag Erthyglau 19e a 19k o Reoliad 2847/93 fel y'u cymhwysir gan Erthygl 7 o Reoliad 811/2004 yn euog o dramgwydd.
Hysbysiad ymlaen llaw
4.
—(1) Mae person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota y mae Erthygl 8 o Reoliad 811/04 yn gymwys iddo, sy'n dod i borthladd yng Nghymru heb roi'r wybodaeth y mae'r Erthygl honno'n gofyn amdani, yn euog o dramgwydd.
(2) Caniateir i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, drwy gyfarwyddyd ysgrifenedig neu ar lafar i'r person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota y mae Erthygl 8(2) o Reoliad 811/04 yn gymwys iddo ac sy'n glanio mewn porthladd yng Nghymru, ei gwneud yn ofynnol nad yw'r dadlwytho y cyfeirir ato yn Erthygl 8(2) o Reoliad 811/04 yn cychwyn hyd nes bod swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig yn ei awdurdodi.
(3) Mae person sydd â gofal cwch pysgota y dadlwythir ohono'n groes i unrhyw ofyniad o dan baragraff (2) yn euog o dramgwydd.
(4) Mae person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota y mae Erthygl 8(3) o Reoliad 811/04 yn gymwys iddo sy'n methu â rhoi gwybodaeth fel sy'n ofynnol gan yr Erthygl honno yn euog o dramgwydd.
(5) At ddibenion paragraff (1) a (4), mae'r wybodaeth i'w roi i Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Glanio cegdduon mewn porthladdoedd dynodedig
5.
—(1) Mae person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota sy'n glanio cegdduon gogleddol yng Nghymru yn groes i Erthygl 9 o Reoliad 811/04 yn euog o dramgwydd.
(2) Os caiff cegdduon gogleddol eu glanio gyntaf o gwch pysgota mewn porthladd yng Nghymru a ddynodwyd fel a bennir ym mharagraff (4) ac—
(a) mae'r gofyniad i bwyso sampl cynrychioliadol, fel a bennir yn Erthygl 12 o Reoliad 811/04, yn gymwys i'r glanio hwnnw, a
(b) nid yw paragraff (3) yn gymwys i'r glanio hwnnw,
y rheolwr at ddibenion yr Erthygl honno yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
(3) Os caiff cegdduon gogleddol eu glanio o gwch pysgota mewn porthladd yng Nghymru a ddynodwyd fel a bennir ym mharagraff (4) ac—
(a) mae'r gofyniad i bwyso sampl cynrychioliadol, fel a bennir yn Erthygl 12 o Reoliad 811/04, yn gymwys i'r glanio hwnnw; a
(b) mae'r cwch pysgota yn barti i drefniant, a wnaed ymhlith cychod pysgota sy'n defnyddio'r porthladd, gyda pherson neu gorff sy'n gweithredu fel rheolwr arnynt at ddibenion yr Erthygl honno; ac
(c) mae manylion y trefniant, a'r cychod pysgota sy'n barti iddo, wedi cael eu hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
y rheolwr at ddibenion yr Erthygl honno yw'r person neu'r corff hwnnw.
(4) O ran glaniadau yng Nghymru, mae'r porthladdoedd, a phan fo hynny'n gymwys, y mannau glanio ynddynt a restrir yn nhrwydded y DU, wedi'u dynodi at ddibenion Erthygl 9 o Reoliad 811/04.
Cofnodi gwybodaeth am ddalfeydd o bysgod
6.
Mae person sydd â gofal cwch pysgota sydd â lwfans goddefiant sy'n fwy na 8% y cyfeirir ato yn Erthygl 10 o Reoliad 811/04, yn euog o dramgwydd.
Cymysgu rhywogaethau
7.
Mae person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota y caiff cegdduon gogleddol eu stowio neu eu cadw ynddo yn groes i Erthygl 11 o Reoliad 811/04, yn euog o dramgwydd.
Cludo cegdduon gogleddol
8.
Os cludir unrhyw symiau o gegdduon gogleddol yn groes i Erthygl 12(2) o Reoliad 811/04, mae perchennog neu huriwr y cerbyd a ddefnyddir i gludo'r cegdduon, a'r person sy'n gyfrifol amdano, yn euog o dramgwydd.
Cosbau ac amddiffyniad
9.
—(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthyglau 3, 4, 5, 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol yn agored—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na £50,000; a
(b) o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.
(2) Caiff y llys y collfarnir person ganddo neu ger ei fron o dramgwydd o dan erthygl 4, 5, 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, yn ddarostyngedig i baragraff (4), hefyd orchymyn fforffedu:
(a) unrhyw bysgod y cyflawnwyd y tramgwydd yn eu cylch; a
(b) ac eithrio yn achos tramgwydd o dan erthygl 8 neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, unrhyw offer pysgota a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r tramgwydd neu mewn gweithgareddau sy'n arwain at hynny.
(3) Bydd unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 4, 5, 6, 7, neu 8 o'r Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, yn ddarostyngedig i baragraff (4), hefyd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na gwerth y pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd yn eu cylch.
(4) Ni fydd person yn agored i ddirwy o dan baragraff (3) o ran tramgwydd o'r fath os bydd y llys, o dan baragraff (2), yn gorchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd yn eu cylch; os gosodir dirwy o dan baragraff (3) o ran unrhyw dramgwydd, ni fydd y pŵer gan y llys o dan baragraff (2) i orchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd yn eu cylch.
(5) Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at bysgod y cyflawnwyd tramgwydd yn eu cylch yn cynnwys pysgod a ddaliwyd ar unrhyw amser yn y cyfnod pan gyflawnwyd y tramgwydd.
Casglu dirwyon
10.
—(1) Os gosodir dirwy gan lys ynadon ar berson sydd â gofal cwch pysgota a gollfernir gan y llys o dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff y llys—
(a) dyroddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â'r tramgwydd a gafodd ei gyflawni a'i offer pysgota a'i ddalfa ac unrhyw eiddo gan y person a gollfarwnyd at godi'r swm ar gyfer y ddirwy; a
(b) gorchymyn dal gafael yn y cwch a'i offer a'i ddalfa am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis ar ôl dyddiad y collfarniad neu hyd nes y telir y ddirwy neu hyd nes y codir y swm ar gyfer y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf.
(2) Mae adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980[6] (gohirio dyroddi gwarantau atafaelu a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.
(3) Pan fydd gorchymyn, o ran dirwy ynghylch tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, o dan Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981[7] neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (yr Alban) 1995[8] (y mae'r ddwy yn ymwneud â throsglwyddo dirwyon o un awdurdodaeth i un arall) yn pennu ardal cyfiawnder lleol yng Nghymru, mae'r erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi cael eu gosod gan lys yn yr ardal cyfiawnder lleol honno.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeining mewn cysylltiad â chychod pysgota
11.
—(1) At ddibenion gorfodi erthyglau 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethau cyfatebol, neu er mwyn gweithredu neu hwyluso gweithrediad unrhyw fonitro sy'n deillio o Erthygl 13 o Reoliad 811/04, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota yng Nghymru.
(2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch neu ddod oddi arno.
(3) Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar fwrdd y cwch yn dod ger ei fron a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn angenrheidiol at y diben a grwybwyllir ym mharagraff (1) ac, yn benodol—
(a) caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol i'r personau ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, gweithrediadiadau pysgota neu weithrediadau eraill cysylltiedig neu unrhyw ddogfen ynglŷn â'r personau ar y bwrdd sydd dan ofal neu ym meddiant y person hwnnw;
(c) at ddibenion canfod a gyflawnwyd tramgwydd o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff a'i gwneud yn ofynnol i unrhwy berson ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;
(ch) caiff archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch ac, os cedwir unrhyw ddogfen o'r fath drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol ei bod yn cael ei chynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hi oddi yno; ac
(d) os yw'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm i amau bod tramgwydd wedi cael ei gyflawni ynglŷn ag ef o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff gymryd meddiant a dal gafael yn unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch at ddibenion galluogi bod y ddogfen yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn rheithdrefn ar y tramgwydd;
ond nid oes dim yn is-baragraff (d) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen, y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, gael ei chymryd i feddiant a dal gafael ynddi ac eithrio tra delir gafael yn y cwch mewn porthladd.
(4) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bod tramgwydd o dan erthygl 3, 6 neu 7, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, wedi cael ei gyflawni ar unrhyw amser ynghylch cwch pysgota, caiff y swyddog—
(a) ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch, neu ef ei hun, yn mynd â'r cwch a'r criw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef; a
(b) dal gafael, neu yn ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn dal gafael, yn y cwch yn y porthladd;
ac os bydd swyddog o'r fath yn dal gafael neu yn ei gwneud yn ofynnol y delir gafael ar y cwch bydd y swyddog yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y delir gafael ar y cwch (neu fod hynny'n ofynnol) hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig pellach a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar dir
12.
—(1) At ddibenion gorfodi erthyglau 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethu cyfatebol, neu er mwyn gweithredu neu hwyluso gweithrediad unrhyw fonitro sy'n deillio o Erthygl 13 o Reoliad 811/04, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig—
(a) mynd i unrhyw fangre a'i harchwilio ar unrhyw adeg resymol a honno'n cael ei defnyddio i redeg unrhyw fusnes mewn cysylltiad â gweithrediad cychod pysgota neu weithgareddau sy'n gysylltiedig ag ef neu'n atodol iddo neu mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod;
(b) mynd â'r personau eraill gydag ef y mae swyddog yn tybio eu bod yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau;
(c) archwilio unrhyw bysgod yn y fangre a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd yn y fangre yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;
(ch) cyflawni'r archwiliadau neu brofion eraill hynny yn y fangre a all fod yn rhesymol angenrheidiol;
(d) ei gwneud yn ofynnol nad oes neb yn symud neu'n peri symud unrhyw bysgod o'r fangre am y cyfnod hwnnw a all fod yn rhesymol angenrheidiol at ddibenion cadarnhau a gyflawnwyd tramgwydd o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol ar unrhyw adeg;
(dd) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre ddangos unrhyw ddogfennau sydd dan ei ofal neu yn ei feddiant ynglŷn â dal, glanio, cludo, trawslwytho, gwerthu neu waredu unrhyw bysgod neu ynglŷn â mynd a dod unrhyw gwch pysgota i unrhyw borthladd neu harbwr, neu ohono;
(e) at ddibenion canfod a oes unrhyw berson yn y fangre wedi cyflawni tramgwydd o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, chwilio'r fangre am unrhyw ddogfen o'r fath a'i gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;
(f) archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi yn y fangre;
(ff) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson priodol neu gyfrifol i roi unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadur ar ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol ei bod yn cael ei chynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hi oddi yno; ac
(g) os oes gan y swyddog reswm i amau bod tramgwydd o dan unrhyw o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i chyflawni, cymryd meddiant a dal gafael mewn unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi yn y fangre at ddibenion galluogi bod y ddogfen yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn rheithdrefn ar y tramgwydd;
(2) Mae darpariaethau paragraff (1) uchod hefyd yn gymwys o ran unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), neu o ran unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol i gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo pysgod neu gynhyrchion pysgodfeydd, fel y maent yn gymwys o ran mangreoedd ac, yn achos cerbyd, mae'n cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cerbyd stopio ar unrhyw adeg ac, os yw'n angenrheidiol, cyfarwyddo'r cerbyd i ryw le arall er mwyn hwyluso'r archwiliad.
(3) Os yw ynad heddwch ar sail gwybodaeth ysgrifenedig o dan lw wedi'i fodloni—
(a) bod sail resymol i gredu bod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig y pŵer o dan yr erthygl hon i'w harchwilio yn unrhyw fangre a bod eu harchwilio yn debygol o ddatgelu tystiolaeth o dramgwydd a gyflawnwyd o dan unrhyw un o'r erthyglau hynny neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol; a
(b) naill ai—
(i) bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu ei bod yn debygol y byddai'n cael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu
(ii) y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn rhwystro'r amcan o fynd i'r fangre rhag cael ei gyflawni, neu fod y fangre heb ei meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro ac y gallai rwystro'r amcan o fynd i'r fangre wrth ddisgwyl iddo ddychwelyd;
caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo, ac sy'n ddilys am fis, awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd i'r fangre, os oes angen drwy rym rhesymol, a mynd â phersonau eraill gydag ef y mae'r swyddog yn tybio eu bod yn angenrheidiol.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i gymryd meddiant o bysgod ac offer pysgota
13.
Yng Nghymru, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, o ran unrhyw gwch pysgota gymryd meddiant—
(a) o unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy'n dal y pysgod) y mae gan swyddog sail resymol i amau bod tramgwydd wedi cael ei gyflawni yn eu cylch; a
(b) o unrhyw offer pysgota y mae gan y swyddog sail resymol i amau ei fod wedi cael ei ddefnyddio wrth gyflawni, neu mewn gweithgareddau sy'n arwain at gyflawni tramgwydd,
o dan erthygl 4, 5, 6, 7 neu 8 neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol.
Diogelu swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig
14.
Nid yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig neu berson sy'n ei gynorthwyo yn rhinwedd erthygl 11(2) neu 12(1)(b) neu awdurdodiad o dan erthygl 12(3) yn atebol yn unrhyw achos sifil neu achos troseddol am unrhyw beth a wnaed wrth arfer yn honedig y pwerau a roddwyd iddo gan erthyglau 11 i 13 os yw'r llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi cael ei gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a'i bod wedi cael ei chyflawni gyda sgìl a gofal rhesymol.
Rhwystro swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig
15.
—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
(a) ym methu heb esgus rhesymol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a roddir i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig gan erthyglau 11 a 12;
(b) heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu'n ceisio rhwystro, unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofyniad o'r fath; neu
(c) yn ymosod ar berson sy'n arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo gan erthyglau 11 i 13 neu'n fwriadol yn ei lesteiro wrth iddo arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,
yn euog o dramgwydd.
(2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) uchod yn agored—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu
(b) o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.
Darpariaethau o ran tramgwyddau
16.
—(1) Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg o'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni ei fod gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan bartneriaeth gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, partner, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(3) Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 i 8 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw swyddog o'r bartneriaeth neu unrhyw aelod o'i chorff llywodraethu, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
Derbynioldeb tystiolaeth llyfrau lòg a dogfennau eraill
17.
—(1) Bydd unrhyw—
(a) llyfr lòg a gedwir o dan Erthygl 6, 17(2) neu 28c;
(b) datganiad a gyflwynir o dan Erthygl 8(1), 17(2) neu 28f;
(c) adroddiad ar ymdrech wedi'i gwblhau o dan Erthygl 19b a 19c;
(d) dogfen a luniwyd o dan Erthygl 9, 11, 12 neu 13; neu
(e) dogfen sy'n cynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol a dderbynnir gan ganolfan monitro pysgodfeydd a sefydlwyd o dan Erthygl 3(7),
o Reoliad 2847/93, mewn unrhyw weithdrefnau am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt ac felly hefyd y bydd unrhyw gofnod ychwanegol mewn llyfr lòg a wneir yn unol â'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol.
(2) At ddibenion paragraff (1), ystyr "yr wybodaeth sy'n ofynnol" yw—
(a) dynodiad cwch pysgota;
(b) safle daearyddol diweddaraf y cwch pysgota wedi'i fynegi mewn graddau a munudau hydred a lledred; ac
(c) y dyddiad a'r amser pan bennwyd y safle hwnnw,
fel a gyfathrebir drwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren ac a sefydlwyd o dan Erthygl 3(1) o Reoliad 2847/93.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi yng Nghymru ddarpariaethau monitro, arolygu a gwyliadwriaeth Rheoliad y Cyngor (EC) 811/2004 (OJ Rhif L150 30.4.2004, t.1).
Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch cofnodi a rhoi cyfrif o amser a dreulir ar y môr (erthygl 3), darpariaethau ar gyfer hysbysu gan gychod pysgota i gael mynd a glanio cegdduon gogleddol mewn porthladdoedd dynodedig (erthyglau 4 a 5), lwfans goddefiant ynghylch cofnodi dalfeydd o bysgod mewn llyfrau lòg (erthygl 6), darpariaeth ynghylch cymysgu rhywogaethau mewn cynwysyddion ar fwrdd cychod pysgota (erthygl 7) a gweithdrefnau ar gyfer cludo cegdduon gogleddol (erthygl 8).
Mae'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau o ran mynd yn groes, gan y person sydd â gofal y cwch pysgota (neu'r unigolion y cyfeirir atynt yn benodol) i ddarpariaethau'r Rheoliad. Mae'r tramgwyddau'n ymwneud â methu â chofnodi a rhoi cyfrif o amser mewn llyfr lòg (erthygl 3), methu â darparu gwybodaeth benodol a/neu ddilyn cyfarwyddiadau swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig wrth lanio mewn porthladd dynodedig (erthygl 4), methu â glanio mewn porthladd dynodedig lle mae mwy na dwy dunnell o gegdduon gogleddol i gael eu glanio (erthygl 5), methu â chydymffurfio â'r goddefiant 8% ar gyfer cofnodion llyfrau lòg ynghylch dalfeydd o bysgod (erthygl 6), a chymysgu rhywogaethau a chludo cegdduon gogleddol (erthyglau 7 a 8) mewn modd sy'n anghyson â'r Rheoliad.
Mae erthyglau 9-16 yn gwneud darpariaethau ar gyfer gorfodi. Mae'r Gorchymyn yn darparu bod person sy'n euog o dramgwydd, heblaw am dramgwydd o dan erthygl 15, yn agored ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na £50,000 ac ar gollfarn ar dditiad i ddirwy. Caniateir dirwyon pellach hyd at a chan gynnwys gwerth unrhyw bysgod a gaiff eu dal wrth gyflawni'r tramgwydd a chaiff y llys hefyd orchymyn cymryd meddiant o'r pysgod a ddaliwyd neu'r cyfarpar a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r tramgwydd neu'r gweithgareddau sy'n arwain ato (erthygl 9).
Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer casglu'r dirwyon a gaiff eu gosod, neu pan ymdrinnir â hwy fel pe baent wedi'u gosod, gan lys ynadon (erthygl 10).
At ddibenion gorfodi'r darpariaethau uchod, mae'r Gorchymyn yn gosod ar swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig y pŵer i fynd i fangre, mynd ar fwrdd cychod pysgota, stopio a chwilio cerbydau sy'n cludo pysgod, archwilio pysgod, ei gwneud yn ofynnol i ddangos dogfennau, chwilio am ddogfennau a chymryd meddiant ohonynt, cymryd cwch i'r porthladd cyfleus agosaf a chymryd meddiant o bysgod ac offer pysgota (erthyglau 11-13). Gosodir diogelwch y swyddogion hynny rhag atebolrwydd yn erthygl 14, ac mae eu rhwystro yn dramgwydd o dan erthygl 15, gyda dirwy hyd at y mwyafswm statudol ar gollfarn ddiannod a dirwy ar gollfarn ar dditiad. Mae erthyglau 16 a 17 yn ymdrin â thramgwyddau corfforaethol a thramgwyddau cyfatebol a derbynioldeb dogfennau mewn tystiolaeth.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Atodiadau i'r Gorchymyn hwn a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth y Gangen Pysgodfeydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1981 p.29. Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[2]
1998 p.38.back
[3]
OJ Rhif L276, 10.10.1983, t.1; yr offeryn diwygio diwethaf yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1804/2005 (OJ Rhif L290, 4.11.2005, t.10).back
[4]
OJ Rhif L261, 20.10.1993, t.1; yr offeryn diwygio diwethaf yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 768/2005 (OJ Rhif L128, 21.5.2005, t.1)back
[5]
OJ Rhif L150, 30.4.2004, t.1; corigendwm: L185, 27.5.2004, t.1.back
[6]
1980 p. 43. Diwygiwyd adran 78 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48), adrannau 37 a 46, a Deddf y Llysoedd 2003 (p.39), adran 109(1) ac Atodlen 8 paragraff 219(a).back
[7]
O.S. 1981/1675 (GI 26).back
[8]
1995 p.46.back
[9]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11 091381 7
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
13 July 2006
|