British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 1795 (Cy.190)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061795w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1795 (Cy.190)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
5 Gorffennaf 2006 | |
|
Yn dod i rym |
7 Gorffennaf 2006 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("
the Principal Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997[
3].
2.
I'r graddau nad yw'r diwygiadau a wneir i'r Prif Reoliadau gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006[
4] yn gymwys o ran Cymru[
5]mae'r diwygiadau hynny drwy hyn yn cael eu cymhwyso o ran Cymru yn ddarostyngedig i ddiwygiadau pellach a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Diwygio'r Rheoliadau
3.
Mae'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
4.
Yn rheoliad 2(1A), hepgorer y geiriau "in relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only".
5.
Yn rheoliad 2(1B), hepgorer y geiriau "in relation to England and in relation to Wales for the purposes of its application to regulation 4 only".
6.
Hepgorer rheoliad 2(4).
7.
Yn rheoliad 2(4B) hepgorer y geiriau "In relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only,".
8.
Hepgorer rheoliad 2(5).
9.
Yn rheoliad 2(5B), hepgorer y geiriau "In relation to England".
10.
Hepgorer rheoliad 2(6).
11.
Ym mhennawd rheoliad 6A ac yn rheoliad 6A(1) a (2), hepgorer y geiriau "In relation to England" .
12.
Hepgorer rheoliad 8(2).
13.
Yn yr Atodlen—
(a) hepgorer paragraffau 1(1), 5(1), 6(1), 7, 8 a 9; a
(b) ym mharagraffau 1(2), 1(4), 5(2) a 6(2) hepgorer y geiriau "In relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only,".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997 ("Rheoliadau 1997") o ran Cymru. Gwnaed Rheoliadau 1997 o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983. Datganolwyd y pwerau o dan adran 2 (sy'n ymwneud â dyfarniadau yn ôl disgresiwn) i'r Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru yn 1999 (pan gafodd y Cynulliad ei swyddogaethau cyntaf). Ond ni throsglwyddwyd y pwerau o dan adran 1 (sy'n ymwneud â chodi ffioedd mewn sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch), nes Fehefin 2006.
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu, mewn achosion penodol, ei bod yn gyfreithlon i wahaniaethu rhwng y personau a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hynny a'r personau na chyfeirir atynt yn yr Atodlen mewn cysylltiad â chodi ffioedd a gwneud dyfarniadau. Yn rhinwedd adran 26 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch 2004, nid yw unrhyw amod a osodir i gyfyngu ar symiau ffioedd dysgu o dan y Deddfau hynny yn berthnasol i unrhyw ffioedd sy'n daladwy gan fyfyrwyr ar wahân i'r rhai sy'n disgyn o fewn y dosbarth rhagnodedig o bersonau sydd â chysylltiad penodol â'r Deyrnas Unedig o dan reoliadau a wneir o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983. Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau (fel y'i diwygiwyd) yn amlinellu'r dosbarth o bersonau sydd â'r cysylltiad penodol hwnnw gyda'r Deyrnas Unedig.
Mae Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 (OJ L158, 30.04.2004, t77-123) yn ymwneud â hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd o fewn tirogaeth yr aelod-wladwriaethau. Bydd rhai categoriau o bersonau nad oedd ganddynt yr hawl yn flaenorol i gael eu trin yn gyfartal â dinasyddion y Deyrnas Unedig o ran ffioedd dysgu a chymorth cynnal bellach yn gymwys o ganlyniad i'r Gyfarwyddeb.
Cafodd y newidiadau yr oedd eu hangen er mwyn rhoi effaith lawn i'r Gyfarwyddeb mewn perthynas â ffioedd dysgu a dyfarniadau yn ôl disgresiwn eu gweithredu gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006 a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau. I Gymru y mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hynny yn gymwys i'r graddau y maent yn ymwneud â ffioedd dysgu (nas datganolwyd hyd nes Fehefin 2006). O'u cymhwyso i ddyfarniadau yn ôl disgresiwn (pan fo'r pŵer i wneud rheoliadau eisoes wedi'i ddatganoli), dim ond i Loegr y mae'r newidiadau yn gymwys. Effaith y Rheoliadau presennol yw gwneud y newidiadau diweddarach hynny'n gymwys i Gymru.
Notes:
[1]
1983 p.40; gwnaed diwygiadau perthnasol gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 57 a chan Ddeddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen 14, paragraff 9. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1983 (ac eithrio'r rhai o dan adran 1), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 i fod yn effeithiol o 1 Gorffennaf 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 1 i'r Cynulliad a hynny'n effeithiol o 8 Mehefin 2006: O.S. 2006/1458.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1997/1972 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1965, O.S. 1999/229, O.S. 2000/2192, O.S. 2003/2945, O.S. 2003/3280, O.S. 2005/2114 ac O.S 2006/453.back
[4]
O.S. 2006/453.back
[5]
Gwnaed y Rheoliadau hynny o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2 wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol (gweler troednodyn (1) ar dudalen 1), ac felly, nid yw'r diwygiadau a wnaed gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006 o dan yr adran honno yn gymwys o ran Cymru.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091383 3
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
13 July 2006
|