British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 Rhif 1789 (Cy.185)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061789w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1789 (Cy.185)
CAFFAEL TIR, CYMRU
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
4 Gorffennaf 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 1973[
1] ("y Ddeddf") ac sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru[
2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Medi 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau diwygiedig y taliad colli cartref
2.
Pan fo'r dyddiad dadleoli'n disgyn ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl—
(a) £40,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf;
(b) £4,000 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf; ac
(c) £4,000 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o'r Ddeddf.
Dirymu ac arbed
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2005[3].
(2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 ("y Ddeddf") i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.
Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o'r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 1991.
Mewn achosion pan fo gan berson sy'n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny'n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.
Mae adran 30(2) yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Mae Rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £38,000 i £40,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu'r isafswm o £3,800 i £4,000. Mae Rheoliad 2(c) yn cynyddu'r taliad colli cartref sy'n daladwy, o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £3,800 i £4,000.
Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref a newidir ac nid oes unrhyw newid yn y ganran sy'n daladwy o werth ar y farchnad fuddiant yn yr annedd y person a ddadleolir.
Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo'r dadleoli'n digwydd ar 1 Medi 2006 neu wedi hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2005 yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny fe'u dirymir.
Notes:
[1]
1973 p.26; amnewidiwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 p.34 yn effeithiol o 25 Medi 1991 ymlaen (gweler O.S. 1991/ 2067, erthygl 3).back
[2]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.back
[3]
O.S. 2005/1808 (Cy.139).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091378 7
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
12 July 2006
|