British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 1749 (Cy.181)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061749w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1749 (Cy.181)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
4 Gorffennaf 2006 | |
|
Yn dod i rym |
5 Gorffennaf 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi[
1].
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Rheoliadau Optegol" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[
2].
Diwygiadau i'r Rheoliadau Optegol
2.
Yn rheoliad 19 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle "£48.00" rhodder "£49.20"; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£12.40" rhodder "£12.70".
Diwygiadau i'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol
3.
—(1) Yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Optegol (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth tabl ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir ar ei gyfer yng ngholofn (2) o'r tabl isod yn ei le.
(1)
|
(2)
|
Swm blaenorol
|
Swm newydd
|
£32.90 |
£33.70 |
£50.00 |
£51.20 |
£73.10 |
£74.90 |
£165.00 |
£169.10 |
£56.80 |
£58.20 |
£72.20 |
£74.00 |
£93.60 |
£95.90 |
£181.40 |
£185.90 |
£169.00 |
£173.20 |
£48.00 |
£49.20 |
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Optegol (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bychain ac arbennig a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff (1)(1)(a), yn lle "£10.70" rhodder "£11.00".
(b) ym mharagraff (1)(1)(b), yn lle "£12.80" rhodder "£13.10";
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle "£3.60" rhodder "£3.70".
(ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle "£4.10" rhodder "£4.20";
(d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle "£54.10", "£48.00" a "£26.00" rhodder "£55.50", "£49.20" a "£26.60" yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff (1)(1)(g), yn lle "£54.10" rhodder "£55.50";
(e) ym mharagraff (2)(a), yn lle "£12.40" rhodder "£12.70"; ac
(f) ym mharagraff (2)(b), yn lle "£31.30" rhodder "£32.10".
(3) Yn lle Atodlen 3 i'r Rheoliadau Optegol (gwerth talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 newydd a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth Drosiannol
4.
Dim ond o ran taleb a gafodd ei derbyn neu ei defnyddio yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar 5 Gorffennaf 2006 neu ar ôl hynny y bydd y symiau newydd a fewnosodir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2006
ATODLEN 3Rheoliad (3)(3)
Atodlen 3 i'r Rheoliadau Optegol fel y'i hamnewidir gan y Rheoliadau hyn
"
SCHEDULE 3Regulation 19(2) and (3)
VOUCHER VALUES REPAIR
(1)
|
(2)
|
Nature of Repair
|
Letter of Codes-Values
|
|
A
|
B
|
C
|
D
|
E
|
F
|
G
|
H
|
I
|
|
£
|
£
|
£
|
£
|
£
|
£
|
£
|
£
|
£
|
Repair or replacement of one lens |
10.50 |
19.25 |
31.10 |
78.20 |
22.75 |
30.65 |
41.60 |
86.60 |
80.25 |
Repair or replacement of two lenses |
21.00 |
38.50 |
62.20 |
156.40 |
45.50 |
61.30 |
83.20 |
173.20 |
160.50 |
Repair or replacement of: |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
The front of a frame |
10.75 |
10.75 |
10.75 |
10.75 |
10.75 |
10.75 |
10.75 |
10.75 |
10.75 |
A side of a frame |
6.40 |
6.40 |
6.40 |
6.40 |
6.40 |
6.40 |
6.40 |
6.40 |
6.40 |
The whole frame |
12.70 |
12.70 |
12.70 |
12.70 |
12.70 |
12.70 |
12.70 |
12.70 |
12.70" |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y Rheoliadau Optegol") sy'n darparu ar gyfer gwneud taliadau drwy gyfrwng system dalebau o ran costau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 19 i gynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at gost ailosod un lens gyffwrdd ac i gynyddu uchafswm y cyfraniad drwy daleb tuag at gost trwsio ffrâm.
Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.5% yw graddfa'r cynnydd yn y talebau yn y Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod cost ar fusnes.
Notes:
[1]
1977 p.49.back
[2]
O.S. 1997/818, fel y'i ddiwygiwyd.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091379 5
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
12 July 2006
|