British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 Rhif 1701 (Cy.163)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061701w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1701 (Cy.163)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
27 Mehefin 2006 | |
|
Yn dod i rym |
30 Mehefin 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(1), (4) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[
1], gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "gwasanaeth cyn-allforio" ("pre-export service") yw unrhyw arolygiad neu archwiliad iechyd planhigion, gan gynnwys cymryd samplau, y mae'n ofynnol eu cyflawni er mwyn bodloni gofynion ffytoiechydol trydedd wlad, heblaw unrhyw wasanaeth o'r fath sy'n ofynnol ar gyfer dyroddi tystysgrif o dan y Gorchymyn hwn;
ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer" ) yw—
(a) person a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006[2] neu
(b) unrhyw swyddog arall o'r Cynulliad Cenedlaethol;
mae i "trydedd wlad" yr un ystyr yn Gorchymyn hwn ag sydd i "third country" yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993[3];
ystyr "tystysgrif" ("certificate"), o ran cais a gaiff ei wneud yn unol â'r Gorchymyn hwn, yw naill ai tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, yn ôl y digwydd;
ystyr "tystysgrif ffytoiechydol" ("phytosanitary certificate") yw tystysgrif a gafodd ei chwblhau'n briodol yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1 neu mewn ffurf debyg arall y gellir cytuno arni rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r drydedd wlad y bwriedir i'r dystysgrif fodloni ei gofynion ffytoiechydol; ac
ystyr "tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio" ("phytosanitary certificate for re-export") yw tystysgrif a gafodd ei chwblhau'n briodol yn y ffurf a bennir yn Atodlen 2 neu mewn ffurf debyg arall y gellir cytuno arni rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r drydedd wlad y bwriedir i'r dystysgrif fodloni ei gofynion ffytoiechydol.
(2) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran unrhyw dystysgrif neu wasanaeth a ddarperir gan neu ar ran y Comisiynwyr Coedwigaeth.
Tystysgrifau ar gyfer allforio planhigion etc. i drydydd gwledydd
3.
—(1) Caiff person sy'n bwriadu allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydedd wlad wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am dystysgrif o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cais a wnaed o dan baragraff (1), rhaid i swyddog awdurdodedig:—
(a) cyflawni unrhyw rai o'r gwasanaethau a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 y mae o'r farn eu bod yn caniatáu iddo ddyroddi'r dystysgrif; a
(b) os yw wedi'i fodloni y dylid dyroddi tystysgrif, dyroddi'r dystysgrif ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Caiff swyddog awdurdodedig awdurdodi unrhyw berson yn ysgrifenedig i arolygu gronynnau pan fo arolygiad o'r fath yn ofynnol i alluogi'r swyddog hwnnw i ddyroddi'r dystysgrif.
Gwasanaethau cyn-allforio
4.
—(1) Caiff person sy'n bwriadu allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydedd wlad neu drydydd gwledydd wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am wasanaeth cyn-allforio o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cais a wnaed o dan baragraff (1), rhaid i swyddog awdurdodedig—
(a) cyflawni unrhyw rai o'r gwasanaethau cyn-allforio y mae'r swyddog awdurdodedig o'r farn eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a gafodd gofynion mewnforio'r wlad neu'r gwledydd ar gyfer allforio a bennir yn y cais eu bodloni; a
(b) rhoi i'r ceisydd ganlyniadau unrhyw arolygiad neu archwiliad a gynhaliwyd.
Ffioedd am ddyroddi tystysgrifau a darparu gwasanaethau
5.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid talu i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) o ran y gwasanaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn gyntaf Atodlen 3, y ffi a bennir gyferbyn yn ail golofn yr Atodlen honno; a
(b) o ran gwasanaeth cyn-allforio, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 4.
(2) Rhaid i allforiwr bach dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr "allforiwr bach" ("small exporter") yw person, yn y flwyddyn ariannol pan wneir y cais—
(a) nad yw'n berson trethadwy at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994[4]; neu
(b) nad yw'n cyflenwi'n drethadwy blanhigion, cynhyrchion planhigion, hadau, pridd neu beiriannau amaethyddol at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994; neu
(c) na wnaeth allforio yn y flwyddyn ariannol flaenorol nwyddau a thystysgrif gyda hwy yr oedd cyfanswm eu gwerth yn £5,000 neu fwy.
Tramgwyddau
6.
—(1) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person, at ddibenion peri bod tystygrif yn cael ei dyroddi o dan y Gorchymyn hwn—
(a) yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn anwir mewn manylyn perthnasol;
(b) yn ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n anwir mewn manylyn perthnasol; neu
(c) yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.
(2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006
ATODLEN 1Erthygl 2
FFURF AR DYSTYSGRIF FFYTOIECHYDOL
ATODLEN 2Erthygl 2
FFURF AR DYSTYSGRIF FFYTOIECHYDOL AR GYFER AILALLFORIO
ATODLEN 3Erthyglau 3 a 5
Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau
|
Ffi
|
Ffi(allforiwr bach)
|
(1) Gwasanaethau am lwythi heblaw gronynnau:
|
Arolygiad a, phan fo angen, archwiliad mewn labordy |
£20.25 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £40.50 |
£10.13 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £20.25 |
Archwiliad mewn labordy yn unig |
£20.00 |
£10.00 |
Dyroddi tystysgrif pan nad oes angen arolygiad neu archwiliad mewn labordy |
£5.00 |
£2.50 |
(2) Gwasanaethau ar gyfer llwythi o ronynnau:
|
Monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3), a phan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig |
£45.00 |
£22.50 |
ATODLEN 4Erthygl 5
Gwasanaeth
|
Ffi
|
Ffi (allforiwr bach)
|
Gwasanaeth cyn-allforio |
£20.25 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £40.50 |
£10.13 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £20.25 |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2006. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth i ddyroddi tystysgrifau ffytoiechydol a thystysgrifau ffytoiechydol ailanfon ar gyfer allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydydd gwledydd i fodloni gofynion rheoliadau ffytoiechydol y gwledydd hynny.
Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am ddyroddi tystysgrifau ffytoiechydol a thystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio.
Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am wasanaethau cyn-allforio a chyflawni'r gwasanaethau hynny gan swyddogion awdurdodedig.
Mae erthygl 5 ac Atodlenni 3 a 4 yn rhagnodi'r ffioedd sy'n daladwy gan geiswyr tystysgrifau ffytoiechydol, tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a thalu ffioedd am wasanaethau cyn-allforio.
Mae erthygl 6 yn darparu ei bod yn dramgwydd i wneud datganiad anwir gan wybod hynny neu gan fod yn ddi-hid o hynny neu yn fwriadol i fethu â datgelu gwybodaeth berthnasol er mwyn peri bod tystysgrif yn cael ei dyroddi.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi cael ei baratoi o ran Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48). O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac, o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[2]
O.S. [ ].back
[3]
O.S. 1993/1320.back
[4]
1994 p.23.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091365 5
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
6 July 2006
|