British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006 Rhif 1642 (Cy.157)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061642w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1642 (Cy.157)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
20 Mehefin 2006 | |
|
Yn dod i rym |
23 Mehefin 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraffau 1 a 11 o Atodlen 13 i Ddeddf Tai 2004[
1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Mehefin 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Tai 2004;
ystyr "Deddf 1985" ("the 1985 Act") yw Deddf Tai 1985[2];
ystyr "tribiwnlys" ("tribunal") yw tribiwnlys eiddo preswyl.
Cymhwyso
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran apeliadau a cheisiadau o unrhyw un o'r mathau a bennir yn rheoliad 3 sy'n cael eu gwneud ar ôl 23 Mehefin 2006 sy'n ymwneud â mangreoedd yng Nghymru.
Ffioedd
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(2), mae ffi o £150 yn daladwy am-
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 5(2), mae ffi o £150 i'w thalu am apêl i dribiwnlys o dan un neu fwy o'r darpariaethau a ganlyn–
(a) adran 62(7) o'r Ddeddf (trwyddedu HMO: gwrthod cyflwyno hysbysiad esemptiad dros dro);
(b) adran 86(7) o'r Ddeddf (trwyddedu dethol: gwrthod cyflwyno hysbysiad esemptiad dros dro);
(c) paragraff 31 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (rhoi neu wrthod trwydded);
(ch) paragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (gorchymyn rheoli dros dro a gorchymyn rheoli terfynol);
(d) paragraff 28 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (penderfyniad i amrywio neu i ddirymu gorchymyn rheoli neu benderfyniad i wrthod gwneud hynny).
(3) Nid oes ffi i'w thalu os yw apêl o dan is-baragraff (1)(b) o baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn cael ei gwneud ar y seiliau a osodir yn is-baragraff (3) o'r paragraff hwnnw.
Talu ffioedd
4.
Mae'n rhaid i unrhyw ffi sydd i'w thalu o dan reoliad 3 fynd gyda'r apêl neu'r cais a rhaid ei thalu â siec sy'n daladwy i, neu â gorchymyn post wedi ei dynnu o blaid Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Rhwymedigaeth i dalu ffi a gosod ffioedd o'r neilltu
5.
—(1) Mae'r apelydd neu'r ceisydd yn atebol i dalu unrhyw ffi sydd i'w thalu o dan reoliad 3.
(2) Nid oes ffi i'w thalu o dan reoliad 3 os, ar y dyddiad y gwneir yr apêl neu'r cais, yw'r apelydd neu'r ceisydd (yn ôl y digwydd) neu bartner yr apelydd neu'r ceisydd yn derbyn–
(a) unrhyw un o'r budd-daliadau a ganlyn o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[3]–
(i) cymhorthdal incwm; neu
(ii) budd-dal tai;
(b) lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995[4];
(c) credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002[5]y mae paragraff (3) yn gymwys iddo;
(ch) credyd gwarant o dan Ddeddf Credyd Pensiynau'r Wladwriaeth 2002[6].
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os-
(a) naill ai–
(i) oes elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol (neu'r ddau)[7]i'r credyd treth y mae'r person neu bartner y person yn ei gael; neu
(ii) yw'r person neu bartner y person hefyd yn cael credyd treth plant [8]; a
(b) yw'r incwm blynyddol gros a gymerir i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo'r credyd treth gwaith yn £14, 213 neu lai.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr "partner" ("partner") o ran person, yw–
(a) os yw'r person yn aelod o gwpwl, yr aelod arall o'r cwpwl hwnnw; neu
(b) os yw'r person yn briod ar yr un pryd â dau neu fwy o aelodau o aelwyd y person hwnnw, unrhyw aelod o'r fath.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr "cwpwl" ("couple") yw–
(a) dyn a dynes sy'n briod â'i gilydd ac sy'n aelodau o'r un aelwyd;
(b) dyn a dynes nad ydynt yn briod â'i gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd fel gŵ r a gwraig;
(c) dau o bobl o'r un rhyw sy'n bartneriaid sifil i'w gilydd ac sy'n aelodau o'r un aelwyd; neu
(ch) dau o bobl o'r un rhyw nad ydynt yn bartneriaid sifil i'w gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd megis petaent yn bartneriaid sifil,
ac at ddibenion is-baragraff (ch), rhaid ystyried bod dau o bobl o'r un rhyw yn byw gyda'i gilydd megis petaent yn bartneriaid sifil os, ond yn unig os, byddid yn ystyried eu bod yn byw gyda'i gilydd fel gŵ r a gwraig petaent yn hytrach yn ddau o bobl o wahanol ryw.
Ad-dalu ffioedd
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), o ran unrhyw apêl neu gais y mae ffi i'w thalu ar ei gyfer o dan reoliad 3, caiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti i'r apêl neu'r cais ad-dalu i unrhyw barti arall y cyfan neu ran o unrhyw ffi a dalwyd gan y parti hwnnw o ran yr apêl neu'r cais.
(2) Ni chaiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i barti wneud ad-daliad o'r fath os yw'r tribiwnlys, pan fo'n ystyried p'un ai i wneud hynny ai peidio, wedi'i fodloni fod y parti neu bartner y parti yn cael cymorth o unrhyw fath a grybwyllir yn rheoliad 5(2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Deddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mehefin 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn perthynas ag apeliadau a cheisiadau i dribiwnlysoedd eiddo preswyl. Maent yn gymwys o ran apeliadau a cheisiadau o unrhyw un o'r mathau a bennir yn rheoliad 3 sy'n cael eu gwneud ar ôl 23 Mehefin 2006 o ran mangreoedd yng Nghymru.
Mae Rheoliadau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £150 pan wneir apêl neu gais i dribiwnlys yn ymwneud â–
pan fo awdurdod tai lleol yn gwrthod cymeradwyo defnydd o fangre os oes gorchymyn gwahardd o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 2004 ("y Deddf") yn ei le mewn perthynas â'r fangre honno;
pan fo awdurdod tai lleol yn gwrthod rhoi hysbysiad esemptiad dros dro mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth sy'n ddarostyngedig i drwyddedu gorfodol o dan Ran 2 o'r Ddeddf;
pan fo awdurdod tai lleol yn gwrthod rhoi hysbysiad esemptiad dros dro mewn perthynas â mangre sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol o dan Ran 3 o'r Ddeddf;
pan fo awdurdod tai lleol yn gwneud, neu'n gwrthod dirymu neu amrywio, hysbysiad gwella o dan Ran 1 o'r Ddeddf;
pan fo awdurdod tai lleol yn gwneud, neu'n gwrthod dirymu neu amrywio, hysbysiad gwahardd o dan Ran 1 o'r Ddeddf;
lefel y treuliau a hawlir gan awdurdod tai lleol sy'n ymwneud â gwaith a wnaed ganddo pan na chafwyd cydymffurfiaeth â hysbysiad gwella;
pan fo awdurdod tai lleol wedi rhoi neu wedi gwrthod rhoi trwydded o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf a phan fo wedi penderfynu dirymu neu amrywio trwydded o'r fath (neu wedi penderfynu gwrthod gwneud hynny);
pan fo awdurdod tai lleol wedi rhoi gorchymyn rheoli dros dro neu derfynol o dan Ran 4 o'r Ddeddf, neu delerau'r gorchymyn hwnnw, a'i benderfyniad i ddirymu neu i amrywio gorchymyn o'r fath (neu ei benderfyniad i wrthod gwneud hynny);
pan fo awdurdod tai lleol wedi rhoi gorchymyn terfynol rheoli tŷ gwag o dan Ran 4 o'r Ddeddf, neu delerau'r gorchymyn hwnnw, a'i benderfyniad i ddirymu neu i amrywio gorchymyn o'r fath (neu ei benderfyniad i wrthod gwneud hynny);
iawndal taladwy i drydydd parti pan fo gorchymyn rheoli yn cael ei wneud o dan Ran 4 o'r Ddeddf;
rhoi gorchymyn dymchwel o dan Ran 9 o Ddeddf Tai 1985;
cais i wneud gwaith i fangre nad yw'n ffit o dan Ran 9 o Ddeddf Tai 1985.
Nid oes ffi i'w thalu os yw seiliau apêl yn erbyn gorchymyn rheoli yn cynnwys methiant i ddelio â thaliad sy'n delio â materion penodedig, er enghraifft, taliad o renti dros ben.
Mae Rheoliad 5 yn darparu y bydd yr apelydd neu'r ceisydd dan rwymedigaeth i dalu'r ffi ac yn darparu ar gyfer gosod y ffi o'r neilltu os yw'r apelydd neu'r ceisydd neu bartner yr apelydd neu'r ceisydd yn derbyn budd-dâl penodedig.
Mae Rheoliad 6 yn gosod yr amgylchiadau pan gaiff y tribiwnlys orchymyn i un parti i apêl neu gais ad-dalu unrhyw ffioedd a dducpwyd o dan reoliad 3 gan barti arall.
Mae arfarniad rheoliadol wedi cael ei wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Uned y Sector Breifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111; e-bost HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk).
Notes:
[1]
2004 p.34. Mae'r pwerau a roddwyd gan baragraffau 1 a 11 o Atodlen 13 i'r Ddeddf yn arferadwy o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" ("yr awdurdod cenedlaethol priodol") yn adran 261(1) o'r Ddeddf.back
[2]
1985 p.68.back
[3]
1992 p.4; diwygiwyd gan Ddeddf Credydau Treth 2002 (p.21), adrannau 60 ac Atodlen 6. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[4]
1995 p.18; diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynwyr a Diwygio Lles 1999 (p. 30), adrannau 59 ac 88 ac Atodlenni 7 a 13.back
[5]
2002 p.21.back
[6]
2002 p.16.back
[7]
Gweler adran 11(3), (4) a (6) o Ddeddf Credydau Treth 2002.back
[8]
Gweler adran 8 o Deddf Credydau Treth 2002.back
[9]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091360 4
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
30 June 2006
|