Wedi'i wneud | 13 Mehefin 2006 |
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
2.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn—
Darpariaethau trosiannol ac arbedion
3.
Bydd yr Atodlen yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion mewn cysylltiad â dyfodiad i rym y darpariaethau a grybwyllir yn erthygl 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[17].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mehefin 2006
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2007, ni fydd diddymu adrannau 189 i 208, 345, 398, 604 a 604A o Ddeddf 1985, ac Atodlen 10 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(4) Pan fo—
rhaid i'r awdurdod tai lleol gymryd y dyfarniad i ystyriaeth os bydd wedyn yn ystyried cymryd camau o'r math a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r fangre o dan sylw.
(5) Bydd hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn peidio â bod yn effeithiol ar 16 Mehefin 2007 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r hysbysiad cyn y dyddiad hwnnw.
(6) Ni fydd diddymu adran 191(3A)(b) o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn a wnaed gan lys o dan y paragraff hwnnw cyn y dyddiad hwnnw.
(7) Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 4(2) o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 (sy'n diwygio Deddf Iawndal Tir 1973) yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
Gorchmynion cau
2.
—(1) Bydd gorchymyn cau a wnaed o dan adran 264 neu 368(4) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n orchymyn y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i orchymyn cau—
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd y canlynol yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo—
(4) Pan fo—
rhaid i'r awdurdod tai lleol gymryd y dyfarniad i ystyriaeth os bydd wedyn yn ystyried cymryd camau o'r math a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r fangre o dan sylw.
(5) Bydd gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn peidio â bod yn effeithiol ar 16 Mehefin 2008 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r gorchymyn cyn y dyddiad hwnnw.
(6) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan—
yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
Gorchmynion dymchwel
3.
—(1) Bydd gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 neu 279 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n orchymyn y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i orchymyn dymchwel—
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd y canlynol yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo—
(4) Pan fo—
rhaid i'r awdurdod tai lleol gymryd y dyfarniad i ystyriaeth os byddant wedyn yn ystyried cymryd camau o fath a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 Act ynglŷn â'r fangre o dan sylw.
(5) Yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (3)—
(6) Bydd gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn peidio â bod yn effeithiol ar 16 Mehefin 2008 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r gorchymyn cyn y dyddiad hwnnw.
(7) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan—
yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
Gorchmynion adeilad rhwystrol
4.
Bydd gorchymyn adeilad rhwystrol a gyflwynwyd o dan adran 284 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r gorchymyn cyn y dyddiad hwnnw.
Ardaloedd clirio
5.
—(1) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 47 o Ddeddf 2004, a pharagraffau 19, 22, 26 a 27 o Atodlen 15 iddi, yn effeithiol mewn perthynas ag ardal y datganwyd ei bod yn ardal glirio o dan adran 289(3)(b) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol, cyn y dyddiad cychwyn—
(3) Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys—
Prynu tai sy'n agored i gael eu dymchwel neu eu cau
6.
—(1) Bydd hysbysiad o benderfyniad i brynu mangre a gyflwynwyd o dan adran 300(2)(a) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n hysbysiad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i hysbysiad o benderfyniad—
(3) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 48(2) o Ddeddf 2004, a pharagraffau 13, 14, 20, 21, 26 a 27 o Atodlen 15 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad o benderfyniad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
Cynigion perchennog ar gyfer ailddatblygu
7.
—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynigion a gyflwynwyd i awdurdod tai lleol o dan is-adran (1) o adran 308 o Ddeddf 1985 (cymeradwyo cynigion perchennog ar gyfer ailddatblygu) cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Pan na fydd hysbysiad o dan is-adran (2) o'r adran honno wedi'i roi cyn y dyddiad hwnnw, bydd yr awdurdod yn peidio â bod yn ddarostyngedig i ofynion yr is-adran honno ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), bydd unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan yr is-adran honno cyn y dyddiad hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad ag ef cyn y dyddiad hwnnw.
(4) Os bydd yr awdurdod, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn ystyried cymryd camau o fath a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r fangre y mae'r hysbysiad hwnnw'n ymwneud â hi, rhaid i'r awdurdod, pan fydd yn gwneud ei benderfyniad, gymryd i ystyriaeth yr hysbysiad ac i ba raddau y bwriwyd ymlaen â'r ailddatblygu yn unol â'r cynigion ac o fewn y terfynau amser a bennwyd yn yr hysbysiad (yn ddarostyngedig i unrhyw amrywiad neu estyniad a gymeradwywyd gan yr awdurdod cyn y dyddiad hwnnw).
Cynigion perchennog ar gyfer gwella neu newid
8.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd unrhyw gynigion a gyflwynwyd gan berchennog, neu dystysgrif a ddyroddwyd gan awdurdod tai lleol, o dan adran 310 o Ddeddf 1985 (gwelliannau neu newidiadau gan berchennog) cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â hwy cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Ni fydd diddymu adran 311(2) o Ddeddf 1985 (cynigion sydd i'w trin fel gwrthwynebiad i orchymyn prynu gorfodol) yn effeithiol mewn perthynas â chynigion—
cyn y dyddiad cychwyn.
Awdurdodiad gan lys i gyflawni gwaith ar fangre anffit etc.
9.
Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 48(5) o Ddeddf 2004, a pharagraffau 25 i 27 o Atodlen 15 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â chais a wnaed i'r llys o dan adran 318 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.
Hysbysiadau gohirio gweithredu etc.
10.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), bydd unrhyw hysbysiad gohirio gweithredu a gyflwynwyd o dan adran 81 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("Deddf 1996") cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r hysbysiad cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Ni fydd diddymu adran 86 o Ddeddf 1996 (anffitrwydd i breswyliad dynol etc: pŵer i wella gweithdrefnau gorfodi) yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw apêl a ddygir o dan adran 191 (hysbysiadau trwsio) neu 269 (gorchmynion cau a gorchmynion dymchwel) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.
(3) Ni fydd diddymu adrannau 87 (anffitrwydd i breswyliad dynol etc: pŵer i godi tâl am gamau gorfodi) ac 88 (adennill tâl am gamau gorfodi) yn effeithiol mewn perthynas â'r canlynol—
(b) ystyr "HMO rhagnodedig" yw HMO[19] sy'n dod o dan y disgrifiad a ragnodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn Gorchymyn a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 2004; ac
(c) ystyr "cynllun perthnasol" yw cynllun cofrestru a wnaed o dan adran 346 o Ddeddf 1985 sy'n cynnwys unrhyw un o'r darpariaethau rheoli neu'r darpariaethau rheoli arbennig a ddisgrifir yn adran 347, 348, 348A, 348B, 348C, 348D, 348E neu 348F o'r Ddeddf honno.
(2) Ni fydd diddymu adrannau 345, 398, 399 a 400 o Ddeddf 1985 (sy'n rhoi ystyron ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 11 o Ddeddf 1985) yn effeithiol i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n berthnasol i ddehongli unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon sy'n cyfeirio at Ran 11 o'r Ddeddf honno neu unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan 11 honno.
Cynlluniau Cofrestru
2.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(5) o Ddeddf 2004 yn dod i rym, ni fydd diddymu adrannau 346, 346A, 346B, 347, 348, 348A i 348G, 350, 351 a 395 i 397 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw gynllun cofrestru sydd—
i'r graddau y mae'r cynllun hwnnw'n gymwys i floc fflatiau perthnasol sydd wedi'i addasu.
(2) Ni chaniateir i unrhyw gynllun cofrestru newydd gael ei wneud o dan adran 346(1) ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn.
(3) Er gwaethaf diddymu adrannau 346 a 347 o Ddeddf 1985, caiff awdurdod tai lleol ddefnyddio'r wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gofrestr y mae wedi'i llunio a'i chynnal o dan adran 346—
Ardaloedd y bernir eu bod wedi'u dynodi o dan adran 56 o Ddeddf 2004
3.
—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw ardal y mae awdurdod tai lleol wedi gwneud cynllun perthnasol ar ei chyfer.
(2) Ar y dyddiad cychwyn bernir bod awdurdod tai lleol wedi dynodi, o dan adran 56(1) o Ddeddf 2004, bob ardal y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddi yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu ychwanegol mewn perthynas â'r HMOs a gofrestrwyd o dan gynllun o'r fath.
(3) Mae dynodiad y bernir ei fod wedi'i wneud o dan is-baragraff (2) yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn.
(4) Nid yw gofynion adrannau 56(2) i (6), 57, 58 a 59(1) a (2) o Ddeddf 2004 yn gymwys o ran dynodiadau y bernir eu bod wedi'u gwneud o dan is-baragraff (2).
(5) Mae is-baragraffau (6), (7) ac (8) yn gymwys i ddynodiad y bernir ei fod wedi'i wneud o dan is-baragraff (2).
(6) O fewn y cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn, rhaid i'r awdurdod tai lleol gyhoeddi hysbysiad sy'n datgan pa ardaloedd yn ei ddosbarth sy'n ardaloedd dynodedig o ganlyniad i gael eu hystyried yn ardaloedd dynodedig o dan is-baragraff (2) yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (7).
(7) Rhaid i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi'n unol â rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 59 a 60 o Ddeddf 2004
(8) Mae adran 60 o Ddeddf 2004 (hyd y dynodiad, adolygu'r dynodiad a'i ddirymu) yn gymwys i ddynodiad y bernir ei fod wedi'i wneud o dan is-adran (2) ac, at ddibenion is-adran (2) o'r adran honno, bernir bod yr awdurdod tai lleol wedi pennu 16 Mehefin 2009 fel yr amser y mae'r dynodiad hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol.
HMOs a gofrestrir o dan gynlluniau perthnasol penodol: trefniadau trosiannol ynghylch cyflwyno trwyddedau
4.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae'r paragraff hwn yn gymwys i HMO sydd yn union cyn y dyddiad cychwyn wedi'i gofrestru o dan gynllun perthnasol ac sydd naill ai—
(2) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i HMO sy'n floc fflatiau a addaswyd ac y mae adran 257 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo.
(3) Bernir bod awdurdod tai lleol wedi rhoi trwydded ar gyfer HMO y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo i unrhyw berson yr oedd, cyn y dyddiad cychwyn, wedi'i gofnodi ar y gofrestr a awdurdodwyd gan y cynllun perthnasol fel y person sy'n rheoli'r HMO.
(4) Yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, o ran trwydded y bernir ei bod wedi'i rhoi o dan is-baragraff (3)—
(5) Nid yw'r amodau y bernir bod trwydded o'r fath wedi'i rhoi odanynt yn cynnwys unrhyw amodau a osodwyd ar gofrestriad HMO o dan gynllun perthnasol sy'n ymwneud â'r canlynol—
(6) O fewn y cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn rhaid i'r awdurdod tai lleol—
(b) os bydd y drwydded yn dod i ben mewn llai na 6 mis ar ôl y dyddiad cychwyn, anfon at ddeiliad y drwydded hysbysiad yn rhoi gwybod iddo fod angen iddo wneud cais am drwydded newydd pan fydd y drwydded yn dod i ben.
(7) Nid yw Atodlen 4 (trwyddedau o dan Rannau 2 a 3: amodau mandadol) a Rhan 1 o Atodlen 5 (trwyddedau o dan Rannau 2 a 3: gweithdrefn ac apelau) i Ddeddf 2004 yn gymwys o ran trwydded y bernir ei bod wedi'i rhoi o dan is-baragraff (3).
(8) Mae cofrestriad HMO o dan gynllun perthnasol y bernir bod trwydded wedi'i rhoi ar ei gyfer o dan is-baragraff (3) yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad cychwyn.
(9) Ni chodir tâl ar ddeiliad y drwydded am unrhyw gostau a dynnir gan yr awdurdod tai lleol sy'n cymryd unrhyw gamau o dan y paragraff hwn.
Ceisiadau am gofrestru HMO sydd heb eu penderfynu ar y dyddiad cychwyn: trefniadau trosiannol
5.
—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais am gofrestru, o dan gynllun perthnasol, HMO rhagnodedig neu HMO sydd wedi'i leoli mewn ardal y bernir bod dynodiad wedi'i wneud mewn perthynas â hi o dan baragraff 3(2) a hwnnw'n gais—
(2) Rhaid i'r awdurdod ddod i benderfyniad ar y cais yn y modd y byddai wedi gwneud pe na bai Rhan 11 o Ddeddf 1985 wedi'i diddymu.
(3) Os yw'r awdurdod yn penderfynu bod yr HMO yn bodloni'r amodau ar gyfer cofrestru o dan gynllun perthnasol, rhaid iddo beidio â'i gofrestru ond yn lle hynny rhaid iddo roi trwydded i'r person a bennir yn y cais fel y person sy'n rheoli'r HMO—
(4) Pan fo'r awdurdod yn penderfynu nad yw'r HMO yn bodloni'r amodau ar gyfer cofrestru o dan y cynllun, rhaid iddo—
(5) Ni chodir tâl ar ddeiliad y drwydded am unrhyw gostau a dynnir gan yr awdurdod tai lleol sy'n cymryd unrhyw gamau o dan y paragraff hwn.
(6) Pan fo ceisydd y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo wedi talu ffi am ei gais am gofrestru o dan gynllun perthnasol, rhaid peidio â'i gwneud yn ofynnol iddo dalu ffi am ei gais am drwydded o dan adran 63 o Ddeddf 2004.
Ffitrwydd tŷ amlfeddiannaeth ar gyfer y nifer o feddianwyr
6.
—(1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(5) o Ddeddf 2004 yn dod i rym, ni fydd diddymu adrannau 352, 352A na 353 yn effeithiol mewn perthynas â HMO sy'n floc fflatiau perthnasol a addaswyd.
(2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac yn dod i ben ar 15 Mehefin 2007—
(3) O ran apêl a ddygwyd o dan is-adran (2) o adran 357 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn, ni fydd penderfyniad llys i amrywio, neu i beidio â dirymu, cyfarwyddyd o dan adran 354 o'r Ddeddf honno yn effeithiol.
Hysbysiadau gorlenwi
7.
—(1) Bydd hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 358(1) o Ddeddf 1985 (cyflwyno hysbysiad gorlenwi) cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n hysbysiad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i hysbysiad—
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd diddymu adrannau 358 i 364, 395, 396 a 397 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
Moddion dianc rhag tân
8.
Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd diddymu adrannau 365, 368, 395, 396 neu 397 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas ag ymrwymiad a dderbyniwyd gan awdurdod tai lleol o dan is-adran (2) o adran 368 o'r Ddeddf honno cyn y dyddiad cychwyn.
Safonau Rheoli
9.
—(1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(5) o Ddeddf 2004 yn dod i rym, ni fydd diddymu adrannau 369, 372, 373 a 378 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas â bloc fflatiau perthnasol a addaswyd.
(2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac yn dod i ben ar 15 Mehefin 2007—
Gwaith a wnaed gan awdurdod tai lleol a gorfodi
10.
—(1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(5) o Ddeddf 2004 yn dod i rym, ni fydd diddymu adran 375 yn effeithiol mewn perthynas â bloc fflatiau perthnasol a addaswyd.
(2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd diddymu adrannau 375, 376, 377, 377A a 378 o Ddeddf 1985, ac Atodlen 10 iddi, yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 352 neu 372 o'r Ddeddf honno cyn y dyddiad cychwyn.
Gorchmynion Rheoli
11.
—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i orchymyn rheoli a wnaed o dan adran 379(1) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Ni fydd diddymu adrannau 379 i 397 o Ddeddf 1985, ac Atodlen 13 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn rheoli y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo.
(3) Cyhyd ag y bydd gorchymyn rheoli y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn parhau mewn grym ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn, ni fydd darpariaethau Rhan 2 a 3, a Phennod 1 o Ran 4, o Ddeddf 2004 yn effeithiol mewn perthynas â thŷ sy'n ddarostyngedig i'r gorchymyn.
(4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i dŷ sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo os yw'r tŷ, ar y dyddiad, neu'n union cyn y dyddiad, y mae'r gorchymyn yn dod i ben neu'n cael ei ddirymu yn unol ag adran 392 o Ddeddf 1985—
(b) yn dŷ nad yw'n un y mae'n ofynnol ei drwyddedu o dan Ran 2 o Ddeddf 2004 ond bod yr awdurdod tai lleol o'r farn bod yr amod hwnnw wedi'i fodloni mewn perthynas â'r tŷ hwnnw.
(5) Nid yw'n ofynnol i'r awdurdod tai lleol wneud gorchymyn rheoli interim o dan adran 102 o Ddeddf 2004 cyn gwneud gorchymyn rheoli terfynol o dan adran 113 o'r Ddeddf honno ynglŷn â thy y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo.
(6) Mae adran 113 o Ddeddf 2004 yn effeithiol at ddibenion gwneud gorchymyn rheoli terfynol ynglŷn â thŷ y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo fel petai-
(7) Mae adran 114 o Ddeddf 2004 yn effeithiol at ddibenion gwneud gorchymyn rheoli terfynol ynglŷn â thŷ y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo fel petai—
(8) Mae gorchymyn rheoli y mae is-baragraff 4 yn gymwys iddo yn aros mewn grym hyd nes—
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
Adran 4 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy. 242) (C. 138) |
Adran 55(1) a (2) a pharagraffau (a) a (b) o is-adran (5) | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy. 242) (C. 138) |
Adrannau 56 a 57 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy. 242) (C. 138) |
Adrannau 79—81 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy. 242) (C. 138) |
Adran 179 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy. 242) (C. 138) |
Adran 191 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy. 144) (C. 75) |
Adrannau 192—194 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy. 242) (C. 138) |
Adrannau 227 a 228 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144) (C. 75) |
Adran 237 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy. 242) (C. 138) |
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy. 144) (C. 75) |
Atodlen 12 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy. 144) (C. 75) |
[3] I'r graddau y mae darpariaeth yn Neddf 2004 yn rhoi pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau sy'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth i rym adeg pasio'r Ddeddf honno yn rhinwedd adran 270(2)(b) o'r Ddeddf. Mae rhai darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn eisoes wedi'u dwyn i rym yn rhannol gan orchmynion cychwyn cynharach.back
[18] Mae adran 300(2)(b) o Ddeddf Tai 1985 yn cymhwyso adrannau 268(2) a 269(1), (2), (3) a (6) o'r Ddeddf honno i hysbysiad o dan adran 300 fel y maent yn gymwys i orchymyn dymchwel neu orchymyn cau.back
[19] I gael ystyr "HMO" gweler adran 77 o Ddeddf 2004.back
[20] Yn ôl adran 346A(2)(a) o Ddeddf 1985 mae cofrestriad o dan gynllun a wnaed o dan adran 346 yn gofrestriad am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad y cofrestru.back