British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 1534 (Cy.151)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061534w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1534 (Cy.151)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
13 Mehefin 2006 | |
|
Yn dod i rym |
15 Mehefin 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnyws cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2006, deuant i rym ar 15 Mehefin 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006[3];
Diwygio'r Prif Reoliadau
3.
Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 4 a 5 o'r Rheoliadau hyn.
4.
Yn nhestun Cymraeg is-baragraff (b) o baragraff (1) o reoliad 5 (Gorfodi) mewnosoder y geiriau "neu'r awdurdod bwyd" ar ôl y geiriau "gan yr Asiantaeth".
5.
Yn nhestun Cymraeg paragraff (9) o reoliad 13 (Dadansoddi etc samplau) rhodder y geiriau "rheoliad hwn" yn lle'r geiriau "Rheoliadau hyn".
Llofnodwyd o ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mehefin 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, a wneir o ran Cymru, yn daparu ar gyfer dau gywiriad i destun Cymraeg rheoliad 5(1)(b) a rheoliad 13(9) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 yn eu trefn.
2.
Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
O.S. 2005/1971.back
[2]
1972 p. 68.back
[3]
O.S. 2006/31 (Cy.5).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091358 2
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
27 June 2006
|