British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006 Rhif 1512 (Cy.148)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061512w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNAU STATUDOL
2006 Rhif 1512 (Cy.148)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
13 Mehefin 2006 | |
|
Yn dod i rym |
14 Mehefin 2006 | |
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
1].
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd[
2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006, maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i anifeiliaid a gedwir ar gyfer pwrpasau ymchwil mewn mangreoedd a gymeradwyir ar gyfer y pwrpas hynny o dan reoliadau Eneffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006[
3].
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "anifail buchol" ("bovine animal") yw gwartheg yn cynnwys buail a byfflo (gan gynnwys byfflo dŵr);
ystyr "BSE" ("BSE") yw enseffalopathi sbyngffurf buchol;
mae gan "pasbort gwartheg" ("cattle passport") yr un ystyr ag sydd yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998[4];
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
Iawndal am anifeiliaid buchol sy'n cael eu cigydda oherwydd TSE
3.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal–
(a) pan fo anifail yn cael ei ladd o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006;
(b) pan fo anifail i'w ladd o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, a bod yr anifail wedi ei brisio ar gyfer pwrpasau iawndal, ond fod yr anifail yn marw (neu yn cael ei ladd am resymau eraill) wedi prisio; neu
(c) lle bo anifail yn ddarostyngedig i gyfyngiad symud o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 a bod yn rhaid ei ladd fel mater o frys, a bod milfeddyg wedi datgan yn ysgrifenedig y byddai'r anifail fel arall wedi bod yn addas i'w fwyta gan bobl yn unol â Phennod VI o Adran I o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[5], ac os felly yr iawndal yw gwerth y corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen).
Swm yr iawndal sy'n daladwy
4.
—(1) Yr iawndal yw'r pris cyfartalog a delir ym Mhrydain fawr am anifail o'r oed a'r categori hwnnw o anifail–
(a) yn y chwe mis blaenorol yn achos anifail pedigri; ac
(b) yn achos unrhyw anifail buchol eraill, yn y mis blaenorol
(2) Anifail pedigri yw anifail sydd wedi cael tystysgrif pedigri gan sefydliad neu gymdeithas bridwyr sy'n cyflawni amodau Penderfyniad y Cyngor 84/247/EEC sy'n gosod y meini prawf ar gyfer cydnabod sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy'n cadw llyfrau buches ar gyfer anifeiliaid bridio pur o'r rhywogaeth buchol[6].
(3) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gategoreiddio anifeiliaid fel a ganlyn, ac at bwrpas penderfynu ynglŷn â pha gategori i roi'r anifail, oed yr anifail yw'r oed, fel y dangosir gan ei basport gwartheg, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o'r bwriad i'w ladd.
Categorïau
Gwryw
|
Menyw
|
Sector Eidion—anifail sydd ddim yn bedigri |
|
Hyd at ac yn cynnwys 3 mis |
Hyd at ac yn cynnwys 3 mis |
Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis |
Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis |
Dros 6 mis hyd at ac yn cynnnwys 9 mis |
Dros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 9 mis |
Dros 9 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis |
Dros 9 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis |
Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis |
Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis |
Dros 20 mis– |
Dros 20 mis– |
Teirw bridio |
Wedi bwrw llo |
Arall |
Heb fwrw llo |
Sector Llaeth—anifail sydd ddim yn bedigri |
|
Hyd at ac yn cynnwys 3 mis |
Hyd at ac yn cynnwys 3 mis |
Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis |
Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis |
Dros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis |
Dros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis |
Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis |
Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis |
Dros 20 mis |
Dros 20 mis– |
|
Wedi bwrw lloHeb fwrw llo |
Sector Eidion — anifail pedigri |
|
6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis |
6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 mis |
Dros 24 mis |
Dros 24 mis (heb fwrw llo) |
|
Wedi bwrw llo o dan 36 mis |
|
Wedi bwrw llo 36 mis a drosodd |
Sector Llaeth—anifail pedigri |
|
Hyd at ac yn cynnwys 2 fis |
Hyd at ac yn cynnwys 2 fis |
Dros 2 fis hyd at ac yn cynnwys 12 mis |
Dros 2 fis hyd at ac yn cynnwys 10 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 mis |
Dros 10 mis hyd at ac yn cynnwys 18 mis |
Dros 24 mis |
Dros 18 mis (heb fwrw llo) |
|
Wedi bwrw lllo o dan 36 mis |
|
Wedi bwrw llo 36 mis a throsodd |
Eithriadau i'r swm o iawndal sydd yn daladwy
5.
—(1) Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r data i gyfrifo'r pris cyfartalog yn ddigonol, yna mae'n rhaid iddo dalu iawndal–
(a) am anifeiliaid yn y categori hwnnw, y pris cyfartalog a gyfrifwyd yn flaenorol yn fwyaf diweddar lle roedd digon o ddata i gyfrifo'r pris cyfartalog; neu
(b) pris y farchnad, am yr anifail unigol.
(2) Ar gyfer byfflo neu bison, yr iawndal yw pris y farchnad.
(3) Pris y farchnad yw'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am anifail unigol oddi wrth brynwr yn y farchnad agored adeg prisio pe na bai'n ofynnol lladd yr anifail o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, wedi ei gyfrifo o dan reoliad 15 o Reoliadau Enseffalopathïau Trosgwlyddadwy (Cymru) 2006, gyda'r ffioedd am enwebu'r prisiwr a ffioedd y prisiwr yn daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Dirymu
6.
Dirymir Rheoliadau 8, 9, 84, 93, Rhan III o Atodlen 1, rheoliad 17 o Ran IV o Atodlen 6A a rheoliadau 4 ac 8 o Atodlen 7, sydd yn ymwneud â thalu iawndal yn dilyn cigydda anifail buchol, o Reoliadau TSE (Cymru) 2002[7]pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mehefin 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu swm yr iawndal sydd yn daladwy pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn peri cigydda anifail buchol o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai swm yr iawndal sydd yn daladwy ar gigydda anifail buchol yw y pris cyfartalog a dalwyd ym Mhrydain Fawr ar gyfer oed a chategori yr anifail yn y chwe mis blaenorol yn achos anifail pedigri, ac ar gyfer unrhyw anifail buchol arall yn y mis blaenorol.
Yr iawndal ar gyfer Byffalo a Buail yw pris y farchnad.
Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ac wedi ei roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1972 p.68.back
[2]
O.S. 2003/1246.back
[3]
O.S. 2006/1226.back
[4]
O.S. 1998/871, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/2969 ac O.S. 1999/1339.back
[5]
OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22.back
[6]
OJ Rhif L125, 12.05.1984, t.58.back
[7]
O.S. 2002/1416back
[8]
1998, p.38back
English version
ISBN
0 11 091356 6
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
23 June 2006
|