Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006 Rhif 1387 (Cy.137)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061387w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1387 (Cy.137)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
23 Mai 2006 | |
|
Yn dod i rym |
Mehefin 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer ei bwerau o dan adran 321(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i haddaswyd gan adran 321B(3) o'r Ddeddf honno) [
1], paragraff 6A(3) o Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (fel y'i haddaswyd gan baragraff 8(3) o'r Atodlen honno)[
2] a pharagraff 6A(3) o'r Atodlen i Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (fel y'i haddaswyd gan baragraff 8(3) o'r Atodlen honno)[
3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Mehefin 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "yr awdurdod cyfarwyddo" ("the directing authority") yw'r Cynulliad Cenedlaethol neu, yn ôl y digwydd, yr Ysgrifennydd Gwladol;
ystyr "y brif Ddeddf" ("the principal Act") yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr "cyfarwyddyd" ("direction") yw cyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod cyfarwyddo o dan–
(a) adran 321(3) o'r brif Ddeddf;
(b) paragraff 6(6) o Atodlen 3 i'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig; neu
(c) paragraff 6(6) o'r Atodlen i'r Ddeddf Sylweddau Peryglus;
mae i "cyfathrebu electronig" a "cyfathrebiad electronig" yr ystyr a roddir i "electronic communication" yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000[4];
ystyr "cynrychiolydd penodedig" ("appointed representative") yw person a benodir gan Gwnsler Cyffredinol y Cynulliad Cenedlaethol o dan–
(a) adran 321(5) neu (6) o'r brif Ddeddf fel y'i haddaswyd gan adran 321B(2) o'r Ddeddf honno;
(b) paragraff 6A(1) neu (2) o Atodlen 3 i'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig fel y'i haddaswyd gan baragraff 8(2) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno; neu
(c) paragraff 6A(1) neu (2) o'r Atodlen i'r Ddeddf Sylweddau Peryglus, fel y'i haddaswyd gan baragraff 8(2) o'r Atodlen i'r Ddeddf honno;
mae "dogfen" ("document") yn cynnwys ffotograff, map neu blan;
ystyr "y Ddeddf Adeiladau Rhestredig" ("the Listed Buildings Act") yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
ystyr "y Ddeddf Sylweddau Peryglus" ("the Hazardous Substances Act") yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;
ystyr "y partïon" ("the parties") yw–
(a) y person sy'n gwneud yr archiad am gyfarwyddyd; a
(b) y cynrychiolydd penodedig;
ystyr "person yr effeithir arno" ("affected person") yw'r person a gaiff ei atal, drwy gyfarwyddyd, rhag gwrando neu archwilio tystiolaeth gaeedig mewn ymchwiliad lleol os rhoddir cyfarwyddyd;
mae "sylwadau ysgrifenedig" ("written representations") yn cynnwys dogfennau ategol;
ystyr "tystiolaeth gaeedig" ("closed evidence") yw tystiolaeth sy'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd; ac
ystyr "tystiolaeth gaeedig bosibl" ("potentially closed evidence") yw tystiolaeth y mae archiad am gyfarwyddyd wedi'i wneud mewn perthynas â hi.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebu electronig at unrhyw un o ddibenion y Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni'n electronig–
(a) mae'r term "cyfeiriad"("address") yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebu o'r fath;
(b) mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o'r dogfennau hynny, yn cynnwys cyfeiriadau at y dogfennau hynny neu gopïau ohonynt ar ffurf electronig.
(3) Mae paragraffau (4) i (8) yn gymwys pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio gan berson er mwyn cyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall i unrhyw berson arall ("y derbynnydd") neu i'w anfon neu i'w hanfon ato.
(4) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fo'r hysbysiad neu'r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig-
(a) yn un y gall y derbynnydd ei gyrchu neu ei chyrchu;
(b) yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac
(c) yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ato neu ati yn nes ymlaen.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr "yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys" yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad neu'r ddogfen arall ar gael i'r derbynnydd o leiaf i'r un graddau â phe bai wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiadwy.
(6) Os caiff y derbynnydd y cyfathrebiad electronig y tu allan i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr "diwrnod gwaith" yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
(7) Bydd gofyniad yn y Rheoliadau hyn i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi'i gyflawni pan fo'r ddogfen honno yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), ac mae "ysgrifenedig" ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
(8) Caniateir cydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall drwy anfon un copi yn unig o'r datganiad neu'r ddogfen arall o dan sylw a hynny ar ffurf electronig.
Y rheoliadau penodol sy'n gymwys mewn achosion penodol
3.
—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r awdurdod cyfarwyddo yn ystyried rhoi neu pan fo wedi rhoi cyfarwyddyd o dan unrhyw un o'r darpariaethau canlynol–
(a) adran 321(3) o'r brif Ddeddf;
(b) paragraff 6(6) o Atodlen 3 i'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig; neu
(c) paragraff 6(6) o'r Atodlen i'r Ddeddf Sylweddau Peryglus.
(2) Mae rheoliad 4 yn gymwys i bob cynrychiolydd penodedig.
(3) Mae rheoliadau 5 i 14 yn gymwys o ran achos lle mae cynrychiolydd penodedig wedi'i benodi o dan–
(a) adran 321(5) o'r brif Ddeddf;
(b) paragraff 6A(1) o Atodlen 3 i'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig; neu
(c) paragraff 6A(1) o'r Atodlen i'r Ddeddf Sylweddau Peryglus.
Swyddogaethau cynrychiolydd penodedig
4.
—(1) Swyddogaeth gyntaf cynrychiolydd penodedig yw cynrychioli buddiannau'r person yr effeithir arno drwy wneud y canlynol–
(a) derbyn cyfarwyddiadau gan y person yr effeithir arno cyn cael copïau o dystiolaeth gaeedig bosibl;
(b) cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch a ddylid rhoi cyfarwyddyd; ac
(c) mewn perthynas â gwrandawiad a gynhelir yn unol â rheoliad 10–
(i) ymdrin â materion rhagarweiniol,
(ii) gwneud argymhellion, a
(iii) croesholi tystion.
(2) Ail swyddogaeth y cynrychiolydd penodedig yw cynrychioli buddiannau'r person yr effeithir arno drwy wneud y canlynol–
(a) os penodwyd cynrychiolydd penodedig o dan–
(i) adran 321(6) o'r brif Ddeddf;
(ii) paragraff 6A(2) o Atodlen 3 i'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig; neu
(iii) paragraff 6A(2) o'r Atodlen i'r Ddeddf Sylweddau Peryglus,
derbyn cyfarwyddiadau gan y person yr effeithir arno cyn cael copïau o dystiolaeth gaeedig;
(b) ymdrin â materion rhagarweiniol o ran tystiolaeth gaeedig mewn perthynas ag ymchwiliad lleol;
(c) gwneud argymhellion neu groesholi tystion, o ran tystiolaeth gaeedig, mewn ymchwiliad lleol; ac
(ch) bod yn bresennol mewn ymweliadau â safleoedd.
(3) Trydedd swyddogaeth cynrychiolydd penodedig yw sicrhau bod y copïau o'r dystiolaeth gaeedig neu'r dystiolaeth gaeedig bosibl yn cael eu dychwelyd i'r person a'u darparodd cyn gynted ag y bo'n ymarferol –
(a) ar ôl i'r awdurdod cyfarwyddo roi hysbysiad o dan reoliad 14 nad yw'n bwriadu rhoi cyfarwyddyd;
(b) ar ôl i'r ymchwiliad lleol, y mae'r dystiolaeth gaeedig yn ymwneud ag ef, ddod i ben; neu
(c) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r cynrychiolydd penodedig na fydd unrhyw ymchwiliad lleol, y mae'r dystiolaeth gaeedig yn ymwneud ag ef, yn cael ei gynnal,
p'un bynnag yw'r olaf.
(4) Pedwaredd swyddogaeth cynrychiolydd penodedig yw gwneud ceisiadau i'r llys ynghylch unrhyw un o swyddogaethau eraill y cynrychiolydd penodedig.
(5) At ddibenion unrhyw un neu rai o'r swyddogaethau, caiff y cynrychiolydd penodedig drafod unrhyw fater sy'n ymwneud â'r dystiolaeth gaeedig neu'r dystiolaeth gaeedig bosibl–
(i) â'r person sydd wedi darparu'r dystiolaeth gaeedig neu'r dystiolaeth gaeedig bosibl i'r awdurdod cyfarwyddo, neu,
(ii) â pherson a bennir yn y cyfarwyddyd, neu berson o unrhyw ddisgrifiad a bennir ynddo.
Cydnabod archiad am gyfarwyddyd
5.
—(1) Caiff unrhyw berson ofyn am gyfarwyddyd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cyfarwyddo i'r diben hwnnw.
(2) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael archiad am gyfarwyddyd, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo gydnabod mewn ysgrifen bod yr archiad wedi dod i law.
Cyhoeddusrwydd
6.
—(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael archiad am gyfarwyddyd, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo roi cyhoeddusrwydd i'r ffaith bod archiad wedi dod i law a hynny yn y modd a ragnodir gan y rheoliad hwn.
(2) Yn achos archiad sy'n ymwneud â chais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad–
(a) sy'n gais Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol y mae datganiad amgylcheddol yn dod gydag ef;
(b) nad yw'n cydweddu â darpariaethau'r cynllun datblygu sydd mewn grym yn yr ardal y mae'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef wedi'i leoli ynddi; neu
(c) a fyddai'n effeithio ar hawl dramwy y mae Rhan 3 o'r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981[5](hawliau tramwy cyhoeddus) yn gymwys iddi,
rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r archiad yn y modd a bennir ym mharagraff (3).
(3) Rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i archiad sy'n dod o dan baragraff (2) ("archiad paragraff (2)") gan roi hysbysiad–
(a) drwy ei arddangos ar y safle mewn un man o leiaf ar neu wrth ymyl y tir y mae'r cais am ganiatâd cynllunio yn ymwneud ag ef am gyfnod nad yw'n llai na 2 wythnos; a
(b) drwy hysbyseb leol am 2 wythnos yn olynol ac yn gyfoes â'r cyfnod hysbysu yn is-baragraff (a).
(4) Yn achos archiad am gyfarwyddyd nad yw'n archiad paragraff (2), os datblygiad mawr yw'r datblygiad arfaethedig y mae'r archiad yn ymwneud ag ef, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r archiad gan roi hysbysiad–
(a) drwy ei arddangos ar y safle mewn un man o leiaf ar neu wrth ymyl y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef am gyfnod nad yw'n llai na 2 wythnos neu drwy gyflwyno'r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol; a
(b) drwy hysbyseb leol am 2 wythnos yn olynol ac yn gyfoes â'r cyfnod hysbysu yn is-baragraff (a).
(5) Mewn achos nad yw paragraff (2) na pharagraff (4) yn gymwys iddo, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i archiad am gyfarwyddyd gan roi hysbysiad–
(a) drwy ei arddangos ar y safle mewn un man o leiaf ar neu wrth ymyl y tir y mae'r cais am ganiatâd cynllunio yn ymwneud ag ef am gyfnod nad yw'n llai na 2 wythnos; neu
(b) drwy gyflwyno'r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol.
(6) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (3), (4) neu (5)–
(a) nodi bod archiad am gyfarwyddyd wedi'i wneud;
(b) nodi bod modd cyflwyno i'r awdurdod cyfarwyddo, yn y cyfeiriad a bennir yn yr hysbysiad, sylwadau ysgrifenedig ynghylch a ddylai cyfarwyddyd gael ei roi; a
(c) pennu'r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i unrhyw sylwadau o'r fath gael eu cyflwyno i'r awdurdod cyfarwyddo (sef dyddiad nad yw'n llai na 2 wythnos o'r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad).
(7) Pan fo'r hysbysiad, heb fod unrhyw fai ar yr awdurdod cyfarwyddo nac unrhyw fwriad ganddo i wneud hynny, wedi'i dynnu ymaith, wedi'i guddio neu wedi'i ddifwyno cyn bod y cyfnod o 2 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), (4)(a)(i) neu (5)(a) wedi treiglo, rhaid ymdrin â'r awdurdod cyfarwyddo fel un sydd wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac, os oes angen, i roi hysbysiad newydd yn ei le.
(8) Yn y rheoliad hwn–
mae i'r term "cais Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol" yr ystyr a roddir i "EIA application" yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999[6], ac ystyr "datganiad amgylcheddol" ("environmental statement") yw datganiad y mae'r ceisydd yn cyfeirio ato fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hynny;
ystyr "datblygiad gwastraff" ("waste development") yw unrhyw ddatblygiad gweithredol a gynlluniwyd i gael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion trin, storio, prosesu neu waredu gwastraff neu ddeunyddiau gwastraff, neu newid defnydd yn sylweddol iddynt;
ystyr "datblygiad mawr" ("major development") yw datblygiad sy'n cynnwys unrhyw un neu fwy o'r canlynol–
(a) cloddio am fwynau a'u gweithio neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion gweithio mwynau;
(b) datblygiad gwastraff;
(c) darparu tai annedd–
(i) pan fo nifer y tai annedd sydd i'w darparu yn 10 neu fwy; neu
(ii) pan fo'r gwaith datblygu i'w gyflawni ar safle y mae ei arwynebedd yn 0.5 hectar neu fwy ac nad yw'n hysbys a yw'r datblygiad yn dod o dan baragraff (c)(i);
(ch) darparu adeilad neu adeiladau pan fo'r arwynebedd llawr sydd i'w greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu fwy; neu
(d) gwaith datblygu sy'n cael ei gyflawni ar safle y mae ei arwynebedd yn 1 hectar neu fwy;
ystyr "drwy ei arddangos ar y safle" ("by site display") yw drwy osod yr hysbysiad gan ei roi'n sownd i rywbeth, ei leoli a'i arddangos yn y fath fodd ag i beri iddo fod yn hawdd i'w weld a'i ddarllen gan aelodau o'r cyhoedd;
ystyr "drwy hysbyseb leol" ("by local advertisement") yw–
(a) cyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth y mae'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef wedi'i leoli ynddi; a
(b) pan fo'r awdurdod cyfarwyddo yn cynnal gwefan at ddibenion hysbysebu ceisiadau, drwy gyhoeddi hysbysiad ar y wefan honno;
ystyr "perchennog neu feddiannydd cyffiniol" ("adjoining owner or occupier") yw unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir sy'n cyffinio â'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef; ac
nid yw "tŷ annedd" ("dwellinghouse") yn cynnwys adeilad sy'n cynnwys un neu ragor o fflatiau, na fflat sydd wedi'i gynnwys o fewn adeilad o'r fath.
Gwybodaeth i'w hanfon at y partïon
7.
—(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i hysbysiad o'r archiad am gyfarwyddyd gael ei roi yn unol â rheoliad 6, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo–
(a) hysbysu'r cynrychiolydd penodedig yn ysgrifenedig o'r dyddiad y mae rhaid i unrhyw sylwadau ysgrifenedig ynghylch a ddylid rhoi cyfarwyddyd ddod i law'r awdurdod cyfarwyddo (sef dyddiad nad yw'n llai na 6 wythnos o'r dyddiad y mae'r hysbysiad i'r cynrychiolydd penodedig yn cael ei roi); a
(b) anfon ar yr un pryd gopi o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) at y parti arall.
(2) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael ei hysbysu gan y cynrychiolydd penodedig bod y cynrychiolydd penodedig wedi derbyn cyfarwyddiadau gan y person yr effeithir arno, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo anfon at y cynrychiolydd penodedig–
(a) copi o'r archiad am gyfarwyddyd; a
(b) pan fo'r dystiolaeth gaeedig bosibl yn cynnwys tystiolaeth ddogfennol neu ddatganiad ysgrifenedig o dystiolaeth y person sy'n bwriadu rhoi tystiolaeth lafar, copi o'r dystiolaeth honno.
Gweithdrefn sylwadau ysgrifenedig
8.
—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, sylwadau ysgrifenedig y person sy'n gwneud yr archiad am gyfarwyddyd sy'n ffurfio'r archiad am gyfarwyddyd.
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael y sylwadau ysgrifenedig, anfon–
(a) copi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd iddo gan y cynrychiolydd penodedig at y parti arall; a
(b) copïau o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd iddo gan bersonau yn unol â rheoliad 6(6)(b) at y partïon.
(3) Os yw'r naill barti neu'r llall yn cyflwyno unrhyw sylwadau pellach, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddynt ddod i law, anfon copi ohonynt at y parti arall.
(4) Rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo fynd ati i benderfynu ar archiad am gyfarwyddyd gan gymryd i ystyriaeth ddim ond y sylwadau sydd wedi'u cyflwyno o fewn y terfynau amser perthnasol.
(5) Ym mharagraff (4) ystyr "terfynau amser perthnasol" yw'r terfynau amser a ragnodir gan reoliadau 6(6)(c) a 7(1)(a) neu, pan fo'r awdurdod cyfarwyddo wedi arfer ei bŵer o dan reoliad 14, unrhyw derfyn amser diweddarach.
Penderfyniad i gynnal gwrandawiad a dyddiad y gwrandawiad
9.
—(1) Pan fo'r awdurdod cyfarwyddo o'r farn y gellid datrys un neu ragor o faterion ynglŷn â'r archiad yn fwy boddhaol drwy gynnal gwrandawiad y byddai'r partïon yn bresennol ynddo, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig yn unol â hynny i'r partïon.
(2) Rhaid i'r dyddiad a bennir gan yr awdurdod cyfarwyddo ar gyfer cynnal gwrandawiad beidio â bod yn hwyrach na 6 wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1).
(3) Oni fydd yr awdurdod cyfarwyddo yn cytuno gyda'r partïon ar gyfnod hysbysu llai, rhaid iddo roi iddynt ddim llai na 2 wythnos o hysbysiad ysgrifenedig o'r dyddiad, yr amser a'r lle a bennwyd ganddo ar gyfer cynnal y gwrandawiad.
(4) Caiff yr awdurdod cyfarwyddo amrywio'r dyddiad a bennir ar gyfer cynnal y gwrandawiad, p'un a yw'r dyddiad a amrywir o fewn y cyfnod o 6 wythnos a grybwyllwyd ym mharagraff (2) neu beidio; ac mae paragraff (3) yn gymwys i amrywiad o ran dyddiad yn yr un modd ag yr oedd yn gymwys i'r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.
(5) Caiff yr awdurdod cyfarwyddo amrywio'r amser neu'r lle ar gyfer cynnal gwrandawiad a rhaid iddo roi i'r partïon yr hysbysiad hwnnw y mae'n ymddangos iddo ei fod yn rhesymol o unrhyw amrywiad.
Y weithdrefn ar gyfer gwrandawiad
10.
—(1) Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo benderfynu'r weithdrefn mewn gwrandawiad.
(2) Rhaid i wrandawiad fod ar ffurf trafodaeth sy'n cael ei harwain gan yr awdurdod cyfarwyddo a chaniateir croesholi os yw'r awdurdod cyfarwyddo o'r farn ei fod yn angenrheidiol i sicrhau archwiliad trylwyr o'r prif faterion.
(3) Ar ddechrau'r gwrandawiad rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo nodi beth, yn ei farn ef, yw'r prif faterion sydd i'w hystyried yn y gwrandawiad a nodi unrhyw faterion y bydd angen iddo gael esboniad pellach arnynt gan y partïon.
(4) Nid oes dim ym mharagraff (3) sy'n atal y partïon rhag cyfeirio at faterion y maent yn credu eu bod yn berthnasol i'r broses o ystyried yr archiad am gyfarwyddyd ond nad oeddent yn faterion a nodwyd gan yr awdurdod cyfarwyddo yn unol â'r paragraff hwnnw.
(5) Caiff yr awdurdod cyfarwyddo–
(a) mynd yn ei flaen i gynnal gwrandawiad yn absenoldeb unrhyw barti;
(b) cymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall y mae wedi'i chael oddi wrth unrhyw berson cyn bod gwrandawiad yn agor neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod yr awdurdod cyfarwyddo yn ei ddatgelu neu ei datgelu yn y gwrandawiad; ac
(c) o bryd i'w gilydd ohirio gwrandawiad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad sy'n cael ei ohirio yn y gwrandawiad cyn y gohiriad, ni fydd angen hysbysiad pellach.
(6) Pan fydd yn gwneud ei benderfyniad, caiff yr awdurdod cyfarwyddo anwybyddu unrhyw sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth neu ddogfen arall sy'n dod i law ar ôl diwedd y gwrandawiad.
Amser ychwanegol
11.
Ar unrhyw adeg mewn unrhyw achos penodol caiff yr awdurdod cyfarwyddo ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer cymryd unrhyw gam sy'n ofynnol ei gymryd neu y galluogir ei gymryd yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a dehonglir yn unol â hynny gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddiwrnod erbyn pryd, neu gyfnod o fewn pryd, y mae'n ofynnol cymryd unrhyw gam neu y galluogir ei gymryd.
Hysbysiadau drwy'r post
12.
Caniateir i hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu hanfon o dan y Rheoliadau hyn gael eu hanfon neu eu darparu–
(a) drwy'r post; neu
(b) drwy ddefnyddio cyfathrebu electronig i anfon neu i ddarparu'r hysbysiad neu'r ddogfen (yn ôl y digwydd) at berson yn unrhyw gyfeiriad a bennir am y tro gan y person at y diben hwnnw.
Tynnu'n ôl gydsyniad i ddefnyddio cyfathrebu electronig
13.
Pan na fo person bellach yn fodlon derbyn defnyddio cyfathrebu electronig at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni'n electronig, rhaid i'r person roi hysbysiad ysgrifenedig–
(a) yn tynnu'n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd yr awdurdod cyfarwyddo ohono at y diben hwnnw; neu
(b) yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda'r awdurdod cyfarwyddo at y diben hwnnw,
a bydd y cam hwnnw o dynnu'n ôl neu ddirymu yn derfynol a daw yn weithredol ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond heb fod yn llai na 7 niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
Hysbysu o benderfyniad
14.
—(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl penderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd neu beidio, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo hysbysu unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau iddo mewn perthynas â'r cyfarwyddyd o'i benderfyniad; ond nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol neu sy'n caniatáu i'r awdurdod cynorthwyo roi rhesymau dros ei benderfyniad, os byddai rhoi rhesymau yn arwain at ddatgeliad cyhoeddus o dystiolaeth gaeedig.
(2) Pan fo cyfarwyddyd yn cael ei roi, rhaid i'r awdurdod cyfawryddo anfon, yr un pryd ag y bydd yn hysbysu o'i benderfyniad yn unol â pharagraff (1), gopi o'r cyfarwyddyd at y cynrychiolydd penodedig a'r person a wnaeth archiad am y cyfarwyddyd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mai 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 321 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("Deddf 1990") yn darparu bod pob ymchwiliad cynllunio i'w gynnal yn gyhoeddus ac eithrio i'r graddau y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") neu'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran tir yng Nghymru, yn cyfarwyddo fel arall y byddai'n groes i ddiogelwch gwladol ar sail buddiannau gwladol neu ddiogelwch mangreoedd neu eiddo.
Mae adrannau 321 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5)) ("Deddf 2004")) a 321B o Ddeddf 1990 yn gwneud darpariaeth i Gwnsler Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") benodi personau ("cynrychiolwyr penodedig") i gynrychioli buddiannau unrhyw berson a gaiff ei atal rhag gwrando neu archwilio unrhyw dystiolaeth mewn ymchwiliad lleol os rhoddir cyfarwyddyd adran 321 gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Mae paragraffau 6, 6A ac 8 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraffau 6, 6A ac 8 o'r Atodlen i Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â'r Deddfau hynny.
Yn rhinwedd y cofnodion ynghylch y Deddfau uchod yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (fel y'i hamrywir gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S.2000/253) (Cy. 5) yn achos Deddf 1990), mae'r pŵer i roi cyfarwyddyd o dan y darpariaethau hynny o ran Cymru yn arferadwy gan naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ar yr un pryd. Yn y Rheoliadau hyn cyfeirir at y naill a'r llall fel "yr awdurdod cyfarwyddo".
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan yr awdurdod cyfarwyddo pan fydd yn ystyried a fydd yn rhoi cyfarwyddyd diogelwch gwladol. Mae'r darpariaethau hynny'n ymwneud â chyhoeddusrwydd (rheoliad 6), sylwadau ysgrifenedig (rheoliad 8), gwrandawiadau (rheoliadau 9 a 10) a hysbysiadau o benderfyniadau yr awdurdod cyfarwyddo (rheoliad 14).
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi hefyd swyddogaethau cynrychiolwyr penodedig (rheoliad 4).
Mae'r opsiynau ar gyfer trin achosion sy'n cynnwys materion diogelwch gwladol yn effeithio'n bennaf ar y llywodraeth ganolog ac ni fydd ganddynt unrhyw effaith ar gostau busnesau, elusennau, cyrff gwirfoddol na rhannau eraill o'r sector preifat. Ychydig iawn fydd y costau i'r llywodraeth ganolog. O ganlyniad nid oes asesiad llawn o effaith y Rheoliadau wedi'i baratoi ar gyfer yr offeryn hwn.
Notes:
[1]
1990 p.8. Mewnosodwyd is-adrannau (5) i (12) o adran 321, ac adran 321B, gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adrannau 80(1) ac 81(1) yn y drefn honno.back
[2]
1990 p.9. Mewnosodwyd paragraffau 6A ac 8(3) gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, adrannau 80(3) ac 81(2) yn y drefn honno.back
[3]
1990 p.10. Mewnosodwyd paragraffau 6A ac 8(3) gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, adrannau 80(4) ac 81(3) yn y drefn honno.back
[4]
2000 p.7.back
[5]
1981 p.69. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, adran 51 ac Atodlen 5, Rhan I.back
[6]
O.S. 1999/293 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i"r offeryn hwn.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091353 1
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
20 June 2006
|