Wedi'i wneud | 16 Mai 2006 | ||
Yn dod i rym | 24 Mai 2006 |
Gwaharddiad rhag dod â Phytophthora ramorum i Gymru a'i ledaenu o fewn Cymru
3.
Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â–
Mewnforio deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA
4.
Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â mewnforio[5]i Gymru ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA oni–
(b) bydd pasbort planhigion y Swistir yn mynd gyda'r deunydd mewn achosion o fewnforio o'r Swistir blanhigion Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch., a Viburnum spp. L., ac eithrio hadau, y bwriedir eu plannu.
Symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu mewn trydydd gwledydd
5.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac erthygl 11, pan fydd deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA neu yn unrhyw drydedd wlad arall wedi'i fewnforio i Gymru, rhaid i berson beidio â symud y deunydd hwnnw–
oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef .
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla o fewn Cymru os bydd ei symud yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 12.
Symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yng Nghymru neu mewn man arall yn y Gymuned Ewropeaidd neu yn y Swistir
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â symud i Gymru ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu–
oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef a'i fod yn bodloni gofynion Atodlen 2.
(2) Rhaid i berson sydd wrth ei waith yn masnachu, neu'n rhedeg busnes neu ymgymeriad arall beidio â symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gynhyrchir yng Nghymru o'r man cynhyrchu onid oes pasbort planhigion yn mynd gyda'r deunydd a'i fod yn bodloni gofynion Atodlen 2.
Cynhyrchwyr cofrestredig
7.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i berson sy'n cynhyrchu deunydd sy'n dueddol o gael y pla beidio â symud y deunydd hwnnw onid yw wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd yn unol ag erthyglau 15 ac 16 o'r prif Orchymyn neu baragraff (2) o'r erthygl hon.
(2) O ran cynhyrchydd deunydd sy'n dueddol o gael y pla nad yw wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd o dan y prif Orchymyn–
(3) Rhaid i unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd yn unol â pharagraff (1) roi hysbysiad o unrhyw achos a amheuir o Phytophthora ramorum neu o bresenoldeb Phytophthora ramorum a gadarnhawyd yn y man cynhyrchu y mae'r person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef.
(4) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i bersonau sy'n cynhyrchu deunydd sy'n dueddol o gael y pla neu sy'n symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla y maent wedi'i gynhyrchu os ydynt yn gwneud hynny heb fod wrth eu gwaith yn masnachu, neu'n rhedeg busnes neu ymgymeriad arall.
Pasbortau planhigion
8.
—(1) Mae erthyglau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys o ran pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan erthyglau 5 neu 6, fel sy'n briodol, o'r Gorchymyn hwn–
(b) erthygl 14(1), fel pe bai'r pasbort planhigion wedi'i ddyroddi o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla; ac
(c) erthygl 14(2) i (8).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae person sydd wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan erthygl 17 o'r prif Orchymyn i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion ar ran busnes hefyd wedi'i awdurdodi o dan y Gorchymyn hwn i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn ar ran y busnes hwnnw.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y gwl yn dda eu gosod, awdurdodi person nas awdurdodwyd o dan baragraff (2), i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn ar ran unrhyw fusnes, unigolyn neu gorff arall,–
(4) Caiff arolygydd dynnu'n ôl awdurdod a roddir i berson o dan baragraff (2) neu (3) i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn os yw'r arolygydd wedi'i fodloni nad yw'r person hwnnw'n bodloni darpariaethau'r Gorchymyn hwn o ran pasbortau planhigion.
Tystysgrifau ffytoiechydol
9.
—(1) Mae darpariaethau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys i dystysgrif ffytoiechydol sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn–
(2) Os traddodwyd, i drydedd wlad nad hi yw'r wlad y dyroddwyd y dystysgrif ynddi, lwyth o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y mae tystysgrif ffytoiechydol yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi'i dyroddi yn unol ag erthygl 4 ac os cafodd y deunydd ei storio, ei ailbacio neu ei rannu yn y drydedd wlad honno, rhaid i'r dystysgrif ffytoiechydol wreiddiol neu gopi ohoni sydd wedi'i ardystio fynd gyda'r deunydd ynghyd â thystysgrif ffytoiechydol ar gyfer anfon ymlaen a ddyroddir gan wasanaeth iechyd planhigion swyddogol y drydedd wlad honno.
Tystysgrifau ffytoiechydol neu basportau planhigion a ddyroddir y tu allan i Gymru
10.
—(1) Rhaid tybio bod unrhyw dystysgrif ffytoiechydol a ddyroddir at ddibenion y Gorchymyn hwn neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol trydedd wlad wedi'i dyroddi'n unol â gofynion perthnasol Atodlen 1.
(2) Rhaid tybio bod unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y dyroddwyd pasbort planhigion iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn neu ddeddfwriaeth gyfatebol yn y wlad lle y'i dyroddwyd gan neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol Aelod-wladwriaeth neu ran arall o'r Deyrnas Unedig neu Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yn bodloni gofynion Atodlen 2.
(3) Rhaid tybio bod unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y dyroddwyd iddo basbort planhigion y Swistir gan neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol yn y Swistir yn bodloni gofynion Atodlen 2.
Trwyddedau at ddibenion gwyddonol neu ddibenion ymchwil
11.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ddarpariaethau erthygl 30A o'r prif Orchymyn fod yn gymwys o ran mewnforio, symud a chadw Phytophthora ramorum , neu unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y mae Phytophthora ramorum yn bresennol arno, a fyddai fel arall wedi'i wahardd o dan y Gorchymyn hwn, fel pe bai ef neu'r deunydd yn bla planhigion y byddai ei fewnforio, ei symud neu ei gadw yn waharddedig, pe na bai am drwydded a roddwyd o dan y prif Orchymyn.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar gymhwyso erthygl 30A(2)(d) o'r prif Orchymyn o ran trwydded a roddwyd yn rhinwedd yr erthygl hon.
Camau y caiff arolygydd eu gwneud yn ofynnol
12.
—(1) Os bydd gan arolygydd sail resymol dros amau bod Phytophthora ramorum yn bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, at ddibenion gorfodi erthygl 3(b), drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i feddiannydd y fangre neu i berson arall â gofal am y fangre neu am y deunydd sy'n dueddol o gael y pla–
(2) Os oes gan arolygydd sail resymol dros gredu ei bod yn angenrheidiol at ddiben rhwystro lledaenu Phytophthora ramorum o unrhyw fangre neu sicrhau ei fod yn cael ei ddifa yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i feddiannydd unrhyw fangre arall neu i berson arall â gofal amdani osod y cyfryw waharddiadau a'i gwneud yn ofynnol bod y cyfryw gamau rhesymol, a bennir yn yr hysbysiad, ac sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol at y diben hwnnw, yn cael eu cymryd a hynny yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser rhesymol ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad.
(3) At ddiben cyflawni archwiliad o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla wrth iddo ddod i Gymru caiff arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i draddodai unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gafodd ei fewnforio neu sydd i'w fewnforio i Gymru, bennu mangre a'i gwneud yn ofynnol i'r deunydd hwnnw gael ei symud i'r fangre honno yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw gyfnod ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad.
Camau y caiff arolygydd eu cymryd
13.
—(1) Heb ragfarn yn erbyn y darpariaethau yn erthygl 12, ac yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd gan arolygydd sail resymol dros amau bod Phytophthora ramorum yn bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol o'i fwriad i feddiannydd y fangre neu i berson arall â gofal amdani, ac o ddangos os gofynnir iddo wneud hynny, arwydd o'i awdurdod, fynd i'r cyfryw fangre a chymryd camau naill ai yn y fangre honno neu yn rhywle arall–
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff arolygydd, o gyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, arwydd o'i awdurdod, ar bob adeg resymol ac at ddiben canfod a oes Phytophthora ramorum yn bodoli yn unrhyw fangre, neu at unrhyw un o ddibenion eraill y Gorchymyn hwn, gan gynnwys gwirio a gydymffurfir ag ef, fynd i unrhyw fangre–
(3) Ni chaniateir arfer y pŵ er i fynd i fangre, sef pŵer a roddir gan baragraffau (1) a (2), o ran mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd, ond yn unol â gwarant a roddir o dan erthygl 28 o'r prif Orchymyn.
(4) Caiff arolygydd, at ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), agor, awdurdodi unrhyw berson i agor ar ei ran neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog y cyfryw gynhwysydd, bwndel neu becyn arall neu i unrhyw berson â gofal drosto i agor, yn y cyfryw fodd ag y byddo'r arolygydd yn ei bennu, y cynhwysydd neu'r pecyn arall.
(5) Caiff arolygydd, i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol at ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), wahardd symud, yn gyfan gwbl neu i'r cyfryw raddau ag y byddo'r arolygydd yn datgan, unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla, unrhyw gynhwysydd, bwndel, pecyn arall neu wrthrych a all fod yn fodd i ledaenu Phytophthora ramorum yn ei farn ef.
(6) At ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd y fangre y cynhelir yr archwiliad ynddi neu i berson arall â gofal drosti ddarparu golau digonol a, phan fo'n briodol, fannau addas ar gyfer arolygiad.
(7) Pan gedwir unrhyw ddogfen neu gofnod o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(c) drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff arolygydd–
(8) Caiff arolygydd, pan fydd yn mynd i unrhyw fangre o dan baragraff (1) neu baragraff (2) o'r erthygl hon, fynd â'r cyfryw bersonau eraill gydag ef, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, a'r cyfryw gyfarpar a'r cyfryw gerbydau ag sy'n angenrheidiol at ddiben hwyluso arfer ei bwerau o dan y paragraffau hynny, ynghyd â'r cyfryw bersonau eraill, p'un ai yng nghwmni'r arolygydd neu beidio, a chânt, o ddangos os gofynnir iddynt wneud hynny arwydd o'u hawdurdod a roddwyd iddynt yn y cyswllt hwnnw gan arolygydd, aros ar y tir a mynd yn ôl i mewn o bryd i'w gilydd gyda'r cyfryw gyfarpar a'r cyfryw gerbydau a grybwyllir uchod, er mwyn cyflawni'r cyfryw waith at y dibenion uchod ac yn y cyfryw fodd ag y byddo'r arolygydd yn cyfarwyddo.
Amrywiol ddarpariaethau o ran hysbysiadau a methu cydymffurfio â hysbysiadau
14.
Mae darpariaethau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys i hysbysiad a ddyroddir o dan erthygl 12 neu erthygl 13, fel sy'n briodol, o'r Gorchymyn hwn–
Tramgwyddau
15.
—(1) Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, heb esgus rhesymol y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei brofi–
(2) Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, at ddibenion caffael yr awdurdod i ddyroddi pasbort planhigion o dan y Gorchymyn hwn–
(3) Mae person yn euog o dramgwydd os yw, a hynny'n anonest, yn dyroddi pasbort planhigion ffug o dan y Gorchymyn hwn.
(4) Bydd person yn euog o dramgwydd os yw, a hynny'n anonest, yn newid pasbort planhigion sydd ynghlwm wrth ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla neu'n ailddefnyddio pasbort planhigion ar gyfer deunydd pan nad y deunydd sy'n dueddol o gael y pla y dyroddwyd y pasbort planhigion ar ei gyfer ydyw.
(5) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr erthygl hon yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Dirymu
16.
Dirymir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Rhif 2) 2002[6].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 2006
Deunydd sy'n dueddol o gael y pla | Gofynion i'w bodloni o ran dyroddi unrhyw dystysgrif ffytoiechydol sy'n mynd gyda deunydd sy'n dueddol o gael y pla ("y dystysgrif") |
Acer macrophyllum Pursh. Aesculus californica Nutt. Aesculus. hippocastanum L Arbutus menziesii Pursch. Arbutus unedo L. Arctostaphylos spp. Adans Camellia spp. Castanea sativa Mill. Fagus sylvatica L. Hamamelis virginiana L. Heteromeles arbutifolia (Lindley) M. Roemer Kalmia latifolia L. Leucothoe fontanesiana (Steudel) Sleumer neu Lithocarpus densiflorus (H &A) Lonicera hispidula (Dougl.) Pieris spp. Pseudotsuga menziesii (Mirbel) Franco Quercus spp. L. Rhamnus californica (Esch) Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch. Sequoia sempervirens (D. Don) Endl. Syringa vulgaris L. Taxus spp. Trientalis latifolia (Hook) Umbellularia californica (Pursch.) Vaccinium vitis-idaea Britt. Vaccinium ovatum (Hook &Arn) Nutt. Viburnum spp. L. |
Naill ai–
neu
(ii) bod samplau cynrychioliadol wedi'u cymryd o'r planhigion cyn eu hanfon, a'u bod wedi'u profi a'u cael yn rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum yn y profion hyn, ac yn yr achos hwn rhaid i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol arnodi ar y dystysgrif o dan y pennawd "additional declaration"y datganiad "tested and found free from non- European isolates of Phytophthora ramorum". |
Deunydd sy'n dueddol o gael y pla | Gofynion i'w bodloni o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gynhyrchir yng Nghymru neu a symudir i Gymru o fan arall yn y Deyrnas Unedig, neu o Aelod-wladwriaeth arall, neu o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu o'r Swistir |
Camellia spp. Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch. Viburnum spp. L. |
Naill ai–
(b) o gynnal arolygiad swyddogol yn y man cynhyrchu, a hynny unwaith o leiaf ar adeg briodol pan fo'r deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn y broses o dyfu, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o Phytophthora ramorum , na chanfyddwyd arwyddion o Phytophthora ramorum ar y deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn ystod cylchred gyflawn olaf y llystyfiant; neu (c) os canfyddwyd arwyddion o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu, bod gweithdrefnau priodol y mae iddynt y nod o ddifa Phytophthora ramorum ac sy'n cynnwys y mesurau canlynol o leiaf wedi'u rhoi ar waith–
(ii) bod cadw deunydd sy'n dueddol o gael y pla o fewn radiws o ddeng metr i'r deunydd heintiedig a phob deunydd arall sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n dod o'r un lot â'r deunydd heintiedig wedi'u cadw yn y man cynhyrchu ac, yn ystod y tri mis yn dilyn canfod haint y cyfeirir ato yn is- baragraff (i), nad ydynt wedi bod yn ddarostyngedig i unrhyw driniaethau a fyddo'n celu'r symptomau o Phytophthora ramorum a'u bod wedi'u cael yn rhydd o Phytophthora ramorum ar ôl arolygiadau ychwanegol a gyflawnir ddwywaith o leiaf; a (iii) bod pob deunydd arall sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu wedi'i arolygu'n fynych yn sgil canfod haint y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) a'i gael o'i arolygu felly yn rhydd o Phytophthora ramorum . |
[2] Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn o eiddo'r Ysgrifennydd Gwladol wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] O.S. 1993/1283, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.back
[4] O.S. 1993/1320; a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245 a 1999/2126 a 2726, 2001/2343, 2002/1067, 2003/1157 a 2004/2365.(1)back
[5] Mae adran 49 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p. 2) yn darparu ar gyfer fforffedu nwyddau a gafodd eu mewnforio, eu glanio neu eu dadlwytho yn amhriodol. Mae adran 50 yn gwneud mewnforio, glanio neu ddadlwytho nwyddau gyda'r bwriad o osgoi'r gwaharddiad a geir yn yr erthygl hon yn dramgwydd.back