British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Troisannol) (Cymru) 2006 Rhif 1279 (Cy.124) (C.42)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061279w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1279 (Cy.124) (C.42)
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Troisannol) (Cymru) 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("Deddf 2000")[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "Deddf 1980" ("the 1980 Act") yw Deddf Priffyrdd 1980[2];
ystyr "Deddf 1981" ("the 1981 Act") yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981[3].
Y diwrnod penodedig
2.
11 Mai 2006 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf 2000 ddod i rym–
(a) adran 47 (ailddynodi ffyrdd a ddefnyddir yn llwybrau cyhoeddus);
(b) adran 48 (hawliau cilffyrdd cyfyngedig);
(c) adran 49 (darpariaethau atodol at adrannau 47 a 48);
(ch) adran 50 (hawliau preifat dros gilffyrdd cyfyngedig);
(d) adran 51 (diwygiadau sy'n ymwneud â mapiau a datganiadau diffiniol a chilffyrdd cyfyngedig) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r darpariaethau yn Atodlen 5 y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (dd) ac (e) isod;
(dd) yn Rhan I–
(i) paragraff 1 (dyletswydd i adolygu mapiau a datganiadau diffiniol yn barhaus);
(ii) paragraff 5 (dim arolygon nac adolygiadau pellach o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949);
(iii) paragraff 6 (effaith map a datganiad diffiniol);
(iv) paragraff 9 (dehongli Rhan III);
(e) Rhan II;
(f) adran 102 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau yn Atodlen 16 (diddymiadau sy'n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus a thraffig ffyrdd) y cyfeirir atynt ym mharagraffau (ff) i (ng) isod;
(ff) Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu adran 54 o Ddeddf 1981;
(g) Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu adran 56(5) o Ddeddf 1981;
(ng) Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu rhan o adran 57(1) o Ddeddf 1981;
(h) adran 57 (creu, cau a gwyro priffyrdd) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (j) isod;
(i) adran 69(2) o Ddeddf 2000 (diwygio adran 147(5) o Ddeddf 1980 sy'n ymwneud â'r dehongliad o gyfeiriadau at dir amaethyddol ac at dir yn cael ei ddefnyddio o'r newydd ar gyfer amaethyddiaeth at ddibenion adran 147 o Ddeddf 1980);
(j) is-baragraff (8) o baragraff 23 o Atodlen 6 i'r graddau nad yw'r is-baragraff hwnnw eisoes mewn grym.
Darpariaethau trosiannol
3.
—(1) Ni fydd dim yn adran 47 na 48 o Ddeddf 2000 yn effeithio ar weithredu adran 53 na 54 o Ddeddf 1981 nac ar Atodlen 14 na 15 iddi mewn perthynas â gorchymyn perthnasol neu gais am orchymyn perthnasol a wnaed cyn 11 Mai 2006.
(2) Ym mharagraff (1) mae i "gorchymyn perthnasol" yr ystyr a roddir i "relevant order" yn adran 48(10) o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol Rhan II o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("Deddf 2000") ar 11 Mai 2006 o ran Cymru.
Mae adrannau 47 i 50 o Ddeddf 2000 yn rhoi i'r cyhoedd hawliau cilffyrdd cyfyngedig o ran ‘ffyrdd a ddefnyddir yn llwybrau cyhoeddus' ("FfDdLlCau") sydd i'w hadnabod yn lle hynny fel cilffyrdd cyfyngedig. Hawliau cilffyrdd cyfyngedig yw hawl tramwy ar droed, hawl tramwy ar gefn ceffyl neu'n tywys ceffyl, a hawl tramwy ar gyfer cerbydau nad ydynt yn gerbydau a yrrir yn fecanyddol. Nid yw rhoi hawliau cilffyrdd cyfyngedig yn nacáu bodolaeth hawl tramwy ar gyfer cerbydau a yrrir yn fecanyddol nac unrhyw hawl arall (erthygl 2).
O dan adrannau 53 a 54 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ("Deddf 1981") mae'n ofynnol i awdurdodau arolygu wneud gorchmynion diwygio mapiau diffiniol. Mae Gorchmynion a wneir o dan adran 53 o Ddeddf 1981 yn ymwneud â dyletswydd awdurdod o dan yr adran honno i adolygu'r map a'r datganiad diffiniol yn barhaus, ac maent yn cael eu gwneud o ganlyniad i ddigwyddiadau penodol a nodir yn yr adran honno. Mae a wnelo un o'r digwyddiadau hynny ag awdurdod yn cael hyd i dystiolaeth sydd, wrth ei hystyried ynghyd â phob tystiolaeth berthnasol arall sydd ar gael, yn dangos y dylid newid y disgrifiad o briffordd benodol ar fap a datganiad diffiniol. Mae Gorchmynion a wneir o dan adran 54 o Ddeddf 1981 yn ymwneud â dyletswydd awdurdod o dan yr adran honno i ailddosbarthu FfDdLlCau yn llwybrau ceffylau, llwybrau troed neu gilffyrdd sy'n agored i bob traffig.
"Gorchmynion perthnasol" at ddibenion adran 48(9) o Ddeddf 2000 yw gorchmynion yn y dosbarth cyntaf sy'n ymwneud â FfDdLlCau a gorchmynion yn yr ail ddosbarth ac yn unol â gofynion yr adran honno nid oes dim yn adran 47 nac yn adran 48 o Ddeddf 2000 yn effeithio ar weithredu adran 53 nac adran 54 o Ddeddf 1981 nac ar Atodlen 14 neu 15 iddi mewn perthynas â'r gorchmynion hynny pan wnaed y gorchmynion hynny, neu pan wnaed cais am y gorchmynion hynny, cyn 11 Mai 2006 (erthygl 5).
Mae adran 54 o Ddeddf 1981 yn peidio â bod yn effeithiol ac o ganlyniad i hynny caiff awdurdodau arolygu eu rhyddhau o'r ddyletswydd i ailddosbarthu FfDdLlCau a osodir gan yr adran honno (erthygl 2).
Mae adran 51 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 5 iddi yn gwneud diwygiadau canlyniadol a pherthnasol i ddeddfwriaeth sylfaenol (erthygl 2).
Mae cychwyn adran 57 at ddibenion gwneud paragraff 23(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 2000 yn effeithiol yn rhoi pŵer i arolygwyr ddyfarnu costau o ran gwrandawiadau a gynhelir o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaethau ynghylch gwneud, cadarnhau, dilysrwydd a dyddiad gweithrediad gorchmynion penodol sy'n ymwneud â llwybrau troed a llwybrau ceffylau), ac mae'n cymhwyso adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) (gorchmynion sy'n ymwneud â chostau pan na fo gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) o ran gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol a gynhelir o dan y paragraff hwnnw. Daethpwyd â'r ddarpariaeth hon i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â gorchmynion i gau neu wyro priffyrdd penodol a'r priffyrdd hynny yn croesi tir a feddiennir at ddibenion ysgol gan erthygl 3 o Orchymyn Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1314 (Cy. 96) (C.58)) (erthygl 2).
Mae cychwyn adran 69(2) o Ddeddf 2000 yn estyn y diffiniad o "agricultural land" a geir yn adran 147 o Ddeddf 1980 at ddibenion pŵ er yr awdurdod cymwys o dan yr adran honno i awdurdodi codi camfeydd (sticlau), clwydi (giatiau, ietau), neu weithiau eraill mewn perthynas â thir o'r fath ac i dir o'r fath gael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol (erthygl 2).
Mae adran 102 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 16 iddi yn peri diddymiadau canlyniadol i ddarpariaethau penodol o Ddeddf 1981.
Y map a'r datganiad diffiniol ar gyfer unrhyw ardal yw'r cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy'r cyhoedd a baratoir ac a adolygir gan yr awdurdod arolygu ar gyfer yr ardal honno (y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal honno). Gellir edrych ar y map a'r datganiad diffiniol yn swyddfeydd y cyngor ar bob adeg resymol.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i rym yng Nghymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn–
Adran(nau) neu Atodlen(ni)
|
Y dyddiad cychwyn
|
Rhif O.S.
|
2 |
28 Mai 2005 |
2005/423 (Cy.41) (C.19) |
12 i 14 |
28 Mai 2005 |
2005/423 (Cy.41) (C.19) |
18, 20 a 46(1)(a) |
21 Mehefin 2004 |
2004/1489 (Cy.154) (C.59) |
46(1)(b) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) |
28 Mai 2005 |
2005/423 (Cy.41) (C.19) |
51 (yn rhannol) |
31 Mai 2005 |
2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
51 (yn rhannol) |
21 Tachwedd 2005 |
2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
57 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
57 (yn rhannol) |
31 Mai 2005 |
2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
57 (yn rhannol) |
15 Gorffennaf |
2005/1314 2005 (Cy.96) (C.58) |
57 (yn rhannol) |
21 Tachwedd 2005 |
2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
60 a 61 |
1 Tachwedd 2002 |
2002/2615 (Cy.253) (C.82) |
63 |
1 Ebrill 2004 |
2004/315 (Cy.33) (C.16) |
68 |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(1) |
1 Ebrill 2004 |
2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(2) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(3) |
1 Ebrill 2004 |
2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(4) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
72 |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Rhan IV (adrannau 82 i 93) (ac, yn unol â hynny, Atodlenni 13 i 15) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
96 |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
99 |
30 Ionawr 2001 |
2001/203 (Cy.9) (C.10) |
102 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
102 (yn rhannol) |
28 Mai 2005 |
2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 2 |
28 Mai 2005 |
2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6 |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 4, paragraffau 2 a 3 |
28 Mai 2005 |
2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 5, paragraff 2 |
21 Tachwedd 2005 |
2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 5, paragraffau 8, 10 ac 11 |
31 Mai 2005 |
2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraffau 1, 6 a 9(5) |
1 Ebrill 2004 |
2004/315 (Cy.33) (C.16) |
Atodlenni 6, paragraffau 2, 3, 9(1) i (3), 11, 14(1) a (4)(a), 20(a) i (c) a 24 |
31 Mai 2005 |
2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 5 (yn rhannol), paragraff 8 (y gweddill), paragraff 12 (yn rhannol), paragraffau 13(1) i (4) (yn rhannol), (5)(a) i (d) (yn rhannol) a (7) i (9) (yn rhannol), paragraff 14 (yn rhannol), paragraff 17 (yn rhannol), paragraff 18(a) (yn rhannol) a (b), paragraff 19 (yn rhannol), paragraff 20(d) ac (e), paragraff 21 (yn rhannol), paragraffau 23(1) (yn rhannol), (2)(a) a (b) (yn rhannol), (3)(a) a (b) (yn rhannol), (4)(a) a (b) (yn rhannol), (5) (yn rhannol), (7) (yn rhannol), (8) (yn rhannol), 9(a) a (9)(b) (yn rhannol) |
15 Gorffennaf 2005 |
2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 4, paragraff 15 (yn rhannol) |
21 Tachwedd 2005 |
2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraffau 18(a) (yn rhannol) a 19 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) |
21 Mehefin 2004 |
2004/1489 (Cy.154) (C.59) |
Atodlen 16, Rhan I (y gweddill) |
28 Mai 2005 |
2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhannau III i VI |
1 Mai 2001 |
2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o ran Lloegr–
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) 2001 (O.S. 2001/114) (C.4)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2833) (C.89)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) 2003 (O.S. 2003/272) (C.16)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) 2004 (O.S. 2004/292) (C.14)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) 2004 (O.S. 2004/2173) (C.93)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) 2004 (O.S. 2004/3088) (C.128)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) 2005 (O.S. 2005/827) (C.34)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8) 2005 (O.S. 2005/1901) (C.81)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9) 2005 (O.S. 2005/2459) (C.104)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 10) 2005 (O.S. 2005/2752) (C.112)
Notes:
[1]
2000 c.37.back
[2]
1980 c.66.back
[3]
1981 c.69.back
[4]
1998 c.38.back
English version
ISBN
0 11 091335 3
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
17 May 2006
|