British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 1262 (Cy.119)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061262w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1262 (Cy.119)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
3 Mai 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2006 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Awst 2006.
Diwygio Rheoliadau
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003[
3]fel a ganlyn.
(2) Yn adran 3, yn nhrefn briodol yr wyddor mewnosoder–
"
mae "cyfnod allweddol" i'w ddehongli yn unol â "key stage" yn adran 103 o Ddeddf Addysg 2002"[4].
(3) Yn lle rheoliad 5, rhodder–
"
5.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2006- 2007 a 2007- 2008 a gaiff ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i ddarparu unrhyw un neu fwy o'r ffurfiau canlynol o hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy'n addysgu a staff nad yw'n addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), sef–
(a) hyfforddiant mewn, neu mewn cysylltiad â, paratoi a gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio rhwng un cyfnod allweddol i'r un nesaf neu o ysgol gynradd i ysgol uwchradd (gan gynnwys cynlluniau o'r fath y cyfeirir atynt yn adran 198 o Ddeddf Addysg 2002 os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu'r ysgol, neu os yw'n disgwyl hynny, gymryd rhan mewn llunio cynllun o'r fath);
(b) hyfforddiant ynghylch newidiadau arfaethedig i Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru[5];
(c) hyfforddiant ynghylch cynigion y Cynulliad Cenedlaethol sydd yn ei gylchlythyr 37/2004 o dan y teitl "Llwybrau Dysgu 14- 19"[6]ar gyfer ymestyn ystod yr opsiynau dysgu sydd ar gael i bobl ifanc 14- 19 oed (gan gynnwys datblygu rôl Anogwr Dysgu i gynorthwyo gyda dysgu pobl ifanc, a datblygu Cynllun Llwybrau Dysgu cynhwysfawr).
(2) Bydd paragraff (1) yn effeithiol o ran dim mwy na phedair sesiwn ysgol ym mhob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys ar eu cyfer.
(3) Os bydd paragraff (1) yn gymwys o ran sesiwn ysgol, rhaid gweld y sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu'r ysgol."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Mai 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymysg pethau eraill) bod diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (heblaw ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol. Yr oedd rheoliad 5 o'r Rheoliadau hynny (rheoliad sydd bellach wedi darfod) yn darparu bod nifer benodedig o sesiynau ysgol yn y blynyddoedd ysgol 2003/4, 2004/5, 2005/6 a neilltuwyd ar gyfer ffurfiau penodedig o hyfforddi athrawon yn cael eu cyfrif yn sesiynau pan gyfarfu'r ysgol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn amnewid rheoliad 5 newydd sydd, yn fras, yn darparu bod hyd at bedair sesiwn ym mhob un o flynyddoedd ysgol 2006/7 a 2007/8 yn cyfrif fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol os cawsant eu neilltuo i ddarparu ffurfiau penodol o hyfforddiant. Yn fras, y ffurfiau o hyfforddiant sy'n cyfrif yw hyfforddiant ynghylch–
• paratoi a gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio rhwng cyfnodau allweddol a rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd (gan gynnwys, yn yr ail achos, y cynlluniau statudol y mae angen eu llunio o dan adran 198 o Ddeddf Addysg 2002),
• newidiadau sydd i ddod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, a
• cynlluniau'r Cynulliad ar gyfer ymestyn opsiynau dysgu ar gyfer pobl ifanc 14- 19 oed.
Notes:
[1]
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1).back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau"r Ysgrifennydd Gwladol i"r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2003/3231 (Cy.311).back
[4]
2002 p.32.back
[5]
Gweler Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002.back
[6]
Gellir gweld y cylchlythyr hwn yn www.learning.wales.gov.uk.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091332 9
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
9 May 2006
|