British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Bracla a Choety Uchaf) 2006 Rhif 1064 (Cy.110)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061064w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1064 (Cy.110)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Bracla a Choety Uchaf) 2006
|
Wedi'i wneud |
26th Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2) |
Gan fod Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[
1], dyddiedig Awst 2005 ar ei adolygiad o ran o'r ffin rhwng Cymunedau Bracla a Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghyd â chynigion a luniwyd ganddo arnynt;
A chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny heb newidiadau;
A chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent i'w harfer o ran Cymru[
2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a Chychwyn
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Bracla a Choety Uchaf) 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006, sef y diwrnod penodedig at ddibenion Rheoliadau 1976, ac eithrio fod y Gorchymyn hwn, at y dibenion a osodir yn Rheoliad 4 o Reoliadau 1976, yn dod i rym ar y diwrnod ar (tm)l iddo gael ei wneud.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "y map ffiniau" ("the boundary map") yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a nodwyd fel "Map Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Bracla a Choety Uchaf) 2006" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
ystyr "Rheoliadau 1976" ("the 1976 Regulations") yw Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd)[3];
Newid Ffiniau Cymunedau
3.
—(1) Gwahenir y rhannau hynny o Gymuned Coety Uchaf a ddangosir fel ardaloedd rhesog "a"ar y map ffiniau oddi wrth y gymuned honno ac maent yn ffurfio rhan o gymuned Bracla.
(2) Gwahenir y rhan honno o gymuned Bracla a ddangosir fel ardal resog "b" ar y map ffiniau oddi wrth y gymuned honno ac mae'n ffurfio rhan o gymuned Coety Uchaf.
Newidiadau i Ffiniau Wardiau
4.
—(1) Newidir ffiniau Ward Gymunedol Pendre a Ward Gymunedol Coety yng Nghymuned Coety Uchaf fel eu bod yn cyfateb â'r; ffin gymunedol newydd.
(2) Newidir y ffin rhwng Ward Gymunedol Pendre a Ward Gymunedol Coety yng nghymuned Coety Uchaf fel y dangosir ar y map ffiniau ac a nodir fel "Ffin y Ward Gymunedol Newydd."
Newidiadau Canlyniadol i Adrannau Etholiadol
5.
Newidir ffiniau adrannau etholaethol Pendre, Coety a Bracla i gyfateb â'r; ffin gymunedol newydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Sue Essex
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth a Gwasanaethau Cyhoeddus
26 Mawrth 2006
Click here to view Map
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. Effaith y cynigion hyn yw y bydd dwy ardal yn cael eu trosglwyddo o gymuned Coety Uchaf i gymuned Bracla ac y bydd un ardal yn cael ei throsglwyddo o gymuned Bracla i gymuned Coety Uchaf wedi i'r Gorchymyn hwn ddod i rym. Mae'r ffin rhwng Ward Gymunedol Pendre a Ward Gymunedol Coety yng nghymuned Coety Uchaf yn cael ei newid i gyfateb â'r; ffin gymunedol newydd fel y'i dangosir ar y map ffiniau ac, ymhellach, caiff y ffin rhwng Ward Gymunedol Pendre a Ward Gymunedol Coety ei newid fel y dangosir ar y map ffiniau.
Mae printiau o'r map ffiniau yn dangos y ffiniau newydd wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y Swyddfeydd Dinesig, Angel Street, Pen-y-bont ar Ogwr ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Mae Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthyglau 1(2) a 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynglyön ag effaith a gweithredu gorchmynion megis y rhain.
Mae yna newidiadau canlyniadol i adrannau etholaethol Pendre a Bracla i gyfateb â'r; ffin gymunedol newydd.
Notes:
[1]
1972 p.70.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.back
[3]
O.S. 1976/246 fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol ond nad yw'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r offeryn statudol hwn.back
English version
ISBN
0 11 091330 2
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
4 May 2006
|