British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 1051 (Cy.107)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061051w.html
[
New search]
[
Help]
STATUTORYOFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1051 (Cy.107)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
4 Ebrill 2006 | |
|
Yn dod i rym |
10 Ebrill 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2006.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" (
"the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[
3].
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau y mae eu hangen at anghenion personol
2.
Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[
4] yw £20.00 yr wythnos.
Dirymu
3.
Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005[
5] drwy hyn wedi'u dirymu.
Diwygio rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau
4.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r Prif Reoliadau (dehongli), yn y diffiniad o "liable relative", yn lle "or former spouse", rhodder ", former spouse, civil partner or former civil partner".
Diwygio rheoliad 20A o'r Prif Reoliadau
5.
Ym mharagraff (2) o reoliad 20A o'r Prif Reoliadau yn lle'r ffigur "£21,000" rhodder y ffigur "£21,500".
Diwygio rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau
6.
Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf - Cymru)—
(a) yn lle'r ffigur "£14,750" rhodder y ffigur "£16,000" yn y ddau le y mae'n ymddangos; a
(b) yn lle'r ffigur "£21,000" rhodder y ffigur "£21,500".
Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau
7.
Yn Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo incwm nad yw'n enillion)—
(a) Ym mharagraff 10A[6]—
(i) yn is-baragraffau (1)(a) a (3), ar (tm)l "spouse" mewnosoder "or civil partner", a
(ii) yn is-baragraff (1)(b), ar (tm)l "spouse's maintenance" mewnosoder "or his civil partner for that civil partner's maintenance";
(b) ym mharagraff 17[7]—
(i) yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—
"
(a) pursuant to regulations made under section 2(6)(b) or 3 of the Adoption and Children Act 2002[8]"; a
(ii) yn lle is-baragraff (2) rhodder—
"
(2) Any payment other than a payment to which sub-paragraph (1)(a) applies, made to the resident pursuant to regulations made under section 2(6)(b) or 3 of the Adoption and Children Act 2002.";
(c) ym mharagraff 28H
(i) yn is-baragraffau (1) a (2) yn lle'r ffigur "£4.85" rhodder y ffigur "£5.05" ym mhob man y mae'n ymddangos; a
(ii) yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur "£7.20" rhodder y ffigur "£7.50" ym mhob man y mae'n ymddangos.
Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau
8.
Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (cyfalaf i'w ddiystyru) yn lle paragraff 24 rhodder—
"
24.
Any payment made to the resident pursuant to regulations made under section 2(6)(b) or 3 of the Adoption and Children Act 2002.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis—Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Ebrill 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr, sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ei angen at eu hanghenion personol. O 10 Ebrill 2006 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £20.00 yr wythnos.
Yn ail, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau").
Mae'r Prif Reoliadau'n penderfynu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety a drefnwyd ar ei gyfer o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.
Mae'r diwygiadau yn darparu i bartneriaid sifil gael eu trin yn yr un modd ‰ phobl briod ac i daliadau cymorth mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 gael eu diystyru fel cyfalaf ac fel incwm.
Mae codiadau blynyddol hefyd yn y terfynau cyfalaf a'r diystyriad ar gyfer y rhai sy'n cael credyd pensiwn.
Notes:
[1]
1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o "the minister" a "prescribed" yn y drefn honno ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S.1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.back
[4]
1948 p.29.back
[5]
O.S. 2005/ 663 (Cy.53).back
[6]
Wedi'i fewnosod gan O.S. 1996/602 a'i ddiwygio gan O.S. 1997/485.back
[7]
Wedi'i ddiwygio gan O.S. 2003/2530.back
[8]
2002 c.38.back
[9]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11 091320 5
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
12 April 2006
|