British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 Rhif 979 (Cy.102)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060979w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 979 (Cy.102)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006
|
Wedi |
29 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 95, 96 a 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru[
2] sydd—
(a) yn gynghorau sir neu'n gynghorau bwrdeistref sirol;
(b) yn awdurdodau Parciau Cenedlaethol; ac
(c) yn awdurdodau tân ac achub a sefydlwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[3] neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.
Pŵer i fasnachu mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â swyddogaethau
2.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), awdurdodir awdurdod gwerth gorau i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol y mae wedi'i awdurdodi i'w wneud er mwyn cyflawni un o'i swyddogaethau cyffredin[4].
(2) Cyn arfer y pwŵer a roddir gan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod gwerth gorau—
(a) paratoi achos busnes i ategu arfer arfaethedig y pwŵer hwnnw; a
(b) cymeradwyo'r achos busnes hwnnw.
(3) Rhaid i awdurdod gwerth gorau adennill costau unrhyw lety, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall y mae'n ei gyflenwi i gwmni[5] yn unol ag unrhyw gytundeb neu drefniant i hwyluso'r broses o arfer y pwŵer a roddir gan baragraff (1).
(4) Yn yr erthygl hon ystyr "achos busnes" yw datganiad cynhwysfawr ynghylch—
(a) amcanion y busnes;
(b) y buddsoddiad a'r adnoddau eraill sy'n ofynnol i sicrhau'r amcanion hynny;
(c) unrhyw risgiau y gallai'r busnes eu hwynebu a pha mor sylweddol yw'r risgiau hynny; ac
(ch) canlyniadau ariannol disgwyliedig y busnes, ynghyd ag unrhyw ddeilliannau perthnasol eraill y disgwylir i'r busnes eu sicrhau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sy'n gynghorau sir, yn gynghorau bwrdeistref sirol, yn awdurdodau Parciau Cenedlaethol neu'n awdurdodau tân ac achub.
Mae erthygl 2 yn awdurdodi awdurdod gwerth gorau y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo i fasnachu ym maes unrhyw un o'i swyddogaethau cyffredin yn ddarostyngedig i amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i achos busnes gael ei baratoi a'i gymeradwyo ymlaen llaw, ac i unrhyw gostau a dynnir gan yr awdurdod gael eu hadennill, sef costau o ran unrhyw beth y mae'n ei gyflenwi, gan gynnwys llety, nwyddau, gwasanaethau neu staff, i gwmni y mae'r pŵer masnachu yn cael ei arfer drwyddo. O dan adran 95(4) o'r Ddeddf, rhaid i'r pŵer i fasnachu gael ei arfer drwy gwmni.
Notes:
[1]
2003 p.26.back
[2]
Gweler adran 124 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gael y diffiniad o "best value authority".back
[3]
2004 p.21.back
[4]
Gweler adran 95(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gael ystyr "ordinary functions".back
[5]
Gweler adran 95(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gael ystyr "company".back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091314 0
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
10 April 2006
|