British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2006 Rhif 950 (Cy.99)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060950w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 950 (Cy.99)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
28 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985[
1] sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 31 Mawrth 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Corff penodedig
2.
Pennir bod Church House Trust plc (Cwmni Rhif 0980698) yn sefydliad benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon)[
3].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu Church House Trust plc (Cwmni Rhif 0980698) yn sefydliad benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu) yn ychwanegol at y cyrff a bennir yn yr adran honno neu mewn Gorchmynion blaenorol o dan yr adran honno.
Mae adran 156 yn darparu bod yr ymrwymiad i ad-dalu disgownt a all godi o dan gyfamod gan y tenant sy'n ofynnol gan adran 155 o Ddeddf 1985 yn ffurfio arwystl cyfreithiol ar y tŷ annedd ond bod gan arwystl cyfreithiol sy'n gwarantu swm a fenthycir i'r tenant gan sefydliad benthyca cymeradwy er mwyn i'r tenant allu arfer ei hawl i brynu flaenoriaeth drosto.
Mae cyrff o'r fath hefyd yn dod yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig).
Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A o'r Ddeddf honno at achosion lle diogelir hawl tenant i brynu a chan adran 17 o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle mae gan denant hawl i gaffael o dan adran 16 o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff penodedig yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion yr hawliau hynny.
Notes:
[1]
1985 p.68; cafodd adran 156(4) ei diwygio gan baragraff 106 o Atodlen 17 i Ddeddf Tai 1988 (p.50), gan baragraff 22(1)(c) o Atodlen 18 a Rhan XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 (p.52), gan adran 140 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) a pharagraff 5 o Atodlen 16 iddi a chan Orchymyn Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 (Diwygiadau Canlyniadol a Dirymiadau) 2001 (O.S. 2001/3649).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
Cafodd adran 156 ei diwygio hefyd gan adran 24(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63) a pharagraffau 1(2) a (5) o Atodlen 5 iddi, gan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Prydlesoedd, Tai a Datblygiad Trefol 1993 (p.28) a chan adran 135 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p.9) ac Atodlen 13 iddi.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091312 4
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
7 April 2006
|