British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006 Rhif 878 (Cy.83)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060878w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 878 (Cy.83)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
21 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 12(2), 15(3), 16(3), 22(7) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1] ac adrannau 79F, 87D ,104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 7 o Atodlen 9A iddi[
2] ac adran 94(6) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[
3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Plant 1989;
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000; ac
ystyr "Deddf 2003" ("the 2003 Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2.
Dirymir drwy hyn y canlynol—
(a) Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002[4];
(b) rheoliad 35 o Reoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004[5];
(c) rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004[6];
(ch) rheoliad 28 o Reoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003[7];
(dd) rheoliad 51 o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003[8];
(e) rheoliad 33 o Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003[9];
(f) rheoliad 6 o Reoliadau Arolygu Ysgolion a Cholegau Preswyl (Pwerau a Ffioedd) (Cymru) 2002[10];
(ff) rheoliad 4 o Reoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002[11].
(g) rheoliad 14(a) o Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[12].
Ffioedd rhagnodedig at ddibenion Deddf 2000
3.
—(1) At ddibenion adran 12(2), 16(3), 22(7)(i) o Ddeddf 2000 (ceisiadau am gofrestru), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.
(2) At ddibenion adran 15(3) o Ddeddf 2000 (ceisiadau gan bersonau cofrestredig), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.
Y ffi ragnodedig at ddibenion Deddf 1989
4.
—(1) At ddibenion adran 79F(1) a (2) o Ddeddf 1989 (caniatáu neu wrthod cofrestru), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.
(2) At ddibenion paragraff 7 o Atodlen 9A i Ddeddf 1989 (ffioedd blynyddol), dim yw'r ffi ragnodedig.
Ffi benodedig at ddibenion Deddf 2003
5.
At ddibenion adran 94(7) o Ddeddf 2003 (adolygiadau ac ymchwiliadau), dim yw'r ffi benodedig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r holl ofynion o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 i ffioedd gael eu talu am gofrestru gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad"). Maent yn dileu hefyd y gofyniad i ffioedd blynyddol gael eu talu am arolygiadau gan y Cynulliad o wasanaethau mabwysiadu a maethu awdurdodau lleol o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymdeithasol a Safonau) 2003, ac arolygiadau o ysgolion a cholegau byrddio o dan Ddeddf Plant 1989. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu methiant gan ddarparwyr o ran talu ffioedd fel sail dros ddileu cofrestru.
Notes:
[1]
2000 p.14. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r "appropriate Minister": gweler y diffiniad o "regulations" yn adran 121(1) o Ddeddf 2000. Ystyr "appropriate Minister", o ran Cymru, yw "the Assembly"; ystyr "the Assembly" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler adran 5(1)(b) o Ddeddf 2000. Gweler adran 121(1) o Ddeddf 2000 i gael y diffiniad o "prescribed". Yn rhinwedd O.S. 2004/1756 (Cy. 188), mae'r pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan II o Ddeddf 2000 yn arferadwy mewn perthynas â chynlluniau lleoli oedolion.back
[2]
1989 p.41. Gweler adran 79B o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o "regulations" ac adran 105 i gael y diffiniad o "prescribed". Mae'r pŵer o dan adran 87D wedi'i roi i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd Erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), y cofnod ynglŷn â Deddf 1989 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw ac adran 120(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, mae swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 87D o Ddeddf 1989 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru.back
[3]
Diddymwyd y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adran 51 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 gan Ran 2 o Atodlen 14 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ac a ddisodlwyd gan adran 94 o Ddeddf 2003.back
[4]
O.S. 2002/921 (Cy.109). Mae'r offerynnau diwygio perthnasol wedi'u rhestru yn nhroednodiadau (2) i (9) isod.back
[5]
O.S. 2004/1756 (Cy.188).back
[6]
O.S. 2004/219 (Cy.23).back
[7]
O.S. 2003/2527 (Cy.242).back
[8]
O.S. 2003/237 (Cy.35).back
[9]
O.S. 2003/781 (Cy.92).back
[10]
O.S. 2002/3161 (Cy.296).back
[11]
O.S. 2002/2935 (Cy.277).back
[12]
O.S. 2002/919 (Cy.107).back
[13]
1998 c.38.back
English version
ISBN
0 11 091304 3
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
29 March 2006
|