British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006 Rhif 768 (Cy.75) (C.18)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060768w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 768 (Cy.75) (C.18)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
15 Mawrth 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(1)(b), (2) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 ("Deddf 2005")[
1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Deddf 1990" yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[
2].
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar 16 Mawrth 2006
2.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar 16 Mawrth 2006—
(a) adran 47 (diddymu'r gofyniad i gontractio swyddogaethau gwaredu gwastraff allan);
(b) adran 53 (y pŵer i awdurdodau casglu gwastraff ddefnyddio eu pwerau ymchwilio o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ymchwilio i ddigwyddiadau neu dramgwyddau o ran cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 1990);
(c) yn Atodlen 4 (mân ddiwygiad a diwygiadau canlyniadol), paragraff 4; ac
(ch) yn Rhan 4 (gwastraff) o Atodlen 5, y diddymiadau i Ddeddf 1990[b] ac eithrio'r diddymiad i adran 33 o'r Ddeddf honno.
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym at ddibenion penodol ar 16 Mawrth 2006
3.
Daw cymaint o'r darpariaethau canlynol sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'n gosod dyletswydd arno i wneud neu ddarparu drwy reoliadau neu orchmynion, neu roi cyfarwyddiadau neu roi neu ddyroddi canllawiau, neu ddarparu o ran arfer unrhyw bŵer o'r fath neu gyflawni unrhyw ddyletswydd o'r fath, i rym ar 16 Mawrth 2006—
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym
4.
Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym pan ddaw Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 104 (diwygio trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau adfer a gyflwynir o dan adran 78E o Ddeddf 1990); a
(b) Rhan 10 o Atodlen 5 (diddymiadau).
Arbedion
5.
—(1) Serch eu diddymu gan adran 47 o Ddeddf 2005 a Rhan 4 o Atodlen 5 iddi, mae adran 32 (fel y'i darllenir gydag adran 30(5)) o Ddeddf 1990 a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi yn parhau i gael effaith at ddibenion rheoleiddio—
(a) gweithgareddau cwmni a ffurfiwyd gan awdurdod gwaredu gwastraff neu y bu gan awdurdod gwaredu gwastraff ran yn ei ffurfio at ddibenion casglu gwastraff, neu waredu, cadw neu drin gwastraff, pan fydd y cwmni'n parhau o dan reolaeth yr awdurdod gwaredu gwastraff ar 16 Mawrth 2006; a
(b) swyddogaethau awdurdod gwaredu gwastraff mewn cysylltiad â chwmni o'r fath cyhyd ag y pery'r cwmni o dan reolaeth yr awdurdod.
(2) Ym mharagraff (1), mae i "awdurdod gwaredu gwastraff" yr ystyr a roddir i "waste disposal authority" yn adran 30(2) o Ddeddf 1990 ac mae i "rheolaeth" yr ystyr a roddir i "control" yn adran 32(11) o'r Ddeddf honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 ("Deddf 2005") ar 16 Mawrth 2006—
(a) adran 47 (ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r adran honno, Rhan 4 o Atodlen 5);
(b) adran 53;
(c) paragraff 4 o Atodlen 4; ac
(ch) darpariaethau eraill i'r graddau y maent yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i wneud, rhoi neu ddyroddi is-ddeddfwriaeth.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym, ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym, adran 104 o Ddeddf 2005 (i'r graddau nas daw i rym drwy'r Gorchymyn hwn ar 16 Mawrth 2006), a Rhan 10 o Atodlen 5 iddi.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn—
(a) yn diddymu adran 32 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac Atodlen 2 iddi, a fydd yn dileu'r gofyniad i awdurdodau lleol i gontractio allan eu swyddogaethau gwaredu gwastraff (adran 47 o Ddeddf 2005);
(b) yn gwneud rhai diddymiadau canlyniadol i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (Rhan 4 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005);
(c) yn rhoi effaith i fân ddiwygiad i adran 60(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 o ran ymyriad â safleoedd gwastraff a daliedyddion gwastraff (paragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005)[a]; ac
(ch) yn galluogi awdurdodau casglu gwastraff i ddefnyddio'u pwerau ymchwilio o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ymchwilio i ddigwyddiadau neu dramgwyddau o ran cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (adran 53 o Ddeddf 2005).
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau Deddf 2005 i'r graddau y maent yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud, rhoi neu ddyroddi is-ddeddfwriaeth (neu i wneud darpariaeth drwy ddulliau o'r fath).
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 104 o Ddeddf 2005 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym yn rhinwedd erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn). Mae adran 104 yn diwygio'r trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau adfer a gyflwynir o dan adran 78E o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, ac yn dwyn i rym y diddymiad cysylltiedig yn Rhan 10 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005.
Mae erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud arbediad ynglŷn â chychwyn adran 47 o Ddeddf 2005.
Notes:
[1]
2005 p.16.back
[2]
1990 p.43.back
[3]
1998 p.38.back
English version
[a]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 2, fersiwn Gymraeg, yn y Nodyn Esboniadol, yr ail baragraff (c), llinell pedwar; dylai "i Deddf 2005); ac" ddarllen fel "i Ddeddf 2005); ac";
back
[b]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 3, fersiwn Gymraeg, erthygl 2(ch); dylai "y diddymiad i Ddeddf 1990" ddarllen fel "y diddymiadau i Ddeddf 1990";
back
[c]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 2(b), llinell chwech; dylai "Part 2 of the 1990 Act;" ddarllen fel "Part 2 of the 1990 Act);";
[d]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 2(c), llinell dau; dylai "amendments);" ddarllen fel "amendments),"; a
[e]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 4, fersiwn Saesneg; dylai erthygl 4 ddarllen fel, "The following provisions of 2005 Act come into force on the coming into force of the Contaminated Land (Wales) Regulations 2006-".
ISBN
0 11 091300 0
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
24 March 2006
|