British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 767 (Cy.74)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060767w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 767 (Cy.74)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi |
14 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym |
16 Mawrth 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[
2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2006; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 16 Mawrth 2006.
Diwygiadau i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005
2.
—(1) Diwygier Rhan VIII o Atodlen 1 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005 [
3] yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Ar ôl paragraff 3 mewnosoder—
"
3A.
Penderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC ynghylch mesurau gwarchod penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn mewn trydydd gwledydd penodol ar gyfer mewnforio adar dof (OJ Rhif L285, 28.10.2005, t.60) (i'r graddau y mae'n ymwneud ‰ chynhyrchion sy'n deillio o'r adar hynny), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/862/EC (OJ Rhif L317, 3.12.2005, t.19).".
(3) Yn lle paragraff 18 rhodder—
"
18.
Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nas bwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 416/2005 (OJ Rhif . L66, 12.3.2005, t.10), ac fel y'i darllenir gyda Phenderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/862/EC (OJ Rhif L317, 3.12.2005, t.19 ).".
Dirymu
3.
Dirymer Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2005[4]
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mawrth 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan VIII o Atodlen 1 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/666) ("Rheoliadau 2005"). Mae Rheoliadau 2005 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ Rhif L24, 30.1.98, t.9).
Diwygir Rhan VIII o Atodlen 1 er mwyn rhoi effaith i'r cyfyngiadau ar fewnforio cynhyrchion sy'n deillio o adar a geir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC ynghylch mesurau gwarchod penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn mewn trydydd gwledydd penodol ar gyfer mewnforio adar dof (OJ Rhif L285, 28.10.2005, t.60) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/862/EC (OJ Rhif L317, 3.12.2005, t.19). Mewnosodir cyfeiriadau at Benderfyniad y Comisiwn Rhif 2005/760/EC (fel y'i diwygiwyd) ym mharagraffau 3A ac 18 o Ran VIII o Atodlen 1.
Mae Atodlen 1 i Reoliadau 2005 yn rhestru offerynnau'r Gymuned sy'n gosod amodau ar gyfer mewnforio cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned. Mae Rheoliad 15 o Reoliadau 2005 yn gwahardd dod â chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio hyn i Gymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/3395) (Cy.271).
Ni chafodd Arfarniad Rheoliadol ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
S.I. 2005/2766.back
[2]
1972 c.68.back
[3]
S.I. 2005/666 (W.56).back
[4]
O.S. 2005/3395 (Cy.271).back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091313 2
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
10 April 2006
|