British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 764 (Cy.73)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060764w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 764 (Cy.73)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
14 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym |
20 Mawrth 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 76(4) a 140(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[
1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], ac wedi iddo ymgynghori â'r cynrychiolwyr llywodraeth leol hynny sydd yn ei farn ef yn briodol, yn unol ag adran 76(5) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 20 Mawrth 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau
2.
Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, mae rheoliad 3 o Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000[
3], wedi'i ddiwygio —
(a) drwy hepgor paragraffau (e) ac (f); a
(b) drwy ychwanegu, ar y diwedd,—
"
(k) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mawrth 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 84E o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu i grant cynnal refeniw gael fod yn daladwy i gyrff penodedig. Mae corff penodedig yn unrhyw gorff sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer awdurdodau lleol ac a bennir mewn rheoliadau.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000 drwy dynnu'r Public Private Partnerships Programme Limited a Syniad o'r rhestr o gyrff penodedig ac ychwanegu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'r diwygiadau hyn yn effeithiol am y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny.
Notes:
[1]
1988 p.41.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2000/718 (Cy.25) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/706 (Cy.85).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091299 3
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
21 March 2006
|