British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach (Dirymu) (Cymru) 2006 Rhif 621 (Cy.70)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060621w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 621 (Cy.70)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach (Dirymu) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
7 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym |
6 Ebrill 2006 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a Chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach (Dirymu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2006.
Dirymu
2.
—(1) Mae'r Rheoliadau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn (sy'n ymwneud â chorfforaethau addysg bellach yng Nghymru) drwy hyn wedi'u dirymu.
(2) Mae'r Rheoliadau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn wedi'u dirymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mawrth 2006
YR ATODLENRheoliad 2
Rhan
1
Y Rheoliadau a Ddirymwyd
Rheoliadau Coleg Menai (Llywodraethu) 1994 (O.S. 1994/1450)
Rhan
2
Y Rheoliadau sy'n cael eu Dirymu mewn perthynas â Chymru
Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Chweched Dosbarth) 1992 (O.S. 1992/1957)
Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/1963)
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r Rheoliadau a restrir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen sy'n pennu offerynnau ac erthyglau llywodraethu cychwynnol ar gyfer corfforaethau addysg bellach. Disodlwyd pob un o'r offerynnau a'r erthyglau llywodraethu cychwynnol ar gyfer corfforaethau addysg bellach yng Nghymru gan orchymyn o dan adran 22 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (fel y'i diwygiwyd gan baragraff 23 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21)). O ganlyniad, mae'r Rheoliadau a restrir yn Rhan 1 o'r Atodlen yn peidio â bod yn effeithiol. Dirymwyd y Rheoliadau a restrir yn Rhan 2 o'r Atodlen mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2002/1094 ac maent bellach yn peidio â bod yn effeithiol o ran Cymru.
Notes:
[1]
1992 p.13. Diwygiwyd adran 21(1) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, Paragraff 35 ac Atodlen 31.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091294 2
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
14 March 2006
|