Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 617 (Cy.69)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060617w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 617 (Cy.69)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
7 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym |
10 Mawrth 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 74A, 77(4), 78(6) ac 84 o Ddeddf Amaeth 1970[
1] a chan ei fod wedi ei ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[
3] a mesurau ym maes milfeddygaeth er diogelu iechyd y cyhoedd[
4].
Bu ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu fel sy'n briodol yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[
5].
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2006, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 10 Mawrth 2006.
Diwygiadau i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006
2.
—(1) Yn Atodlen 5 (terfynau a ragnodwyd ar gyfer sylweddau annymunol) i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006[
6], diwygir Pennod A yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Mewn perthynas â chofnodion ynghylch fflworin—
(a) yn lle'r ymadrodd "Mineral mixtures for cattle, sheep and goats" yng ngholofn 2 rhodder yr ymadrodd "Complementary feeding stuffs containing 4% phosphorous or less" a chyferbyn â'r cofnod hwnnw, yng ngholofn 3 yn lle'r ffigur "2000" rhodder "500";
(b) yn lle'r ymadrodd "Other complementary feeding stuffs" yng ngholofn 2 rhodder yr ymadrodd "Complementary feeding stuffs containing more than 4% phosphorous" a chyferbyn â'r cofnod hwnnw, yng ngholofn 3 yn lle'r ymadrodd "(fluorine content per percentage point phosphorous in the feeding stuff)" rhodder "per 1% phosphorous".
(3) Mewn perthynas â'r cofnodion ynghylch plwm, yn lle'r ymadrodd "grass meal, lucerne meal or clover meal" yng ngholofn 2 rhodder yr ymadrodd "green fodder (including products such as hay, silage, fresh grass, etc)".
(4) Mewn perthynas â'r cofnodion ynghylch mercwri, ar ôl y cofnod "— feed materials produced by the processing of fish or other marine animals" yng ngholofn 2 mewnosoder y cofnod "— calcium carbonate" a chyferbyn â'r cofnod hwnnw, yng ngholofn 3 mewnosoder y ffigur "0.3".
Diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999
3.
—(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999[7] o ran Cymru yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli), ar ddiwedd y diffiniad o Gyfarwyddeb 2002/70/EC ychwaneger yr ymadrodd "as amended by Commission Directive 2005/7/EC[8]".
(3) Yn rheoliad 6, yn lle paragraff (4) rhodder y canlynol—
"
(4) Where a sample of a feeding stuff is to be analysed pursuant to—
(a) section 75(1) (sample analysed at the request of the purchaser) of the Act, or
(b) section 78(1) (further analysis by Government chemist) of the Act in so far as that sub-section does not relate to official controls,
and neither paragraph (1) nor (3) applies, the analysis shall be carried out in the like manner as that prescribed by Article 11(1)(a) or as appropriate (b) of Regulation (EC) No 882/2004 of the European Parliament and of the Council on official controls performed to ensure verification of compliance with feed and food law, animal health and animal welfare rules[9].".
(4) Yn Atodlen 2 Rhan I (darpariaethau cyffredinol) ychwaneger y paragraff canlynol—
"
4.
Assessment of compliance in analysis for undesirable substances
(a) Subject to paragraph (c), in the case of analysis to detect the presence of one or more of the undesirable substances listed in Schedule 5 to the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2006 ("the Schedule"), a feeding stuff which has been sampled and analysed in accordance with these Regulations does not comply with the relevant prescribed limit or limits set out in the Schedule if, after taking into account expanded measurement uncertainty and correction for recovery in accordance with paragraph (b), the analytical result indicates the presence of an undesirable substance in excess of the maximum content specified for that substance in column 3 of the Schedule.
(b) In assessing compliance for the purposes of paragraph (a), the analysed concentration must be corrected for recovery and the expanded measurement uncertainty subtracted from the analytical result.
(c) The procedure in paragraphs (a) and (b) is not applicable in the case of microscopic analysis or in any other case where the method of analysis makes it impossible to estimate measurement uncertainty and correction for recovery.".
(5) Mewn perthynas â'r cofnodion sy'n ymwneud â deuocsinau a PCBs o fath deuocsin yn Atodiad I i Ran II (dulliau dadansoddi) o Atodlen 2—
(a) yng ngholofn 2 ar ôl yr ymadrodd "Annex II to that Directive" ychwaneger "(in relation to point 2 of Annex I as replaced by, and in relation to point 2 of Annex II as amended by, Directive 2005/7/EC)";
(b) yng ngholofn 3 gyferbyn â'r ymadrodd a ychwanegir gan is-baragraff (a) mewnosoder "OJ No. L27, 29.1.2005, p.41".
(6) Yn Atodlen 3 Rhan II (nodiadau'n ymwneud â llenwi tystysgrif) yn nodyn (8) ychwaneger yr is-baragraff canlynol—
"
(d) in cases where paragraph 4 of Part I of Schedule 2 is applicable, the result—
(i) corrected or uncorrected for recovery, the manner of reporting and the level of recovery being indicated;
(ii) as "x ± U", where x is the analytical result and U is the expanded measurement uncertainty, using a coverage factor of 2 to give a level of confidence of approximately 95% .".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mawrth 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006") a Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 ("Rheoliadau 1999").
2.
Mae'r Rheoliadau'n rhoi ar waith ddeddfwriaeth ganlynol y Gymuned Ewropeaidd—
(a) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/6/EC (OJ Rhif L24, 27.1.2005, t.33) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 71/250/EEC o ran llunio adroddiad ar ganlyniadau dadansoddol a'u dehongli fel sy'n ofynnol o dan Gyfarwyddeb 2002/32/EC;
(b) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/7/EC (OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.41) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/70/EC sy'n gosod gofynion ar gyfer penderfynu ar lefelau deuocsinau a PCBs o fath deuocsin mewn bwydydd anifeiliaid; ac
(c) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/8/EC (OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.44) sy'n diwygio Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid.
3.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 1999 i adlewyrchu'r ffaith bod Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau gwirio y cydymffurfir â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, ac â rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) yn gwneud yn effeithiol, o 1.1.2006 ymlaen, y rhwymedigaeth gyffredinol sydd ar Aelod-wladwriaethau ac a gafwyd gynt yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC, i sicrhau bod gwaith samplu a dadansoddi, sy'n cael ei wneud yn unol â rheolaethau swyddogol, yn dilyn dulliau Cymunedol a ragnodir.
4.
Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/8/EC drwy ddiwygio Atodlen 5 i Reoliadau 2006 mewn perthynas â chofnodion penodol ynghylch plwm, fflworin a mercwri.
5.
Yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn—
(a) mae paragraffau (2) a (5) yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/7/EC o ran trosi drwy gyfeirio at y diwygiadau a wnaed gan y Gyfarwyddeb honno i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC;
(b) mae paragraff (3) yn gwneud y diwygiadau canlyniadol y cyfeirir atynt ym mharagraff 3 uchod;
(c) mae paragraffau (4) a (6) yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/6/EC drwy gyflwyno gofynion newydd o ran ansicrwydd ynghylch mesuriad estynedig a chywiro er mwyn adfer pan ddadansoddir bwyd anifeiliaid i ganfod lefelau'r sylweddau annymunol a phan lunnir adroddiad ar y dadansoddiad.
6.
Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir darpariaethau gweithredol Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2005/6, 2005/7 a 2005/8 yn gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Llawr 11, Wood Street, Caerdydd CF11 1EW.
Notes:
[1]
1970 p.40. Trosglwyddwyd swyddogaethau "yr Ysgrifennydd Gwladol", i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p.68), Atodlen 4, paragraff 6back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 2005/2766.back
[4]
O.S. 2003/1246.back
[5]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back
[6]
O.S. 2006/116 (Cy.14).back
[7]
O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd eisoes gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297), O.S. 2004 /1749 (Cy.186) ac O.S. 2006/116 (Cy.14).back
[8]
OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.41.back
[9]
OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1.back
[10]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091296 9
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
14 March 2006
|