British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2006 Rhif 615 (Cy.68)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060615w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 615 (Cy.68)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
7 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2), 6(3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "cynllun gwella" ("improvement plan") yw cynllun perfformiad gwerth gorau o fewn ystyr "best value performance plan" yn adran 6(1) o'r Ddeddf; ac
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf.
Y dyddiad ar gyfer cyhoeddi cynlluniau gwella
2.
Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella am flwyddyn ariannol erbyn 31 Hydref o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
Y dyddiad ar gyfer anfon copïau o adroddiadau archwilwyr
3.
Rhaid i gopïau o adroddiad archwilydd ynghylch cynllun gwella gael ei anfon yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf erbyn 30 Tachwedd o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
Dirymu
4.
Dirymir y gorchmynion canlynol—
(a) Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002[2]; a
(b) Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) (Diwygio) 2004[3].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mawrth 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i lunio cynllun perfformiad gwerth gorau (a elwir "cynllun gwella" yn y Gorchymyn hwn) ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i gynllun gwella awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol gael ei gyhoeddi a'r dyddiad erbyn pryd y mae copïau o adroddiad archwilydd ynglŷn â'r cynllun i'w hanfon i'r awdurdod, at Archwilydd Cyffredinol Cymru ac, os bydd angen, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002 ac nid yw'n gwneud unrhyw ddarpariaeth yn ei le ynghylch y cyfnod y dylai awdurdod gwerth gorau adolygu pob un o'i swyddogaethau ynddo.
Notes:
[1]
1999 p.27.back
[2]
O.S. 2002/886 (Cy. 101).back
[3]
O.S. 2004/1575 (Cy. 161).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091295 0
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
14 March 2006
|