British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006 Rhif 344 (Cy.41)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060344w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 344 (Cy.41)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
14 Chwefror 2006 | |
|
Yn dod i rym |
15 Chwefror 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2), o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[
1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[
2].
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1)[
a] Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 15 Chwefror 2006.
(2)[
b] Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006.
(4)[
c] Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Deddf 1992" ("
the 1992 Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)
2.
Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel petai—
(a) yn is-adran (3)(a)[3] y geiriau "or relevant special grant" wedi'u hepgor; a
(b) yr is-adran ganlynol wedi'i mewnosod ar ôl is-adran (12)—
"
(12A) In this section and section 33 below—
(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2006-2007 (Final Settlement — Councils) published by the National Assembly for Wales pursuant to section 84G(4) of the Local Government Finance Act 1988[4] 14 December 2005; a
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.".
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (awdurdodau bilio)
3.
Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992[5] yn effeithiol fel petai'r geiriau "or relevant special grant" yn eitem P wedi'u hepgor.
Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)
4.
Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel petai—
"
(6E) In this section and section 44 below—
(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2006-2007 (Final Settlement — Police Authorities) published by the National Assembly for Wales pursuant to section 84G(4) of the Local Government Finance Act 1988 on 31 January 2006; and
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.
(6F) In this section and section 44 below, "floor funding" means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State, in addition to the police grant referred to in subsection (6C).".
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (prif awdurdodau praeseptio)
5.
Mae adran 44 o Ddeddf 1992[7] yn effeithiol fel petai yn is-adran (1) yn eitem P—
(a) y geiriau "relevant special grant" wedi'u hepgor; a
(b) y geiriau "floor funding" wedi'u mewnosod o flaen "or police grant;".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn gosod, yn y drefn honno, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn gosod, yn y drefn honno, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.
Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at "relevant special grant" o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 gan nad oes unrhyw grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol am y flwyddyn ariannol honno.
Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod, ar gyfer awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio yng Nghymru, ddiffiniadau o symiau sy'n daladwy o ran ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992 am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006. Diben hyn yw sicrhau nad yw symiau'r ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer gofynion cyllideb yn yr adran honno ond yn ymwneud â'r symiau sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol am y flwyddyn 2006 — 2007. Mae'r un diffiniadau yn gymwys i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn mewnosod diffiniad o "floor funding" yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6F).
Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol am y flwyddyn ariannol 2006-2007 wrth wneud y cyfrifiadau gofynnol am y flwyddyn honno.
Notes:
[1]
1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).back
[2]
Trosglwyddwyd y pŵer i wneud rheoliadau o dan adrannau 32(9), 33(4), 43(7) a 44(4) o ran Cymru oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol ac Atodlen 1 iddi Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
Diwygiwyd adran 323(3)(a) gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234).back
[4]
1988 p.41; mewnosodwyd adran 84G gan Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26)back
[5]
Diwygiwyd adran 33(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234.back
[6]
Diwygiwyd adran 43(3)(a) gan O.S. 1994/246, O.S. 1995/234 ac o ran y flwyddyn ariannol 2004/2005 gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/451) (Cy.42).back
[7]
Diwygiwyd adran 44(1) gan O.S. 1994/246, O.S. 1995 ac o ran y flwyddyn ariannol 2004-2005 gan O.S. 2004/451 (Cy.42).back
[8]
1998 p.38.back
[a]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 1; dylai "-1)" ddarllen fel "-(1)";
back
[b]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 1; dylid ailrifo is-baragraff "(1)" yn "(2)";
back
[c]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 1; dylid ailrifo is-baragraffau "(2)" a "(3)" yn "(3)" a "(4)" yn y drefn honno.
back
English version
ISBN
0 11091278 0
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
24 February 2006
|