Wedi'i wneud | 7 Chwefror 2006 | ||
Yn dod i rym | 8 Chwefror 2006 |
Indemniadau
3.
Caiff awdurdod perthnasol ddarparu indemniadau, yn yr achosion a grybwyllir yn erthygl 5, i unrhyw un oi aelodau neu ei swyddogion.
Yswiriant
4.
Yn lle bod awdurdod perthnasol yn darparu indemniad o dan erthygl 3, neu yn ychwanegol at ei ddarparu, caiff awdurdod perthnasol sicrhau, yn yr achosion a grybwyllir yn erthygl 5, ddarparu indemniad drwy sicrhau yswiriant ar gyfer unrhyw un o'i aelodau neu ei swyddogion.
Achosion lle caniateir i indemniad neu yswiriant gael ei ddarparu
5.
Yn ddarostyngedig i erthygl 6, caniateir i indemniad gael ei ddarparu mewn perthynas ag unrhyw weithred, neu fethiant i weithredu, gan yr aelod neu'r swyddog o dan sylw, a hwnnw'n indemniad sydd—
Cyfyngiadau ar indemniadau
6.
—(1) Ni chaniateir i unrhyw indemniad gael ei ddarparu o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag unrhyw weithred, neu fethiant i weithredu, gan unrhyw aelod neu swyddog, sydd—
(2) Er gwaethaf paragraff 1(a), caniateir darparu indemniad mewn perthynas ag—
(3) Ni chaniateir darparu unrhyw indemniad o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag unrhyw hawliad a wneir gan yr aelod neu'r swyddog sydd wedi'i indemnio mewn perthynas â'r difenwad honedig o'r aelod neu'r swyddog ond caniateir ei ddarparu mewn perthynas â'r amddiffyniad gan yr aelod neu'r swyddog hwnnw o unrhyw honiad o ddifenwi a wnaed yn erbyn yr aelod neu'r swyddog hwnnw.
Materion sy'n mynd y tu hwnt i bwerau'r awdurdod perthnasol
7.
—(1) Er gwaethaf unrhyw gyfyngiad ar bwerau awdurdod perthnasol sy'n rhoi indemniad, caniateir i awdurdod perthnasol ddarparu indemniad i'r graddau yr oedd yr aelod neu'r swyddog o dan sylw—
a'i bod yn rhesymol i'r aelod neu'r swyddog hwnnw gredu hynny ar yr adeg y gweithredodd yr aelod neu'r swyddog hwnnw neu y methodd â gweithredu.
(2) Caniateir darparu indemniad mewn perthynas â gweithred neu methiant i weithredu y ceir wedyn ei fod y tu hwnt i bwerau'r aelod neu'r swyddog dan sylw, ond dim ond i'r graddau yr oedd yr aelod neu'r swyddog yn credu'n rhesymol bod y weithred neu'r methiant â gweithredu dan sylw o fewn pwerau'r aelod hwnnw neu'r swyddog hwnnw ar yr adeg y gweithredodd yr aelod hwnnw neu'r swyddog hwnnw neu y methodd â gweithredu.
Telerau indemniad neu yswiriant
8.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5) isod caiff telerau unrhyw indemniad a roddir (gan gynnwys unrhyw yswiriant a sicrheir) o dan y Gorchymyn hwn fod yn delerau y caiff yr awdurdod perthnasol gytuno arnynt.
(2) Mae paragraffau (3), (4) a (5) yn gymwys pan fo unrhyw indemniad a roddir i unrhyw aelod neu swyddog (gan gynnwys unrhyw yswiriant a sicrheir ar gyfer yr aelod hwnnw neu'r swyddog hwnnw) yn effeithiol mewn perthynas ag amddiffyniad—
(3) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad, ac unrhyw yswiriant a sicrheir, ar y telerau yn achos camau troseddol, os collfernir yr aelod neu'r swyddog dan sylw o dramgwydd troseddol ac ni wrthdroir y gollfarn honno o ganlyniad i unrhyw apêl, rhaid i'r aelod hwnnw neu i'r swyddog hwnnw ad-dalu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr (yn ôl y digwydd) am unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.
(4) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad a sicrheir unrhyw yswiriant, ar y telerau yn achos camau Rhan III, lle—
rhaid i'r aelod hwnnw ad-dalu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr (yn ôl y digwydd) unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.
(5) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad, a sicrheir unrhyw yswiriant, ar y telerau, yn achos camau Rhan III, lle—
caiff Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yr aelod benderfynu bod rhaid i'r aelod ad-adlu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.
(6) Pan fo aelod neu swyddog dan rwymedigaeth i ad-dalu i awdurdod perthnasol neu i yswiriwr yn unol â'r telerau a grybwyllir ym mharagraff (3), (4) a (5) uchod, bydd y symiau hynny yn adenilladwy gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr (yn ôl y digwydd) fel dyled sifil.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Chwefror 2006
Mae erthygl 4 yn egluro y caiff yr awdurdod perthnasol ddarparu indemniad drwy sicrhau bod polisi yswiriant yn cael i ddarparu i aelod neu i swyddog.
Mae erthygl 5 yn nodi'r achosion lle caniateir darparu indemniadau (gan gynnwys y rheini a ddarperir drwy yswiriant). Mae'r erthygl hon yn cyfyngu'r fath ddarpariaeth i achosion lle mae'r aelod neu'r swyddog yn cyflawni unrhyw swyddogaeth ar gais yr awdurdod perthnasol, gyda'i gymeradwyaeth neu at ddibenion yr awdurdod hwnnw. Serch hynny, mae'n ymestyn i achosion lle mae'r swyddog neu'r aelod, wrth arfer y swyddogaeth o dan sylw, yn gwneud hynny yn rhinwedd swydd ac eithro swydd aelod o'r awdurdod perthnasol neu swyddog i'r awdurdod hwnnw. Byddai hynny'n caniatáu i indemniad, er enghraifft, gwmpasu achos lle mae aelod neu swyddog yn gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni ar gais yr awdurdod perthnasol, ac felly yn gweithredu yn rhinwedd swydd yr aelod neu'r swyddog hwnnw fel cyfarwyddwr.
Mae erthygl 6 yn atal indemniad rhag cael ei ddarparu neu yswiriant rhag cael ei sicrhau mewn perthynas â thramgwydd troseddol, unrhyw ddrygioni bwriadol arall, twyll, byrbwylltra, neu mewn perthynas â dwyn (ond nid amddiffyn) unrhyw achos difenwi.
Mae erthygl 7 yn rhoi pŵer cyfyngedig i ddarparu indemniad (gan gynnwys unrhyw indemniad a ddarperir drwy yswiriant) pan fo'r weithred neu'r anweithred y cwynir amdani y tu allan i bŵer yr awdurdod perthnasol ei hun. Mae hefyd yn cwmpasu achosion lle mae aelod neu swyddog yn datgan bod camau penodol wedi'u cymryd neu fod gofynion penodol wedi'u bodloni ond daw'n eglur wedyn nad felly y bu. Mae'r pŵer wedi'i gyfyngu i achosion lle'r oedd y person a oedd wedi'i indemnio neu wedi'i yswirio—
Mae erthygl 8 yn rhoi rhyddid i'r awdurdod perthnasol negodi'r telerau ar gyfer unrhyw indemniad neu bolisi yswiriant y mae'n credu ei fod yn briodol ond mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r telerau hynny gynnwys darpariaeth ar gyfer ad-dalu symiau sy'n cael eu gwario gan yr awdurdod perthnasol neu'r yswiriwr mewn achosion lle—
Os dyfarnwyd bod aelod wedi torri'r Cod Ymddygiad sy'n gymwys i'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod perthnasol ac os yw'r aelod o dan sylw wedi'i geryddu neu, lle ni chymerwyd mesurau disgyblu yn erbyn yr aelod hwnnw o ganlyniad o'i fethiant â chydymffurfio â'r Cod, caiff Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yr aelod hwnnw ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu'r symiau a werir gan yr awdurdod perthansol neu gan yr yswiriwr. Caniateir adennill unrhyw symiau adenilladwy fel dyled sifil.
[2] 1947 (p.41). Effaith adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yw, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r adran honno, y bydd awdurdod tân a gyfansoddir o dan adran 5 neu adran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 yn parhau i fod yn effeithiol er bod yr adrannau hynny wedi cael eu diddymu gan Ddeddf 2004.back