Wedi'u gwneud | 31 Ionawr 2006 [a] | ||
Yn dod i rym | 1 Chwefror 2006 |
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 ac Atodlenni iddi.
Dirymu
3.
Dirymir Rheoliadau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Derbyniadau a Niferoedd Safonol) (Addasiad) 1999[3].
Darpariaethau Trosiannol — Trefniadau Derbyn
4.
Er i adran 47(1) ddod i rym nid yw'r diwygiadau i adran 86 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran derbyn plentyn i ysgol a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
5.
Er i ddirymiadau adran 93 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 23 iddi ddod i rym, a'r diffiniadau o "the relevant standard number" yn adrannau 84(6) ac 143 o Ddeddf 1998, mae'r darpariaethau hynny yn dal i gael effaith o ran unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
6.
Er i adran 47(2) a pharagraff 5 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw Adran 89A newydd Deddf 1998 na'r diwygiadau i adran 89 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran penderfynu ar drefniadau derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir am unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na blwyddyn ysgol 2008-09.
7.
Er i baragraff 6 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiadau i adran 90 o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran y trefniadau derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir am unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
8.
Er i baragraff 12(2) o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiad i adran 98(2) o Ddeddf 1998 yn cael effaith o ran derbyn plentyn i ysgol a gynhelir ar gyfer addysg feithrin mewn unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
9.
Er i baragraff 14 o Atodlen 4 ddod i rym, nid yw'r diwygiad i adran 439(2) o Ddeddf Addysg 1996[4] yn cael effaith o ran unrhyw orchymyn mynychu'r ysgol a wneir o dan adran 437 o'r Ddeddf honno yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol gynharach na'r flwyddyn ysgol 2008-09.
Diwygio Deddf 1998
10.
—(1) Yn adran 98(6) ac (8) o Ddeddf 1998 rhodder "92(c) and (d)" yn lle "92(3) to (6)".
(2) Mae Rheoliadau a wneir o dan adran 92 o Ddeddf 1998 cyn 1 Chwefror 2006 i gael effaith fel petaent wedi'u gwneud o dan adran 92 o Ddeddf 1998 fel y'i disodlwyd gan baragraff 7 o Atodlen 4 ynddi.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999
11.
—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[5] fel a ganlyn o ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol.
(2) Yn lle rheoliad 2(2) rhodder y paragraff canlynol—
(3) Yn rheoliad 5, hepgorer o baragraff (1) y geiriau "and paragraph 9(1)(a) of Schedule 23" ac "and paragraph 9 of Schedule 23", a hepgorer is-baragraff (3)(c).
(4) Yn rheoliad 6, hepgorer o baragraff (1) y geiriau ", and paragraph 9(1)(b) of Schedule 23 to," ac ", and paragraph 9 of Schedule 23 to,", a hepgorer paragraff (3).
(5) Yn rheoliad 7, hepgorer o baragraff (1)(a) y geiriau "and paragraph 9(6) of Schedule 23" ac o baragraff (2) y geiriau "or paragraph 9 of Schedule 23".
(6) Hepgorer rheoliad 11.
(7) Hepgorer Atodlen 1.
(8) Yn Atodlen 3, hepgorer Rhan V a'r pennawd i'r Rhan honno.
(9) Yn Atodlen 4—
Diwygio Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001
12.
O ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol, diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Newid Categorïau Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001[8] drwy ychwanegu ar ddiwedd adran 28(11) yn Nhabl 3 yn Rhan 1 fel y'i haddaswyd ac ar ddiwedd adran 28(11) fel y'i haddaswyd ac fel y'i ceir yn Rhan 2 y geiriau "and the capacity of a school is to be determined in accordance with the capacity assessment method set out in the guidance document "Measuring the capacity of schools in Wales" issued by the National Assembly.".
Diwygio Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004
13.
—(1) Diwygir Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004[9] fel a ganlyn o ran y flwyddyn ysgol 2008-09 a blynyddoedd ysgol olynol.
(2) Rhodder y paragraff canlynol yn lle rheoliad 2(3)—
(3) Yn Atodlen 3—
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
[5] O.S. 1999/1671 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/908 (Cy.91).back
[6] Mae'r canllaw yma ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.dysgu.cymru.gov.uk.back
[7] Mewnosodwyd adran 89A gan adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2002 (p.32).back
[8] O.S. 2001/2678 (Cy.219) fel y'i diwygiwyd gan O.S 2005/2916 (Cy.213).back
[9] O.S. 2004/1576, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243).back