British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006 Rhif 63 (Cy.12)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060063w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 63 (Cy.12)
CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU
Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006
|
Wedi'i wneud |
18 Ionawr 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2006 | |
GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ("Deddf 1998")[
1] a Rhan I o Atodlen 4 iddi yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru ("y Cyngor") a gyfansoddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 ("Deddf 1953")[
2]
A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Cyngor o dan Ddeddf 1953 naill ai yn ei gwneud yn ofynnol fod cyngor yn cael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun (ac, yn unol â hynny, eu bod yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998 ac i gael eu diddymu) neu'n ei gwneud yn ofynnol i eraill ymgynghori â'r Cyngor (ac, yn unol â hynny, eu bod i gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol)
YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 ohoni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru; ac
ystyr "Deddf 1953" ("the 1953 Act") yw Deddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953.
Diddymu'r Cyngor
2.
—(1) Diddymir y Cyngor.
(2) Trosglwyddir pob eiddo a phob hawl y mae gan y Cyngor hawl iddynt, a phob rhwymedigaeth y mae'r Cyngor yn ddarostyngedig iddi, i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diwygiadau canlyniadol
3.
—(1) Diddymir y darpariaethau a ganlyn—
(a) adrannau 2 (i'r graddau y mae'r adran honno'n gymwys i adran 3), 3 a 9(1) o Ddeddf 1953;
(b) adrannau 77(7), (8) a (9), 79(2) ac 80(4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[3]; ac
(c) y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—
(i) Rhan II o Atodlen 1A i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976[4],
(ii) Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a
(iii) Rhan VI o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000[5].
(2) Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—
(a) Atodlen 3 i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001[6];
(b) Rhan 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002[7].
(3) Yn adran 5(4) o Ddeddf 1953—
(a) yn lle "the appropriate Commission or Council", rhodder "the Commission";
(b) ar ôl "accepting any property", mewnosoder "situated in England";
(c) ar ôl "dealing with any", mewnosoder "such"; ac
(ch) yn lle "the said Commission or Council", rhodder "the Commission".
(4) Yn—
(a) paragraff 2(2)(b) o Atodlen 9 i Ddeddf Trydan 1989[8]; a
(b) paragraff (a) o'r diffiniad o "competent authority" yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Rheolaeth ar Sylweddau Niweidiol) 1992[9],
yn lle "Historic Buildings Council", rhodder "National Assembly".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Ionawr 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Sefydlodd adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 ("Deddf 1953") Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru ("y Cyngor") i gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1953.
Effaith erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi yw mai prif swyddogaeth y Cyngor bellach yw cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol").
Mae'r Cyngor wedi'i bennu yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ("Deddf 1998") yn gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn wedi'i wneud o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998, drosglwyddo ei swyddogaethau statudol i gorff arall, gan gynnwys eu trosglwyddo iddo'i hun.
Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu unrhyw swyddogaeth sydd gan gorff o'r fath yn hytrach na'i throsglwyddo i gorff arall os yw'r swyddogaeth, fel y mae, yn ei gwneud yn ofynnol gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â'r corff arall hwnnw (enghraifft o hyn yw'r swyddogaeth sydd gan y Cyngor o gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol: byddai trosglwyddo'r swyddogaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynghori ei hun).
Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu corff a bennir yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 os yw pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.
Mae adran 28(4) yn darparu y caiff Gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth a ganiateir gan adran 28(3) drosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y corff hwnnw.
Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol, gan gynnwys diddymu deddfiadau.
Yn unol â hynny—
(a) mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r Cyngor ac yn trosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y diddymiadau, y dirymiadau a'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i Ddeddfau ac offerynnau eraill.
Notes:
[1]
1998 p.38.back
[2]
1953 p.49.back
[3]
1990 p.9.back
[4]
1976 p.74.back
[5]
2000 p.36.back
[6]
O.S. 2001/3458.back
[7]
O.S. 2002/2812.back
[8]
1989 p.29.back
[9]
O.S. 1992/31.back
English version
ISBN
0 11 091254 3
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
24 January 2006
|