British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 3345 (Cy.259)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053345w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 3345 (Cy.259)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
6 Rhagfyr 2005 | |
|
Yn dod i rym |
7 Rhagfyr 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 140(4), a (143)(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[
1] a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 7 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 1992" ("
the 1992 Regulations") yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992[
2].
Diwygio Rheoliadau 1992
3.
O ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
(a) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle "1.009" rhoddir "1.004"; a
(b) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992, rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Rhagfyr 2005
YR ATODLENRegulation 3
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area
|
Prescribed figure
|
Blaenau Gwent |
53,000 |
Bridgend |
101,100 |
Caerphilly |
130,200 |
Carmarthenshire |
139,200 |
Cardiff |
247,700 |
Ceredigion |
63,800 |
Conwy |
88,900 |
Denbighshire |
75,000 |
Flintshire |
116,400 |
Gwynedd |
93,000 |
Isle of Anglesey |
54,000 |
Merthyr Tydfil |
42,200 |
Monmouthshire |
67,800 |
Neath Port Talbot |
106,300 |
Newport |
105,600 |
Pembrokeshire |
91,100 |
Powys |
103,000 |
Rhondda Cynon Taf |
178,800 |
Swansea |
178,600 |
Torfaen |
69,500 |
Vale of Glamorgan (The) |
93,700 |
Wrexham |
101,900 |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 ("Rheoliadau 1992").
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau ynglŷn â'r swm gros), ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).
Notes:
[1]
1988 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[2]
O.S. 1992/3238, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289), 2003/3211 (Cy.304) a 2004/3232 (Cy.280).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091241 1
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
14 December 2005
|