Wedi'u gwneud | 29 Tachwedd 2005 | ||
Yn dod i rym | 1 Ionawr 2006 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso. |
2. | Dehongli. |
3. | Rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl. |
4. | Yr awdurdod cymwys. |
5. | Gorfodi. |
6. | Hysbysiadau gwella hylendid. |
7. | Gorchmynion gwahardd at ddibenion hylendid. |
8. | Hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys at ddibenion hylendid. |
9. | Hysbysiadau camau cywiro a hysbysiadau cadw. |
10. | Tramgwyddau oherwydd bai person arall. |
11. | Amddiffyniad diwydrwydd dyladwy. |
12. | Caffael samplau. |
13. | Dadansoddi etc. samplau. |
14. | Pwerau mynediad. |
15. | Rhwystro etc. swyddogion. |
16. | Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau. |
17. | Tramgwyddau a chosbau. |
18. | Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol. |
19. | Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd. |
20. | Yr hawl i apelio. |
21. | Apelau i Lys y Goron. |
22. | Apelau yn erbyn hysbysiadau gwella hylendid a hysbysiadau camau cywiro. |
23. | Cymhwyso adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. |
24. | Pwer i ddyroddi codau arferion a argymhellir. |
25. | Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll. |
26. | Dirymu dynodiadau a phenodiadau a'u hatal dros dro. |
27. | Bwyd nad yw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid. |
28. | Cyflwyno dogfennau. |
29. | Swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr. |
30. | Gofynion rheoli tymheredd. |
31. | Y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm. |
32. | Cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl a diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996. |
33. | Dirymiadau. |
Atodlen 1 : | Diffiniadau o ddeddfwriaeth y Gymuned |
Atodlen 2 : | Darpariaethau Cymunedol penodedig |
Atodlen 3 : | Swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y msch244;r |
Atodlen 4 : | Gofynion rheoli tymheredd |
Atodlen 5 : | Y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm |
Atodlen 6 : | Cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl |
Atodlen 7 : | Dirymiadau |
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf, yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yn ôl y digwydd.
(4) Pan fyddai unrhyw gyfnod o lai na saith niwrnod a bennir yn y Rheoliadau hyn, ar wahân i'r paragraff hwn, yn cynnwys unrhyw ddiwrnod sydd—
hepgorir y diwrnod hwnnw o'r cyfnod.
Rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl
3.
—(1) Mae'r paragraffau canlynol yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid rhagdybio, hyd nes y profir y gwrthwyneb, fod unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl, os yw wedi'i roi ar y farchnad neu wedi'i gynnig, wedi'i arddangos neu wedi'i gadw i'w roi ar y farchnad, wedi cael ei roi ar y farchnad neu, yn ôl y digwydd, y bwriadwyd neu y bwriedir ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl.
(3) Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir y canlynol, sef —
ar gyfer ei roi ar y farchnad, neu ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd i'w roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl.
(4) Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir unrhyw eitem neu sylwedd y mae modd ei defnyddio neu ei ddefnyddio i fod yn gyfansoddyn unrhyw fwyd neu i baratoi unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre lle mae'r bwyd hwnnw'n cael ei baratoi, ar gyfer defnydd o'r fath.
Yr awdurdod cymwys
4.
Yr Asiantaeth yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau'r Gymuned ac eithrio pan fo wedi dirprwyo cymwyseddau fel y darperir ar ei gyfer yn y Rheoliadau hynny.
Gorfodi
5.
—(1) O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 yn gymwys i'w weithrediadau ond nad yw Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddynt —
(2) O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 a Rheoliad 853/2004 ill dau yn gymwys i'w weithrediadau —
(b) rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gweithrediadau mewn perthynas ag unrhyw sefydliad neu weithgaredd nas pennir yn is-baragraff (a) ac a reoleiddir gan Reoliad 853/2004.
(3) O ran —
rhaid i'r awdurdod bwyd y lleolir y ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan —
(5) Rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella hylendid yn euog o dramgwydd.
Gorchmynion gwahardd at ddibenion hylendid
7.
—(1) Os —
bydd y llys yn gosod y gwaharddiad priodol drwy orchymyn.
(2) Bodlonir yr amod ynglyn â risg iechyd mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd os yw unrhyw un o'r canlynol yn cynnwys risg o niwed i iechyd (gan gynnwys unrhyw nam, boed hwnnw'n barhaol neu dros dro), sef —
(3) Y gwaharddiad priodol yw —
(4) Os —
caiff y llys, drwy orchymyn, osod gwaharddiad a fyddai'n atal y gweithredydd busnes bwyd rhag cymryd rhan yng ngwaith rheoli unrhyw fusnes bwyd, neu unrhyw fusnes bwyd o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn.
(5) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) neu (4) (gorchymyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid"), rhaid i'r awdurdod gorfodi —
a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i orchymyn o'r fath yn euog o dramgwydd.
(6) Bydd gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol —
(7) Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan is-baragraff (a) o baragraff (6) cyn pen tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni yn y modd a grybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw; ac ar gais gan y gweithredydd busnes bwyd am dystysgrif o'r fath, rhaid i'r awdurdod —
(8) Rhaid i'r llys roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (b) o baragraff (6) os yw'r llys, ar ôl cael cais gan y gweithredydd busnes bwyd, yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys yn benodol ymddygiad y gweithredydd busnes bwyd ers gwneud y gorchymyn; ond ni fydd unrhyw gais o'r fath yn cael ei ystyried os yw'n cael ei wneud —
(9) Pan fo llys ynadon yn gwneud gorchymyn o dan baragraff (2) o reoliad 8 mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd, bydd paragraff (1) yn gymwys fel petai'r gweithredydd busnes bwyd wedi'i gollfarnu gan y llys o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(10) Pan fo'r ffaith bod tramgwydd wedi'i gyflawni gan weithredydd busnes bwyd yn arwain at gollfarnu person arall yn unol â rheoliad 10, bydd paragraff (4) yn gymwys o ran y person arall hwnnw yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran y gweithredydd busnes bwyd a dehonglir unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (5) neu (8) at y gweithredydd busnes bwyd yn unol â hynny.
Hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys at ddibenion hylendid
8.
—(1) Os yw swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi'i fodloni bod yr amod ynglyn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran unrhyw fusnes bwyd, caiff y swyddog osod y gwaharddiad priodol drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid") .
(2) Os yw llys ynadon wedi'i fodloni, ar gais swyddog o'r fath, fod yr amod ynglyn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran unrhyw fusnes bwyd, rhaid i'r llys, drwy orchymyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid"), osod y gwaharddiad priodol.
(3) Ni chaiff swyddog o'r fath wneud cais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid oni bai bod y swyddog, o leiaf un diwrnod cyn dyddiad y cais, wedi cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol o'i fwriad i wneud cais am y gorchymyn.
(4) Bydd paragraffau (2) a (3) o reoliad 7 yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw, ond fel petai'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at risg o niwed i iechyd yn gyfeiriad at risg agos o niwed.
(5) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid, rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi osod copi o'r hysbysiad mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd ag y mae'n barnu ei bod yn briodol; a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r hysbysiad hwnnw yn euog o dramgwydd.
(6) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid, rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi —
a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r gorchymyn hwnnw yn euog o dramgwydd.
(7) Bydd hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol —
(8) Bydd hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol pan fydd yr awdurdod gorfodi yn dyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd mesurau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglyn â risg iechyd yn cael ei fodloni mwyach o ran y busnes bwyd.
(9) Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (8) cyn pen tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni yn y modd a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw; a phan fydd y gweithredydd busnes bwyd yn cyflwyno cais am dystysgrif o'r fath, rhaid i'r awdurdod —
(10) Pan fo hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid yn cael ei gyflwyno i weithredydd busnes bwyd, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r swyddog am unrhyw golled a gafwyd oherwydd y ffaith bod y swyddog wedi cydymffurfio â'r hysbysiad —
a gellir penderfynu drwy gymrodeddu unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw.
Hysbysiadau camau cywiro a hysbysiadau cadw
9.
—(1) Pan fo'n ymddangos i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi mewn perthynas â sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004—
caiff y swyddog, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "hysbysiad camau cywiro")—
(2) Rhaid cyflwyno hysbysiad camau cywiro cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan nodi'r rheswm pam y mae'n cael ei gyflwyno.
(3) Os yw'n cael ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo enwi'r toriad a'r camau y mae eu hangen i'w gywiro.
(4) Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog awdurdodedig yr hysbysiad camau cywiro gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni bod y camau hynny wedi'u cymryd, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi, mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw (hysbysiad y cyfeirir ato yn y rheoliad hyn fel "hysbysiad cadw") ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail neu fwyd gael ei gadw at ddibenion archwilio (gan gynnwys cymryd samplau).
(6) Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog yr hysbysiad cadw gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni nad oes angen cadw'r anifail neu'r bwyd mwyach, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw.
(7) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â hysbysiad camau cywiro neu hysbysiad cadw yn euog o dramgwydd.
Tramgwyddau oherwydd bai person arall
10.
Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.
Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy
11.
—(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.
(2) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir —
wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny.
(c) cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, a geir gan y swyddog ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac
(ch) cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd a geir gan swyddog ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdani neu amdano fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.
Dadansoddi etc samplau
13.
—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 12 —
(b) os yw o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio, ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.
(2) Caiff person, nad yw'n swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono —
(3) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.
(4) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl y digwydd, anfon y sampl i unrhyw ddadansoddydd bwyd arall neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.
(5) Rhaid i ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio —
caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.
(6) Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno drwyddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.
(7) Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.
(8) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos —
yn dystiolaeth ddigonol i'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw fel tyst.
(9) Yn y rheoliad hwn, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus yn cael eu penodi ar gyfer unrhyw ardal, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal honno fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.
Pwerau mynediad
14.
—(1) Mae gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi heblaw'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol —
ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel ty annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.
(2) Mae gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn —
ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel ty annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i ddod i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.
(3) Os yw ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai —
caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.
(4) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.
(6) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig —
(7) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bwer a roddwyd gan baragraff (6) —
(8) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.
(9) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[8], i fynd i mewn i unrhyw fangre —
Rhwystro, etc. swyddogion
15.
—(1) Bydd unrhyw berson sydd —
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd yn is-baragraph (b) o baragraff (1)—
yn euog o dramgwydd.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.
Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau
16.
Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad o dan y Rheoliadau hyn am dramgwydd y gellir ei gosbi o dan is-baragraff (2) o reoliad 17 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben —
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Tramgwyddau a chosbau
17.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored —
(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 15 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
(4) Ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004, neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen gyda pharagraff 4 Pennod IV o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw (swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi'u neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd) ar yr amod bod gofynion Atodlen 3 yn cael eu bodloni.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
18.
—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol, sef—
bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Yn is-baragraff (a) o baragraff (1) ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.
Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd
19.
Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
Yr hawl i apelio
20.
—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan —
apelio i lys ynadon.
(2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980[9] fydd yn gymwys i'r achos cyfreithiol.
(3) Y cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) yw —
a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.
Apelau i Lys y Goron
21.
Caiff berson a dramgwyddir gan —
apelio i Lys y Goron.
Apelau yn erbyn hysbysiadau gwella hylendid a hysbysiadau camau cywiro
22.
—(1) Pan apelir yn erbyn hysbysiad gwella hylendid neu hysbysiad camau cywiro, caiff y llys ganslo neu gadarnhau'r hysbysiad, ac os yw'n ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda'r addasiadau y mae'r llys yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau.
(2) Pan fyddai unrhyw gyfnod a bennir mewn hysbysiad gwella hylendid yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6 yn cynnwys fel arall unrhyw ddiwrnod y mae apêl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw yn yr arfaeth, ni fydd y diwrnod hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cyfnod hwnnw.
(3) Ystyrir bod unrhyw apêl yn yr arfaeth at ddibenion paragraff (2) hyd nes y penderfynir arni yn derfynol, y tynnir hi'n ôl, neu hyd nes y caiff ei dileu oherwydd diffyg erlyniad.
Cymhwyso adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990
23.
Mae adran 9 o'r Ddeddf (arolygu bwyd amheus a chymryd meddiant ohono)[10] yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad ei bod yn gymwys o ran swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd.
(4) Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.
(5) Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).
(6) Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.
Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll
25.
—(1) Ni fydd swyddog i awdurdod gorfodi yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo —
os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Hylendid yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod gorfodi rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion awdurdodedig.
(3) Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod gorfodi mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog hwnnw—
caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.
(4) Ymdrinnir â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y swyddog yn benodiad amser-cyfan neu beidio.
Dirymu dynodiadau a phenodiadau a'u hatal dros dro
26.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff yr Asiantaeth ar unrhyw bryd ddirymu neu atal dros dro —
os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth fod y person o dan sylw yn anffit i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r swydd honno o dan y Rheoliadau Hylendid.
(2) Pan fo'r Asiantaeth yn dirymu neu'n atal dros dro ddynodiad neu benodiad o dan baragraff (1), rhaid i'r Asiantaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi i'r person y mae ei ddynodiad neu ei benodiad wedi'i ddirymu neu wedi'i atal dros dro hysbysiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y dirymiad neu'r ataliad dros dro a rhoi i'r person hwnnw gyfle —
(3) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (2) roi gwybod i'r person y caiff ei roi iddo —
(4) Os bydd y person y mae ei ddynodiad neu ei benodiad wedi'i ddirymu neu wedi'i atal dros dro yn cyflwyno unrhyw sylwadau (boed ar lafar neu mewn ysgrifen) o dan baragraff (3), rhaid i'r Asiantaeth ailystyried a yw'r person hwnnw'n anffit i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r swydd y mae'n ei dal o dan y Rheoliadau Hylendid a rhaid iddi ailystyried cyn gynted ag y bo'n ymarferol ei phenderfyniad i ddirymu neu atal dros dro'r dynodiad neu'r penodiad o dan baragraff (1) yng ngoleuni'r sylwadau hynny.
(5) Pan fo person yn gofyn am gyfle i gael gwrandawiad yn unol ag is-baragraff (6) o baragraff (2) —
(6) Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwi at ddibenion y rheoliad hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli milfeddygon swyddogol, milfeddygon cymeradwy a chynorthwywyr swyddogol gan gynnwys unrhyw berson ar y rhestr.
Bwyd nad yw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid
27.
—(1) Wrth arolygu unrhyw fwyd, caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi ardystio nad yw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid.
(2) Pan fo unrhyw fwyd yn cael ei ardystio fel a grybwyllwyd ym mharagraff (1), ymdrinnir ag ef at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
(3) Pan fo unrhyw fwyd a ardystiwyd fel a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, rhaid i'r holl fwyd yn y swp, y lot neu'r llwyth, hyd nes y profir ei fod wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu neu wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid, gael ei drin at ddibenion paragraff (2) fel bwyd sydd wedi'i ardystio felly.
Cyflwyno dogfennau
28.
—(1) Caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i weithredydd busnes bwyd gael ei chyflwyno —
(2) Pan fo dogfen i'w chyflwyno i weithredydd busnes bwyd o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo mangre'r gweithredydd busnes bwyd heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y gweithredydd busnes bwyd o dan sylw yn ei swyddogaeth fel meddiannydd y fangre honno (gan ei henwi), ac
Swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr
29.
Mae Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr) yn effeithiol.
Gofynion rheoli tymheredd
30.
Mae Atodlen 4 (gofynion rheoli tymheredd) yn effeithiol.
Y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm
31.
Mae Atodlen 5 (y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm) yn effeithiol.
Cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl a diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996
32.
—(1) Mae Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl) yn effeithiol.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996[11] dileer y geiriau "Subject to paragraph (3) of this regulation, and except" a rhoi'r gair "Except" yn eu lle.
(3) Ym mharagraff (2) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 dileer y geiriau "Subject to paragraph (3) of this regulation, in" a rhoi'r gair "In" yn eu lle.
(4) Ym mharagraffau (1) a (2) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996, yn union ar ôl y geiriau "harmful to health." rhodder y geiriau "The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.".
(5) Dileer paragraff (3) o reoliad 31.
Dirymiadau
33.
Dirymir yr offerynnau a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 7 i'r graddau a bennir yng Ngholofn 3 o'r Atodlen honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Tachwedd 2005
1. Y Ddarpariaeth yn Rheoliadau'r Gymuned | 2. Y Pwnc |
Erthygl 3 o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod pob cam yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd sydd o dan eu rheolaeth yn bodloni'r gofynion perthnasol o ran hylendid sydd wedi'u nodi yn Rheoliad 852/2004. |
Erthygl 4(1) o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n gwneud gwaith cynhyrchu sylfaenol a gweithrediadau cysylltiedig penodol yn cydymffurfio â'r darpariaethau hylendid cyffredinol a bennir yn Rhan A o Atodiad I i Reoliad 852/2004 ac unrhyw ofynion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad 853/2004. |
Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n cyflawni unrhyw gam yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd ar ôl y camau hynny y mae Erthygl 4(1) yn gymwys iddynt yn cydymffurfio â'r gofynion cyffredinol o ran hylendid a nodir yn Atodiad II i Reoliad 852/2004 ac unrhyw ofynion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad 853/2004. |
Erthygl 4(3) o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd, fel y bo'n briodol, yn mabwysiadu rhai mesurau hylendid penodol. |
Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sefydlu, gweithredu a chynnal gweithdrefn neu weithdrefnau parhaol ar sail egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP). |
Erthygl 5(2) o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd, pan fo unrhyw addasiad yn cael ei wneud i'r cynnyrch, y broses, neu i unrhyw gam yn y broses, yn adolygu'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 5(1) ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol iddi. |
Erthygl 5(4)(a) o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn darparu i'r awdurdod cymwys dystiolaeth eu bod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1). |
Erthygl 5(4)(b) o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod unrhyw ddogfennau sy'n disgrifio'r gweithdrefnau a ddatblygwyd yn unol ag Erthygl 5 yn gyfoes. |
Erthygl 5(4)(c) o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn dal eu gafael ar ddogfennau a chofnodion am gyfnod priodol. |
Erthygl 6(1) o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydweithredu â'r awdurdodau cymwys yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth arall y Gymuned neu unrhyw gyfraith genedlaethol arall sy'n gymwys. |
Erthygl 6(2), paragraff cyntaf Rheoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredydd busnes bwyd yn hysbysu'r awdurdod cymwys o bob sefydliad o dan ei reolaeth sy'n cyflawni unrhyw un o'r camau yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd. |
Erthygl 6(2), ail baragraff 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod gan yr Rheoliad awdurdod cymwys wybodaeth gyfoes am sefydliadau. |
Erthygl 6(3) o Reoliad 852/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod sefydliadau yn cael eu cymeradwyo gan yr awdurdod cymwys pan fo angen cymeradwyaeth. |
Erthygl 3(1) o Reoliad 853/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Atodiadau II a III i Reoliad 853/2004. |
Erthygl 3(2) o Reoliad 853/2004 | Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn defnyddio unrhyw sylwedd heblaw dwr yfadwy neu, pan fo Rheoliad 852/2004 neu Reoliad 853/2004 yn caniatáu ei ddefnyddio, dwr glân i dynnu halogiad ar y wyneb oddi ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid, oni bai bod defnyddio'r sylwedd wedi'i gymeradwyo. |
Erthygl 4(1) o Reoliad 853/2004 |
Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd ddim ond yn rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac sydd wedi'u gweithgynhyrchu yn y Gymuned os ydynt wedi'u paratoi a'u trafod yn y sefydliadau canlynol yn unig —
(b) y mae'r awdurdod cymwys wedi'u cofrestru neu, pan fo'n ofynnol yn unol ag Erthygl 4(2), wedi'u cymeradwyo. |
Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 | Gofyniad nad yw sefydliadau sy'n trafod y cynhyrchion hynny sy'n tarddu o anifeiliaid, ac y mae Atodiad III i Reoliad 853/2004 yn gosod gofynion ar eu cyfer, yn gweithredu onid yw'r awdurdod cymwys wedi'u cymeradwyo yn unol ag Erthygl 4(3). |
Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004 |
Gofyniad na ddylai sefydliadau sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 4(2) weithredu oni bai bod yr awdurdod cymwys, yn unol â Rheoliad 854/2004 —
(b) wedi rhoi cymeradwyaeth amodol i'r sefydliad. |
Erthygl 4(4) o Reoliad 853/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydweithredu â'r awdurdodau cymwys yn unol â Rheoliad 854/2004 gan gynnwys sicrhau bod sefydliad yn peidio â gweithredu os nad yw'n sefydliad cymeradwy mwyach. |
Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004 |
Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn rhoi ar y farchnad gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid ac sydd wedi'i drafod mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 4(2) oni bai —
(b) pan nad yw Rheoliad 854/2004 yn darparu ar gyfer dodi marc iechyd, bod marc adnabod yn cael ei ddodi yn unol ag Adran 1 o Atodiad II i Reoliad 853/2004. |
Erthygl 5(2) o Reoliad 853/2004 | Gofyniad mai dim ond os yw'r cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn unol â Rheoliad 853/2004 mewn sefydliadau sy'n bodloni gofynion Erthygl 4 y dylai gweithredwyr busnes bwyd ddodi marc adnabod ar gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid. |
Erthygl 5(3) o Reoliad 853/2004 | Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn dileu marc iechyd a ddodwyd yn unol â Rheoliad 854/2004 oddi ar gig oni bai eu bod yn ei dorri neu'n ei brosesu neu'n gweithio arno mewn modd arall. |
Erthygl 6(1) a (2) o Reoliad 853/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau mai dim ond pan fydd amodau penodol wedi'u bodloni y dylai mewnforio cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ddigwydd. |
Erthygl 6(3) o Reoliad 853/2004 |
Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid sicrhau —
(b) bod y mewnforio yn cydymffurfio â gofynion Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC[21]; ac (c) bod gweithrediadau o dan eu rheolaeth sy'n digwydd ar ôl y mewnforio yn cael eu cyflawni yn unol â gofynion Atodiad III i Reoliad 853/2004. |
Erthygl 6(4) o Reoliad 853/2004 | Gofynion bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio bwyd sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n tarddu o blanhigion a chynhyrchion proses sy'n tarddu o anifeiliaid yn sicrhau bod y cynhyrchion proses sy'n tarddu o anifeiliaid yn bodloni gofynion paragraffau (1) i (3) o Erthygl 6. |
Erthygl 7 o Reoliad 853/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod tystysgrifau neu ddogfennau eraill yn mynd gyda llwythi cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid pan fo'n ofynnol yn unol ag Atodiad II neu III i Reoliad 853/2004. |
Erthygl 8 o Reoliad 853/2004 | Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n bwriadu rhoi bwydydd penodedig sy'n tarddu o anifeiliaid ar y farchnad yn Sweden neu'r Ffindir yn cydymffurfio â'r rheolau a nodir yn Erthygl 8(2). |
(2) At ddibenion y paragraff hwn, ystyr "rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol" yw'r rhestr a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC.
3.
Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol nad ydynt i'w prosesu ymhellach, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol —
4.
Rhaid i gapten llong fordwyol sy'n cludo mewn tanciau swmp o olewau hylifol neu frasterau hylifol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gadw tystiolaeth ddogfennol gywir ynglŷn â'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau o dan sylw, ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny.
5.
Pan fo'r cargo wedi'u drawslwytho, yn ychwanegol at y dystiolaeth ddogfennol sy'n ofynnol yn rhinwedd paragraff 4, rhaid i gapten y llong sy'n ei dderbyn gadw tystiolaeth ddogfennol gywir bod cludo'r swmp o olew hylifol neu fraster hylifol wedi cydymffurfio â darpariaethau paragraff 2 neu 3 yn ystod y llwyth llong blaenorol ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny ar y llong y cawsant eu trawslwytho ohoni.
6.
Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i gapten y llong roi i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol a ddisgrifiwyd ym mharagraffau 4 a 5.
Siwgr crai
7.
Caniateir i siwgr crai na fwriedir ei ddefnyddio fel bwyd neu gynhwysyn bwyd heb broses buro lawn ac effeithiol gael ei swmpgludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer cludo deunyddiau bwyd yn unig.
8.
Bydd y daliedyddion, y cynwysyddion neu'r tanceri y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 7 yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—
9.
Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7 gadw tystiolaeth ddogfennol, gan ddisgrifio'n gywir ac yn fanwl y cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y daliedydd, y cynyhwysydd neu'r tancer o dan sylw, a math ac effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd cyn cludo'r siwgr crai.
10.
Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol fynd gyda llwyth siwgr crai yn ystod pob cam yn y broses o'i gludo i'r burfa a rhaid i'r burfa gadw copi o'r dystiolaeth honno. Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol gael ei marcio fel a ganlyn mewn modd sy'n hollol weladwy ac annileadwy mewn un neu ragor o ieithoedd y Gymuned: "This product must be refined before being used for human consumption".
11.
Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r siwgr crai neu'r broses buro ddarparu i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 9 a 10.
12.
Gwneir i siwgr crai sydd wedi'i gludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neuy danceri nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, fynd drwy broses buro lawn ac effeithiol cyn iddo gael ei ystyried yn addas i'w ddefnyddio fel bwyd neu fel cynhwysyn bwyd.
13.
Wrth gyflawni'r rhwymedigaethau o dan Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004 (dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol) o ran swmpgludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo neu buro siwgr crai —
Dehongli
14.
—(1) At ddibenion yr Atodlen hon mae unrhyw eiriau neu ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac unrhyw eiriau neu ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/28/EC yn caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau penodol Cyfarwyddeb 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o siwgr crai dros y môr[22] yn dwyn yr un ystyr ag ystyr y geiriau neu'r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn eu tro yn y Cyfarwyddebau hynny.
(2) Yn yr Atodlen hon, ystyr "Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC" yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC sy'n caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr[23], fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/4/EC yn diwygio Cyfarwyddeb 96/3/EC yn caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr[24].
Gofynion cadw'n oer
2.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 3, bydd unrhyw berson sy'n cadw unrhyw fwyd —
ar neu mewn mangre bwyd ar dymheredd uwchlaw 8°C yn euog o dramgwydd.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd sy'n cael ei gludo, fel rhan o drafodiad archeb drwy'r post, i'r defnyddiwr olaf.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff 3, ni chaiff neb gyflenwi drwy archeb drwy'r post unrhyw fwyd sydd —
ar dymheredd sydd wedi arwain neu sy'n debygol o arwain at risg i iechyd.
Esemptiadau cyffredinol rhag y gofynion cadw'n oer
3.
Nid yw is-baragraffau (1) a (3) o baragraff 2 yn gymwys o ran —
(b) bwyd y caniateir ei gadw, am weddill ei oes silff ar dymereddau amgylchynol heb unrhyw risg i iechyd;
(c) bwyd y gwneir neu y gwnaed iddo fynd drwy broses megis dadhydradu neu ganio a fwriedir i atal twf micro-organeddau pathogenig ar dymereddau amgylchynol, ond nid —
(ch) bwyd y mae'n rhaid ei aeddfedu ar dymereddau amgylchynol, ond nid pan fo'r broses aeddfedu wedi'i chwblhau;
(d) bwyd crai a fwriedir ar gyfer prosesu pellach (gan gynnwys coginio) cyn i bobl ei fwyta, ond dim ond os bydd y prosesu hwnnw, os ymgymerir ag ef yn gywir, yn gwneud y bwyd hwnnw'n ffit ar gyfer ei fwyta gan bobl;
(dd) bwyd y mae Rheoliad y Cyngor 1906/90 yn gymwys iddo; ac
(e) bwyd y mae Rheoliad y Cyngor 1907/90 yn gymwys iddo.
Amrywio'r tymheredd o 8°C ar i fyny gan weithgynhyrchwyr etc.
4.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi —
(b) bod yr argymhelliad hwnnw, onid y sawl a gyhuddir yw'r busnes bwyd hwnnw, wedi'i fynegi i'r sawl a gyhuddir naill ai drwy gyfrwng label ar ddeunydd pecynnu'r bwyd neu drwy gyfrwng rhyw ffurf briodol arall ar gyfarwyddyd ysgrifenedig;
(c) nad oedd y bwyd wedi'i gadw gan y sawl a gyhuddir ar dymheredd uwchlaw'r tymheredd penodedig; ac
(ch) nad aethpwyd, adeg cyflawni'r tramgwydd honedig, y tu hwnt i'r oes silff benodedig.
(2) Rhaid i fusnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu bwyd beidio ag argymell y dylid cadw unrhyw fwyd —
onid yw'r argymhelliad hwnnw wedi'i ategu gan asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar y tymheredd penodedig.
Cyfnodau goddef ar gyfer cadw'n oer
5.
—(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi —
(2) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi bod y bwyd—
(b) wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8°C neu, o dan amgylchiadau priodol, y tymheredd a argymhellir ar gyfer rheswm anochel, megis—
a'i fod wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8°C neu, o dan amgylchiadau arbennig, y tymheredd a argymhellwyd am gyfnod cyfyngedig yn unig a bod y cyfnod hwnnw'n cydweddu â diogelwch bwyd.
Gofynion cadw'n dwym
6.
Bydd unrhyw berson sydd, wrth gynnal gweithgareddau busnes bwyd, yn cadw mewn mangre bwyd ar dymheredd islaw 63°C unrhyw fwyd sydd —
yn euog o dramgwydd.
Amddiffyniadau cadw'n dwym
7.
—(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi —
(b) bod y bwyd, ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd honedig, wedi'i gadw mewn modd a oedd yn gyfiawn yng ngoleuni'r asesiad gwyddonol hwnnw.
(2) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi —
Dehongli
8.
Yn yr Atodlen hon —
4.
Caiff dosbarthwr ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl —
5.
Rhaid i'r llaeth crai fodloni'r safonau canlynol:
Cyfrifiad haenau ar 30°C (cfu fesul ml) | <= 20,000 |
Colifformau (cfu fesul ml) | < 100 |
1. Offerynnau | 2. Cyfeirnod | 3. Graddau'r Dirymu |
Rheoliadau Llaeth a Hufenfeydd (Cyffredinol) 1959 | O.S. 1959/277 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Hufen Iâ (Trin â Gwres, etc.) 1959 | O.S. 1959/734 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Mangreoedd Bwyd (Cofrestru) 1991 | O.S. 1991/2825 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau'r Tribiwnlys Apelau Hylendid Cig (Gweithdrefn) 1992 | O.S. 1992/2921 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cynhyrchion Wyau 1993 | O.S. 1993/1520 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 | O.S. 1994/3082 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 | O.S. 1995/539 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995 | O.S. 1995/540 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995 | O.S. 1995/1086 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995 | O.S. 1995/1122 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Wyau (Safonau Marchnata) 1995 | O.S. 1995/1544 |
Yn rheoliad 2(1), y difiniadau o "the Agency" a "Council Decision"; paragraff (b) o'r Community provisions”; ac ym mharagraff (a) o'r diffiniad o "food authority" y geiriau "except in relation to regulation 3(2),". Rheoliad 3. Yn rheoliad 4, paragraffau (1)(b) a (2)(b). Yn rheoliad 6, y geiriau "or the Agency"; y geiriau "or (b)"; y geiriau "or, as the case may be, the Agency," yn y ddau le y maent yn ymddangos; a'r geiriau "or, as the case may be, it,". |
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd Cyffredinol) 1995 | O.S. 1995/1763 | Y Rheoliadau cyfan |
Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Archwilio) 1995 | O.S. 1995/2148 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Rheoli Tymheredd) 1995 | O.S. 1995/2200 | Y Rheoliadau cyfan |
Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 | O.S. 1995/3205 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998 | O.S. 1998/994 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2001 | O.S. 2001/2219 (Cy.159) | Y Rheoliadau cyfan |
Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003 | O.S. 2003/1774 (Cy.191) | Yn erthygl 2(1), paragraff (a) o'r diffiniad o "y prif ddarpariaethau Rheoli Hylendid a Thymheredd" Paragraff 2(b) o'r Atodlen |
Rheoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003 | O.S. 2003/3229 (Cy.309) | Y Rheoliadau cyfan |
2.
Mae'r Rheoliadau hyn —
(d) yn darparu, pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, fod y person arall hwnnw'n euog o'r tramgwydd (rheoliad 10);
(dd) yn darparu ei bod yn amddiffyniad mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd (rheoliad 11);
(e) yn darparu ar gyfer caffael a dadansoddi samplau (rheoliadau 12 a 13 yn y drefn honno);
(f) yn darparu pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdod gorfodi; (rheoliad 14);
(ff) yn darparu ar gyfer tramgwydd o rwystro swyddog (rheoliad 15);
(g) yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau (rheoliad 16);
(ng) yn darparu y bydd person sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad 852/2004 neu Reoliad 853/2004 neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd (rheoliad 17(1));
(h) yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 17(2) a (3));
(i) yn darparu na fernir bod person wedi mynd yn groes i ddarpariaeth benodedig yn Rheoliad (EC) 852/2004, neu wedi methu â chydymffurfio â hi, (gofyniad bod swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi'u neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd) ar yr amod bod gofynion Atodlen 3 yn cael eu bodloni (rheoliad 17 (4));
(j) yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu'r person hwnnw, y bydd y swyddog neu'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 18);
(l) os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y partner hwnnw, y bydd y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 19);
(ll) yn darparu hawliau i apelio ynglŷn â hysbysiadau gwella hylendid, hysbysiadau camau cywiro, gorchmynion gwahardd at ddibenion hylendid a gorchmynion gwahardd brys at ddibenion hylendid (rheoliadau 20 i 22);
(m) yn darparu ar gyfer cymhwyso adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) (rheoliad 23);
(n) yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dyroddi i awdurdodau bwyd godau arferion a argymhellir (rheoliad 24);
(o) yn darparu ar gyfer diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 25);
(p) yn darparu ar gyfer dirymu neu atal dros dro ddynodiad neu, yn ôl y digwydd, penodiad swyddogion penodedig (rheoliad 26);
(ph) yn darparu bod rhaid i unrhyw fwyd y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi ardystio nad yw'r bwyd hwnnw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid, gael ei drin at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd (rheoliad 27);
(r) yn darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau (rheoliad 28);
(rh) yn darparu bod y gofynion a nodir yn yr Atodlenni canlynol yn effeithiol —
(s) yn diwygio Rheoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (Llaeth Crai) (rheoliad 32); a
(t) yn darparu ar gyfer dirymu offerynnau penodedig i'r graddau a bennir (rheoliad 33).
3.
Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
[4] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o'r Ddeddf Safonau Bwyd.back
[5] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back
[10] Diwygiwyd adran 9 gan O.S. 2004/3279 ac amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990.back
[13] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[14] OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.back
[15] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back
[16] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back
[17] OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back
[18] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1back
[19] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back
[20] OJ Rhif L24, 30.1.1998, t.9.back
[21] OJ Rhif L18, 23.1.2003, t.11.back
[22] OJ Rhif L140, 12.5.98, t.10.back
[23] OJ Rhif L21, 27.1.96, t.42.back
[24] OJ Rhif L15, 22.1.2004, t.25.back
[25] O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[26] OJ Rhif L173, 6.7.90, t.1.back
[27] OJ Rhif L157, 30.5.98, t.12.back
[28] OJ Rhif L173, 6.7.90, t.5.back
[29] OJ Rhif L305, 22.11.2003, t.1.back