British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 Rhif 3200 (Cy.236)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053200w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 3200 (Cy.236)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
15 Tachwedd 2005 | |
|
Yn dod i rym |
31 Rhagfyr 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19(2), 19(3), 20(2), 21(3), 210(7) a 214(1) o Ddeddf Addysg 2002[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig" ("special educational needs resource base") yw dosbarth neu adran mewn ysgol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig; ac
ystyr "ysgol" ("school") yw ysgol a gynhelir heblaw ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol fabanod; ac
ystyr "ysgol fabanod" ("infant school") yw ysgol a gynhelir nad yw'n derbyn disgyblion sy'n 8 oed neu drosodd.
Cynghorau Ysgol
3.
—(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydlu cyngor ysgol, a'i ddiben yw galluogi disgyblion i drafod materion ynglŷn â'u hysgol, eu haddysg ac unrhyw fater arall y maent yn ymboeni amdano neu sydd o ddiddordeb ac i wneud sylwadau arnynt i'r corff llywodraethu a'r pennaeth;
(2) Rhaid i bennaeth ysgol:
(3) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a phennaeth ysgol ill dau ystyried unrhyw fater a gaiff ei gyfleu iddynt gan y cyngor ysgol a rhoi ymateb i'r cyngor ysgol.
(4) Caiff corff llywodraethu'r ysgol a phennaeth yr ysgol gytuno i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ar y cyd â chorff llywodraethu a phennaeth ysgolion eraill.
Aelodaeth
4.
—(1) Dim ond disgyblion cofrestredig yn yr ysgol gaiff ffurfio aelodaeth y cyngor ysgol.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a'r pennaeth drefnu bod o leiaf un disgybl cofrestredig o bob grŵp blwyddyn ysgol, o Flwyddyn 3 ac yn uwch, yn cael ei ethol i aelodaeth y cyngor ysgol.
(3) Anghymhwysir person nad yw'n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol y sefydlir cyngor ysgol ar ei chyfer o aelodaeth y cyngor hwnnw.
(4) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a phennaeth unrhyw ysgol sydd â chanolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig, drefnu bod o leiaf un disgybl cofrestredig o'r ganolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig honno yn cael ei ethol i aelodaeth y cyngor ysgol.
Ysgolion Arbennig
5.
Nid yw Rheoliadau 3(2)(a), 4(2), 6 a 7 yn gymwys i ysgolion arbennig cymunedol neu ysgolion arbennig.
Etholiadau
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), er mwyn penodi i'r cyngor ysgol, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol sy'n rhoi'r hawl i bob disgybl cofrestredig i bleidleisio dros ymgeiswyr (os oes rhai) yn eu grŵp blwyddyn neu yn eu canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo trefniadau yn cael eu gwneud i bob disgybl cofrestredig fod yn aelod o'r cyngor ysgol.
Disgybl-lywodraethwyr Cyswllt
7.
—(1) Rhaid i bennaeth ysgol sicrhau bod cyfle gan y cyngor ysgol i enwebu hyd at ddau ddisgybl o flwyddyn 11 i 13 (yn gynhwysol) o'i aelodaeth i fod yn ddisgybl lywodraethwyr cyswllt ar gorff llywodraethu'r ysgol.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu dderbyn unrhyw ddisgybl a enwebwyd yn unol â pharagraff (1) uchod, a'i benodi'n ddisgybl-lywodraethwr ar y corff llywodraethu, ar yr amod na chafodd y disgybl ei anghymhwyso o aelodaeth yn unol ag Atodlen 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005[2].
Disgybl-lywodraethwyr Cyswllt: Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
8.
—(1) Diwygir Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder:
“Disgybl-lywodraethwyr cyswllt
12A.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "disgybl-lywodraethwr cyswllt" yw disgybl cofrestredig a enwebwyd gan y cyngor ysgol i fod yn aelod o'r corff llywodraethu ac a benodwyd felly gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005.
(2) Mwyafswm y nifer o ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar unrhyw gorff llywodraethu yw dau.
(3) Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder:
(4) Ar ôl rheoliad 25(5) mewnosoder:
(5) Yn lle rheoliad 29 a'i bennawd rhodder:
(6) Ar ddechrau rheoliad 33(1)(ch), mewnosoder "yn ddarostyngedig i baragraff (5),".
(7) Ar ôl rheoliad 33(4), ychwaneger:
(8) Yn rheoliad 44, rhodder "rheoliadau 44A a 63" yn lle "rheoliad 63".
(9) Ar ôl rheoliad 44, mewnosoder:
(10) Yn rheoliad 46(1) mewnosoder "unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt," o flaen "unrhyw leoedd gwag."
(11) Yn rheoliad 46(2) mewnosoder "(ac eithrio unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr)" ar ôl "ac yn pleidleisio ar y mater."
(12) Ar ôl rheoliad 46(2), mewnosoder:
(13) Yn rheoliad 54(7) mewnosoder "disgybl-lywodraethwyr a" ar ôl "Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys" a newidir "personau" i "phersonau".
(14) Ar ddiwedd rheoliad 54(8) ychwaneger "ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt.".
(15) Yn lle rheoliad 55(7), rhodder:
(16) Yn rheoliad 56(2) mewnosoder "nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt" ar ôl "y pennaeth".
(17) Yn rheoliad 57(2)(b) mewnosoder "(ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt)" ar ôl "lywodraethwr arall".
(18) Yn lle rheoliad 58(2) rhodder:
(19) Yn rheoliad 60(5) rhodder ", 57(4) a 60(9)" yn lle "a 57(4)".
(20) Ar ddechrau rheoliad 60(6) mewnosoder "Yn ddarostyngedig i reoliad 60(8),".
(21) Ar ddechrau rheoliad 60(7) mewnosoder "Yn ddarostyngedig i reoliad 60(9),".
(22) Ar ôl rheoliad 60(8), mewnosoder:
(23) Ar ddechrau paragraff 1 ac 11(1) o Atodlen 5, mewnosoder "Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt,".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y gofyniad i ysgolion a gynhelir i sefydlu cynghorau ysgol, a fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion drafod a gwneud sylwadau ar faterion ynglŷn â'r ysgol neu ar faterion eraill y maent yn ymboeni amdanynt.
Mae rheoliad 1 yn darparu bod y Rheoliadau'n dod i rym ar 31 Rhagfyr 2005 ac yn rheoliad 2 ceir y darpariaethau dehongli.
Mae rheoliad 3 yn gosod diben y cynghorau ysgol a dyletswyddau penaethiaid a chyrff llywodraethu o ran y cynghorau ysgol.
Mae rheoliad 4 yn gosod gofynion aelodaeth pob cyngor ysgol.
Mae rheoliad 5 yn darparu nad yw rhai darpariaethau penodol yn gymwys i ysgolion arbennig.
Mae rheoliad 6 yn darparu mai drwy bleidlais gyfrinachol y penodir i gyngor ysgol oni bai bod trefniadau yn cael eu gwneud i bob disgybl cofrestredig fod yn aelod o'r cyngor ysgol.
Mae rheoliad 7 yn darparu bod yn rhaid rhoi cyfle i aelodau penodol ar gyngor ysgol i ddod yn ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ac mae rheoliad 8 yn nodi'r diwygiadau i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a gellir ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Rheolaeth Ysgolion, yr Adran Hyfforddiant ac Addysg, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
2002 p.32.back
[2]
O.S. 2005/2914 (Cy.211).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091235 7
© Crown copyright 2005
Prepared
7 December 2005