Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005 Rhif 3111 (Cy.231)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053111w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 3111 (Cy.231)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
8 Tachwedd 2005 | |
|
Yn dod i rym |
11 Tachwedd 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), (26)(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[
2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[
3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 11 Tachwedd 2005.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "ategolyn bwyd" ("food supplement") yw unrhyw fwyd a fwriedir i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd—
(a) yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag iddi effaith faethol neu ffysiolegol, ar ei phen ei hun neu mewn cyfuniad; a
(b) yn cael ei werthu ar ffurf dogn;
mae i "awdurdod bwyd" ("food authority") yr un ystyr â "food authority" yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") o ran unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(a), awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd gan orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno.
ystyr "baban" ("infant") yw plentyn o dan ddeuddeg mis oed;
mae i "bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn" ("processed cereal-based food") a "bwyd babanod" ("baby food") yr ystyr a roddir iddynt yn Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004[4];
ystyr "Cyfarwyddeb 2001/15/EC" ("Directive 2001/15/EC") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/15/EC[5] ar sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/5/EC[6];
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "fferyllydd" ("pharmacist") yw person sy'n cynnal busnes fferyllol yn gyfreithiol o fewn ystyr adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968[7];
ystyr "fformiwla fabanod" ("infant formula") yw bwyd y bwriadwyd ei ddefnyddio'n faethol gan fabanod sydd mewn iechyd da yn ystod pedwar i chwe mis cyntaf eu bywyd ac sydd ar ei ben ei hun yn diwallu anghenion maethol y babanod hynny;
ystyr "fformiwla ddilynol" ("follow-on formula") yw bwyd y bwriadwyd ei ddefnyddio'n faethol gan fabanod sydd mewn iechyd da sy'n bedwar mis oed neu drosodd ac mae'n ffurfio'r brif elfen hylif mewn deiet sy'n amrywio'n gynyddol;
"ffurf dogn" ("dose form") yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau eraill tebyg, codenni o bowdr, ffiolau o hylif, poteli sy'n gweinyddu diferion, a ffurfiau eraill tebyg o hylifau neu bowdrau a luniwyd i'w cymryd mewn mesurau o unedau bach;
ystyr "tryptoffan" ("tryptophan") yw tryptoffan deheudroadol, tryptoffan chwithdroadol neu dryptoffan rasemig, neu unrhyw halwyn neu beptid a baratowyd o unrhyw un o'r ffurfiau hynny;
ystyr "tystysgrif feddygol briodol" ("appropriate medical certificate") yw tystysgrif ysgrifenedig a roddir gan ymarferydd meddygol cofrestredig fod ar berson angen bwyd yr ychwanegwyd tryptoffan ato i drin cyflwr y dadansoddodd yr ymarferydd meddygol cofrestredig fod y person hwnnw'n dioddef oddi wrtho;
mae "ysbyty" ("hospital") yn cynnwys clinig, cartref nyrsio neu sefydliad tebyg.
(2) Yn y Rheoliadau hyn o ran cyfeiriadau at ychwanegu tryptoffan at fwyd—
(a) nid ydynt yn cynnwys achosion lle y mae bwyd nad yw ond yn cynnwys tryptoffan sy'n digwydd yn naturiol ynddo yn cael ei ychwanegu at unrhyw fwyd arall o'r fath neu at fwyd nad yw'n cynnwys tryptoffan;
(b) ond maent fel arall yn cynnwys achosion lle y cafodd bwyd y cafodd tryptoffan ei ychwanegu ato ei ychwanegu at unrhyw fwyd arall,
ac nid yw cyfeiriadau yn rheoliad 4 a 5 at fwyd sy'n cynnwys tryptoffan yn cynnwys achos lle nad yw'r tryptoffan hwnnw ond yn digwydd yn naturiol yn y bwyd neu mewn cynhwysyn yn y bwyd.
Rhagdybiaeth
3.
Os eir yn groes i unrhyw ofynion yn y Rheoliadau hyn o ran unrhyw fwyd a bod y bwyd hwnnw'n rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, rhagdybir, hyd nes y profir i'r gwrthwyneb, fod yr holl fwyd yn y swp, lot neu lwyth hwnnw yn methu â chydymffurfio â'r gofynion hynny.
Gwaharddiadau
4.
Yn ddarostyngedig i reoliad 5 ni chaiff neb —
(a) ychwanegu tryptoffan at fwyd;
(b) gwerthu, neu gynnig ar werth, fwyd sy'n cynnwys tryptoffan
(c) arddangos ar werth fwyd sy'n cynnwys tryptoffan.
Eithriadau rhag y gwaharddiadau
5.
—(1) Caniateir gwerthu neu gynnig ar werth fwyd sy'n cynnwys tryptoffan—
(a) gan fferyllydd; neu
(b) yng nghwrs gweithgareddau ysbyty,
i berson y mae tystysgrif feddygol briodol ar ei gyfer neu i rywun sy'n gweithredu ar ran y person hwnnw, a—
(i) caiff unrhyw berson ychwanegu tryptoffan at fwyd y bwriedir ei werthu yn yr amgylchiadau hynny; a
(ii) caiff unrhyw berson werthu, neu gynnig ar werth, fwyd sy'n cynnwys tryptoffan er mwyn ei werthu yn yr amgylchiadau hynny.
(2) Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys o ran—
(a) tryptoffan chwithdroadol a ychwanegwyd at unrhyw fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol;
(b) tryptoffan chwithdroadol a ychwanegwyd at fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod; neu
(c) tryptoffan chwithdroadol, ei halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid a ychwanegwyd gan gydymffurfio â Chyfarwyddeb 2001/15/EC at unrhyw fwyd at ddefnydd maethol penodol y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Gyfarwyddeb honno,
os yw'r sylwedd hwnnw a ychwanegir yn cydymffurfio â'r meini prawf purdeb a bennir ar gyfer y sylwedd hwnnw yn Pharmacopoeia Ewrop[8].
(3) Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys o ran tryptoffan chwithdroadol a ychwanegwyd at unrhyw ategolyn bwyd—
(a) os yw'r tryptoffan chwithdroadol yn cydymffurfio â'r meini prawf a bennir ar gyfer y sylwedd hwnnw yn Pharmacopoeia Ewrop; a
(b) os nad yw'r dogn dyddiol a argymhellir ar gyfer yr ategolyn bwyd hwnnw yn fwy na 220 mg.
Tramgwyddau a chosb
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person sy'n mynd yn groes i reoliad 4 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Nid yw fferyllydd neu berson sy'n gweithredu yng nghwrs gweithgareddau ysbyty sy'n mynd yn groes i reoliad 4(b) yn unig oherwydd nad yw dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif feddygol briodol yn ddogfen ddilys yn cyflawni tramgwydd os oedd gan y person hwnnw, ar ôl arfer pob diwydrwydd dyladwy, achos rhesymol dros gredu bod y ddogfen yn dystysgrif feddygol briodol.
Gorfodi
7.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
(2) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ddosbarth o ran bwyd a fewnforiwyd.
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
8.
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod yn rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 2 (ystyr estynedig "sale" etc.);
(b) adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(d) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(dd) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(e) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd) uchod;
(f) adran 35(1)(cosbi tramgwyddau)[9] i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd) uchod;
(ff) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(g) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ng) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)[10]; ac
(h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Condemnio bwyd
9.
Pan gaiff unrhyw fwyd ei ardystio gan ddadansoddydd bwyd ei fod yn fwyd y mae'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w werthu, ceir trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf (y caniateir i fwyd gael ei atafaelu a'i ddifa ar orchymyn ynad heddwch oddi tani)[11] fel methiant i gydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
Dirymu
10.
—(1) Dirymir Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990[12] o ran Cymru.
(2) Dirymir rheoliad 10 o Reoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002[13] a rheoliad 14 o Reoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004[14].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[15].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi gyda diwygiadau Reoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990, fel y'u diwygiwyd, o ran Cymru. Yr oedd y Rheoliadau hynny'n rhychwantu Cymru a Lloegr.
2.
Mae tryptoffan yn asid amino. Mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i wahardd ychwanegu tryptoffan (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1)) at fwyd, a gwerthu, cynnig ar werth ac arddangos ar gyfer gwerthu fwyd sy'n cynnwys tryptoffan, yn ddarostyngedig i eithriadau (rheoliadau 2(2), 4 a 5).
3.
Dyma'r prif newidiadau sy'n cael eu hachosi gan y Rheoliadau hyn—
(a) ychwanegu eithriad newydd o'r gwaharddiadau yn y Rheoliadau o ran tryptoffan chwithdroadol a ychwanegir at ychwanegion bwyd os bodlonir amodau penodol (rheoliad 5(3));
(b) mewnosod cymhwysiad i'r eithriad bresennol o ran tryptoffan chwithdroadol, ei halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid a ychwanegwyd at fwydydd penodol ar gyfer defnydd maethol neilltuol o ran bod yn rhaid i'r sylwedd a ychwanegir gydymffurfio â meini prawf purdeb penodedig (rheoliad 5(2)).
4.
Mae'r Rheoliadau hefyd—
(a) yn parhau i ddarparu ar gyfer tramgwyddau a chosb (rheoliad 6);
(b) yn gwneud darpariaeth o ran gorfodi (rheoliad 7);
(c) yn cymhwyso darpariaethau amrywiol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliadau 8 a 9) ac yn cynnwys rhagdybiaeth o ran bwyd sy'n mynd yn groes i'r Rheoliadau mewn amgylchiadau penodol (rheoliad 3);
(ch) yn gwneud dirymiadau (rheoliad 10).
5.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o'r Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 21.7.98, t.37), sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau ac ar gyfer rheolau ar wasanaethau Cymdeithas Wybodaeth, fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L217, 5.8.98, t.18).
6.
Gellir cael Pharmacopoeia Ewrop o'r Llyfrfa (Rhif ffôn gwasanaethau cwsmeriaid 0870 600 5522; e-bost: customer.services@tso.co.uk).
7.
Paratowyd arfarniad rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) ac O.S. 2004/2990.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1996/672).back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4)back
[4]
O.S. 2004/314 (Cy.32).back
[5]
OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19, fel y mae wedi'i gywiro gan Gywiriad (OJ Rhif L253, 21.9.2001, t.34).back
[6]
OJ Rhif L14, 21.1.2004, t.19.back
[7]
1968 p.67; diwygiwyd adran 69 gan Ddeddf Fferyllwyr (Ffitrwydd i Ymarfer) 1997 (1997 p.19), yr Atodlen, paragraff 5, o ddyddiad sydd i'w bennu.back
[8]
Pharmacopoeia Ewrop Pumed Argraffiad, Cyfrol II (2004) Pub. y Gyfarwyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Ansawdd Meddyginiaethau, tudalennau 2636 i 2638.back
[9]
Diwygiwyd adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.back
[10]
Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.back
[11]
Diwygiwyd adran 9 ac adran 8 gan O.S. 2004/3279.back
[12]
O.S. 1990/1728, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2486, 2002/2939 (Cy.280), 2004/314 (Cy.32).back
[13]
O.S.2002/2939 (Cy.280) y mae diwygiad iddynt nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.back
[14]
O.S. 2004/314 (Cy.32).back
[15]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091214 4
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
15 November 2005
|