British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) (Cymru) 2005 Rhif 3110 (Cy.230)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053110w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 3110 (Cy.230)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
8 Tachwedd 2005 | |
|
Yn dod i rym |
21 Tachwedd 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 512ZB(4)(a)(iv) a 568 o Ddeddf Addysg 1996[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) (Cymru) 2005. Daw i rym ar 21 Tachwedd 2005 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Budd-dal rhagnodedig
2.
Mae Pensiwn Credyd y Wladwriaeth sy'n daladwy o dan adran 1 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002[
2] yn fudd-dal a ragnodwyd at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(vi) o Ddeddf Addysg 1996 mewn amgylchiadau lle mae'r rhiant yn derbyn yr elfen credyd gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r elfen credyd gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996. Yr effaith yw os yw rhiant yn derbyn yr elfen credyd gwarant mae gan ei blentyn hawl i gael ciniawau ysgol am ddim.
Notes:
[1]
1996 p.56. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol (gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 512 o Ddeddf 1996 ). Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 512ZB a 568 o Ddeddf 1996 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672. a'r cofnod ynglŷn â Deddf 1996 yn Atodlen 1 iddo), ac adran 211o Ddeddf Addysg 2002 (y mewnosododd adran 201ohoni adran 512ZB yn Neddf 1996).back
[2]
2002 p.16.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091215 2
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
15 November 2005
|