Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 Rhif 3051 (Cy.228)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053051w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 3051 (Cy.228)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
1 Tachwedd 2005 | |
|
Yn dod i rym |
7 Tachwedd 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] o ran mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[
3], fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor[
4] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2005.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae "anifail buchol" ("bovine animal") yn cynnwys—
(a) byfflo o rywogaeth Bubalus bubalis; a
(b) Bison bison;
ystyr "yr Asiantaeth" ("the Agency") yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
ystyr "awdurdod bwyd" ("food authority") yw'r corff perthnasol a bennir yn adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[5];
ystyr "awdurdod gorfodi perthnasol" ("relevant enforcement authority") yw'r awdurdod y mae dyletswydd arno yn rhinwedd rheoliad 7 i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;
ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority"), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984[6], yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
mae i "bwyd anifeiliaid" a "bwyd i bobl" yr ystyr sydd i "animal food" a "human food" yn eu tro yn Rheoliad 999/2001;
dehonglir "deunydd" a "cynnyrch" yn eu tro yn unol a'r ystyron sydd i "materials" a "products" ym Mhenderfyniad y Comisiwn.
mae i "gwrteithiau" yr ystyr a roddir i "fertilisers" yn erthygl 3.1(k) o Reoliad 999/2001
ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio anifeiliaid o'r fath rhag mesurau rheoli a difodi penodol a geir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001[7];
ystyr "Rheoliad 999/2001" ("Regulation 999/2001") yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau spyngffurf trosglwyddadwy penodol[8], fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1292/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001[9];
ystyr "rhoi ar y farchnad" ("place on the market") yw gwerthu, cyflenwi mewn unrhyw ffordd arall am dâl neu'n ddi-dâl a storio gyda golwg ar gyflenwi am dâl neu'n ddi-dâl a dehonglir "gafodd ei roi ar y farchnad" ("placed on the market") yn unol â hynny;
ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer"), o ran yr awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn ac mae'n cynnwys,
(a) o ran mangreoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995[10],
(i) milfeddyg a benodwyd yn swyddog awdurdodedig o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 8(1) o'r Rheoliadau hynny;
(ii) unrhyw berson arall a benodwyd yn swyddog awdurdodedig o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 8(2) o'r Rheoliadau hynny;
(b) o ran unrhyw fangreoedd sy'n fangreoedd wedi eu cyfuno at ddibenion y Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994[11], ac sydd wedi'u cymeradwyo oddi tanynt, person sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hynny; ac
(c) o ran unrhyw fangreoedd sy'n fangreoedd wedi eu cyfuno at ddibenion y Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995[12], person—
(i) a benodwyd yn swyddog awdurdodedig o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 12(2) o'r Rheoliadau hynny, neu
(ii) a awdurdodwyd i weithredu o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 12(3) o'r Rheoliadau hynny.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd
Gwaharddiad ar werthu cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol hyn
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb roi ar y farchnad unrhyw gynnyrch—
(a) sy'n cynnwys neu'n ymgorffori unrhyw ddeunydd sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996; a
(b) y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid neu wrteithiau.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn rhwystro llaeth sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 rhag cael ei roi ar y farchnad.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990
4.
Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990[13] yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)[14] gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 6(1) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod cyfeiriadau yn is-adran (4) at "sale or intended sale" yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at "placing on the market" fel y'i diffinnir yn Erthygl 3.1(b) o Reoliad 999/2001;
(c) adran 32 (pwerau mynediad);
(ch) adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
(d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)[15], i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(e) adran 35(2) a (3)[16] i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d);
(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)[17]; ac
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll gyda'r addasiad bod y cyfeiriadau at "food authority" yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at yr awdurdod gorfodi perthnasol).
Arolygu cynhyrchion amheus a chymryd meddiant ohonynt
5.
—(1) Caiff swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi perthnasol arolygu ar bob adeg resymol unrhyw gynnyrch a gafodd ei roi ar y farchnad a bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys pan fo'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig, wrth gyflawni'r arolygiad hwnnw neu am unrhyw achos rhesymol arall, fod unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 3 o ran unrhyw gynnyrch.
(2) Caiff y swyddog awdurdodedig naill ai—
(a) rhoi i'r person sydd â gofal dros y cynnyrch hysbysiad sy'n datgan nad yw'r cynnyrch nac unrhyw gyfran benodedig ohono—
(i) i'w roi ar y farchnad ymhellach i'w ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid na gwrteithiau hyd nes tynnir hysbysiad yn ôl, a
(ii) naill ai i beidio a chael ei symud oddi yno neu i beidio â chael ei symud oddi yno ac eithrio i rywle a bennir yn yr hysbysiad hyd nes tynnir hysbysiad yn ôl; neu
(b) cymryd y cynnyrch i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw.
(3) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵer a roddwyd gan baragraff (2)(a), rhaid i'r swyddog hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 niwrnod, benderfynu a yw wedi'i fodloni neu heb ei fodloni y cydymffurfiwyd â rheoliad 3 mewn perthynas â'r cynnyrch ac—
(a) os yw wedi'i fodloni felly, tynnu'r hysbysiad yn ôl ar unwaith; a
(b) os nad yw wedi'i fodloni felly, cymryd y cynnyrch i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw.
(4) Pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵer a roddwyd gan baragraff (2)(b) neu (3)(b), rhaid iddo hysbysu'r person sydd â gofal dros y cynnyrch o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw ac—
(a) bydd gan unrhyw berson a allai fod yn agored o dan reoliad 3 i erlyniad mewn cysylltiad â'r cynnyrch, os bydd y person hwnnw yn dod gerbron yr ynad heddwch y mae'n dod i'w ran i ymdrin â'r cynnyrch, hawl i gael gwrandawiad ac i alw tystion; a
(b) caniateir, ond nid oes rhaid, i'r ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y cyhuddir unrhyw berson ger ei fron o dramgwydd o dan yr adran honno mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw.
(5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail y dystiolaeth y mae'n ei hystyried ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod methiant i gydymffurfio â rheoliad 3 wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo gondemnio'r cynnyrch a gorchymyn—
(a) i'r cynnyrch gael ei ddistrywio neu ei waredu yn y fath fodd ag i'w atal rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer ei fwyta gan bobl; a
(b) i unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â'r distrywio neu'r gwaredu gael eu talu gan berchennog y cynnyrch.
(6) Os tynnir hysbysiad o dan baragraff (2)(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch, y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw gynnyrch o dan y rheoliad hwn, yn gwrthod ei gondemnio, rhaid i'r awdurdod gorfodi perthnasol dalu iawndal i berchennog y cynnyrch am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Rhaid i unrhyw gwestiwn sy'n destun dadl ynglyn â hawl i gael unrhyw iawndal neu ynglyn â swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) gael ei benderfynu drwy gymrodeddu.
Tramgwyddau a chosbau
6.
—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 3 neu'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau; neu
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
(3) Ni chaniateir cychwyn erlyniad am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i reoliad 3 neu fynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
(a) tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Gorfodi
7.
Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—
(a) gan yr Asiantaeth
(i) mewn mangreoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995,
(ii) mewn mangreoedd sy'n fangreoedd cyfunol at ddibenion Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1994 ac a gymeradwyir oddi tanynt, a
(iii) mewn mangreoedd sy'n fangreoedd cyfunol at ddibenion Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 ac a gymeradwyir oddi tanynt; a
(b) mewn unrhyw fangre arall, gan yr awdurdod bwyd y mae'r fangre yn ei ardal.
Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995
8.
Yn lle paragraff (3) o reoliad 3 (ystyr sgil-gynnyrch anifail) o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995[18] i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru rhodder y paragraff canlynol—
"
(3) In these Regulations the definition of "animal by-product" includes—
(a) any product subject to the prohibition imposed by regulation 3 of the Bovine Products (Restriction on Placing on the Market) (Wales) Regulations 2005; and
(b) any bovine carcase or body part in respect of which a direction for disposal has been given under regulation 10A(5) of the TSE (Wales) Regulations 2002[19]".
Dirymiadau
9.
Mae Rheoliadau Cig Ffres (Rheolaethau ar Gig Eidion) (Rhif 2) 1996[20] wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[21].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Tachwedd 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi ei heffaith i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio anifeiliaid o'r fath rhag mesurau rheoli a difodi penodol a geir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22).
2.
Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na ellir rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.
3.
Rhoddir effaith i'r gwaharddiad hwnnw gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn.
4.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd—
(a) yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 4);
(b) yn darparu ar gyfer archwilio a chymryd meddiant o gynhyrchion yr amheuir eu bod wedi cael eu rhoi ar y farchnad yn groes i reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 5);
(c) yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 6);
(ch) yn gwneud darpariaeth ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 7);
(d) yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614) i'r graddau y mae yn gymwys o ran Cymru, sy'n ganlyniadol i reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn a rheoliad 10A(5) o Reoliadau TSE (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1416 (Cy.142), a fewnosodwyd gan reoliad 4 o Reoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/ ) (rheoliad 8) ac
(dd) yn dirymu'r Rheoliadau Cig Ffres (Rheolaethau Cig Eidion) (Rhif . 2) 1996 (O.S.1996/2097) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 9).
5.
Paratowyd arfarniad rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Notes:
[1]
O.S. 2003/1246.back
[2]
1972 p. 68.back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back
[4]
OJ Rhif l245, 29.9.2003, t.4.back
[5]
1990 p.16back
[6]
1984 p.22.back
[7]
OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22back
[8]
OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1back
[9]
OJ Rhif L163, 23.6.2005, t.1back
[10]
O.S. 1995/539, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/731, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3124, O.S. 1995/3189, O.S. 1996/1148, O.S. 1996/2235, O.S. 1997/1729, O.S. 1997/2074, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1508 (Cy.105), O.S. 2001/1740 (Cy.123), O.S. 2001/1802 (Cy.131), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2627 (Cy.216), O.S. 2001/2198 (Cy.158) O.S. 2002/129 (Cy.17) ac O.S. 2002/1476 (Cy.148).back
[11]
O.S. 1994/3082, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/539, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1996/1499, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150) ac O.S. 2001/2198 (Cy.158) .back
[12]
O.S. 1995/3205, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3124, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131) ac O.S. 2000/2257 (Cy.150).back
[13]
1990 c. 16.back
[14]
Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.back
[15]
Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.back
[16]
Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.back
[17]
Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.back
[18]
O.S. 1995/614, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1955, O.S. 1996/3124, O.S. 1997/2073, O.S. 2000/656, O.S. 2002/1472 (Cy.146), ac O.S. 2003/1849 (Cy.199).back
[19]
O.S. 2002/1461 (Cy.141), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/2756 (Cy.267), O.S. 2004/2735 (Cy. 242), O.S. 2005/1392 (Cy.106) ac O.S. 2005/2902 (Cy.205).back
[20]
O.S. 1996/2097 a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/2522, O.S. 2000/656 ac O.S. 2000/3388 (Cy.225).back
[21]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091211 X
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
9 November 2005
|