British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005 Rhif 2911 (Cy.208)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052911w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 2911 (Cy.208)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
18 Hydref 2005 | |
|
Yn dod i rym |
31 Hydref 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 33(3) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[
1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2.
Dirymir Rheoliadadau Addysg (Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni) (Cymru) 1999[
2].
Dehongli
3.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Deddf 2002" ("
the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad mewn darpariaeth yn y Rheoliadau hyn—
(a) at y corff llywodraethu neu gorff llywodraethu ysgol yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r ddarpariaeth yn gymwys iddi;
(b) at riant yn gyfeiriad at riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol y mae'r ddarpariaeth yn gymwys iddi;
(c) at ysgol yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir o fewn ystyr "maintained school" yn adran 39(1) o Ddeddf 2002.
Esemptiad ar gyfer ysgolion arbennig ysbytai ac ysgolion byrddio.
4.
Mae corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni—
(a) os yw'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig sefydledig a gafodd ei sefydlu mewn ysbyty a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol cynnal cyfarfod o'r fath yn y flwyddyn ysgol honno; neu
(b) os yw'r ysgol yn ysgol a gynhelir heblaw un o fewn paragraff (a), a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol cynnal cyfarfod o'r fath yn y flwyddyn ysgol honno, a bod o leiaf 50% o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol yn ddisgyblion byrddio ar yr adeg y ffurfir y farn honno gan y corff llywodraethol.
Esemptiad i ysgolion sy'n cynnal cyfarfod ar ôl arolygiad
5.
Mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir gan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni am y flwyddyn ysgol y caiff y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (b) ei gynnal—
(a) os cafodd yr ysgol ei harolygu o dan adran 10 o Deddf Arolygu Ysgolion 1996[3] gan arolygydd cofrestredig, ac
(b) os yw'r corff llywodraethu, o fewn y cyfnod a ragnodwyd yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru)1998[4] ar gyfer paratoi cynllun gweithredu, wedi cynnal cyfarfod y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo i drafod adroddiad yr arolygydd cofrestredig.
Esemptiad i ysgolion sy'n cynnal cyfarfodydd eraill
6.
Os bydd y corff llywodraethu, mewn unrhyw flwyddyn ysgol, yn cynnal cyfarfod y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo, neu gyfres o gyfarfodydd a bod pob rhiant yn cael gwahoddiad i o leiaf un o'r gyfres, a bod—
(a) rhieni dim llai na 20% o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol yn mynychu'r cyfarfod neu o leiaf un mewn cyfres;
(b) rhieni yn cael cyfle yn y cyfarfod neu ym mhob un o'r gyfres o gyfarfodydd (yn ôl y digwydd) i drafod y dull y cafodd yr ysgol ei rhedeg, a'r dull y bydd yn cael ei rhedeg, a pherfformiad yr ysgol, ac
(c) tri neu fwy o lywodraethwyr yn mynychu'r cyfarfod neu bob cyfarfod yn y gyfres (yn ôl y digwydd),
mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni ar gyfer y flwyddyn ysgol y cynhelir y cyfarfod neu (yn ôl y digwydd) gyfres y cyfarfodydd ynddi.
Esemptiad os nad yw rhieni yn ymateb i'r hysbysiad o gyfarfod
7.
Mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir o dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni mewn unrhyw flwyddyn ysgol pan fydd yn rhoi i rieni gydag adroddiad y llywodraethwyr hysbysiad yn gofyn i rieni ddatgan yn ysgrifenedig o fewn cyfnod penodedig nad yw'n llai na 7 niwrnod os yw'n ofynnol ganddynt i'r corff llywodraethu gynnal cyfarfod blynyddol rhieni a bod rhieni llai na 5% o'r disgyblion cofrestredig yn ymateb o fewn y cyfnod penodedig.
Datgymhwyso esemptiadau
8.
Nid yw'r esemptiadau yn rheoliadau 5, 6 ac 7 yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn ysgol—
(a) os na chafodd cyfarfod blynyddol rhieni ei gynnal yn y flwyddyn flaenorol; neu,
(b) os yw'r corff llywodraethu, cyn 31 Mai yn y flwyddyn ysgol honno, yn cael cais ysgrifenedig gan rieni dim llai na 5% o'r disgyblion cofrestredig i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Hydref 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sydd wedi'u gwneud o dan adran 33(3) o Deddf Addysg 2002, yn darparu ar gyfer esemptio cyrff llywodraethu ysgolion rhag y gofyniad cyffredinol i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni mewn amgylchiadau penodol. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 31 Hydref 2005.
Mae rheoliad 2 yn dirymu y Rheoliadau Addysg (Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni) (Cymru) 1999.
Dyma'r amgylchiadau y bydd corff llywodraethu yn esempt rhag y gofyniad i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni danynt:
Rheoliad 4— os, yn achos ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig, yw'r ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty neu os yw'r ysgol yn ysgol fyrddio a gynhelir a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni;
Rheoliad 5— os cafodd yr ysgol ei harolygu gan Estyn ac y cafodd cyfarfod rhieni ei gynnal i drafod adroddiad yr arolygydd cyn bod y corff llywodraethu yn llunio'i gynllun gweithredu;
Rheoliad 6— os yw'r corff llywodraethu wedi cynnal cyfarfod neu gyfres o gyfarfodydd y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo neu iddynt ac a gafodd ei fynychu neu eu mynychu (yn ôl y digwydd) gan dri neu fwy o lywodraethwyr ac os yw'r rhieni wedi cael cyfle i drafod rhedeg yr ysgol yn y gorffennol ac yn y dyfodol;
Rheoliad 7— os yw'r corff llywodraethu yn rhoi i rieni gyda'i Adroddiad hysbysiad yn gofyn i rieni ymateb o fewn dim llai na 7 niwrnod os ydynt yn dymuno i'r corff llywodraethu gynnal y cyfarfod blynyddol rhieni ac os yw rhieni llai na 5% o'r disgyblion yn ymateb.
Mae rheoliad 8 yn datgymhwyso'r esemptiadau yn rheoliadau 5, 6 a 7 os na chynhaliwyd cyfarfod blynyddol rhieni yn y flwyddyn flaenorol neu os yw'r corff llywodraethu yn cael cais ysgrifenedig oddi wrth rieni 5% neu fwy o'r disgyblion cofrestredig i gynnal cyfarfod o'r fath.
Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i roi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk
). Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Rheolaeth Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
2002 p. 32. I gael diffiniad "regulations" gweler adran 212.
back
[2]
O.S. 1999/1407.back
[3]
1996 p.57.back
[4]
O.S. 1998/1866. Diwygiwyd rheoliad 8(1) gan O.S. 2004/784 (Cy. 81).back
[5]
1998 c.38.back
English version
ISBN
0 11 091198 9
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
24 October 2005
|