British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005 Rhif 2907 (Cy.206)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052907w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 2907 (Cy.206)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
19 Hydref 2005 | |
|
Yn dod i rym |
20 Hydref 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005; deuant i rym ar 20 Hydref 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Darparu gwybodaeth ar brisiau cynhyrchion llaeth
2.
—(1) Rhaid i broseswr llaeth ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth y bydd y Cynulliad yn gofyn amdani drwy hysbysiad at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth[
3].
(2) Caiff yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i'r proseswr llaeth ddarparu'r wybodaeth ofynnol yn wythnosol, a chaiff bennu'r amser a'r diwrnod erbyn pryd y bydd rhaid darparu'r wybodaeth a ffurf yr wybodaeth.
Tramgwydd
3.
Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1) yn euog o dramgwydd, ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 20 Hydref 2005, yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweithredu erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 (OJ Rhif L95, 14.4.2005, t.11) sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth.
Mae Rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i broseswyr llaeth ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad yn gofyn amdani drwy hysbysiad ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth penodol. Mae methu cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (rheoliad 3).
Cafodd arfarniad rheoliadol llawn ar yr effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes ei baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S. 2005/1971.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
OJ Rhif. L95, 14.4.2005, t.11.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091199 7
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
25 October 2005
|