British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005 Rhif 2840 (Cy.204)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052840w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 2840 (Cy.204)
IECHYD ANIFEILIAID, CYMRU
Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
11 Hydref 2005 | |
|
Yn dod i rym |
20 Hydref 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 14A(1)(b) a (8)(c) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1] yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 20 Hydref 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cymhwysedd Adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981
2.
Mae Adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Cynllun cenedlaethol wrth gefn) yn gymwys o ran ffliw adar a chlefyd Newcastle.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod gofynion adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 p.42) yn gymwys i Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle. Mae Adran 14A yn darparu ar gyfer paratoi cynlluniau cenedlaethol wrth gefn sy'n dynodi'r trefniadau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu eu gosod yn eu lle er mwyn delio â'r clefyd os digwydd.
Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Gorchymyn hwn ar gostau busnes a cheir copiau gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1981 p.22 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42). Mewnosododd adran 18 o Ddeddf 2002 adran 14A yn Neddf 1981, gan roi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru. Estynnodd y Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cymru a Lloegr) 2003 (O.S. 2003/1734) bwerau penodol yn Neddf 1981 y gellir eu harfer o ran clwy'r Traed a'r Genau i ffliw adar a chlefyd Newcastle.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091195 4
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
19 October 2005
|